Wednesday, February 04, 2015

Llafur watch - rhan 6

Mae'n edrychiad ni heddiw i ddulliau Llafur o gamarwain etholwyr yn mynd a ni ymhell o Arfon, ac yn wir ymhell o Gymru - rydym yn mynd i'r Alban ac hynny yn sgil y polau Ashcroft cwbl drychinebus o safbwynt Llafur.

Mae'r hen gelwydd 'Vote SNP, Get Tory' yn un cyfarwydd iawn i ni yng Nghymru - ond gyda'r geiriau Plaid Cymru yn cymryd lle SNP yma wrth gwrs.  Y drwg - o safbwynt Llafur - ydi nad oes neb yn credu honna y tro hwn.  Mae'r SNP wedi datgan yn glir na fyddan nhw yn cefnogi llywodraeth Doriaidd a'u bod yn awyddus i gefnogi llywodraeth Lafur - am bris, ac mae'r ffaith eu bod yn blaid lywodraethol yn yr Alban yn sicrhau bod y neges honno yn cael ei chlywed yn ddigon clir gan yr etholwyr.  Dydi'r ffaith i Lafur yn yr Alban dreulio'r rhan fwyaf o'r llynedd yn dweud celwydd law yn llaw a'r Toriaid ddim yn help wrth gwrs

Yr ateb i'r broblem fach yma ydi cyfnewid un celwydd am un arall - neu o leiaf ei chyfnewid am amrywiaeth ar y celwydd cyntaf.  Yr honiad diweddaraf ydi mai'r blaid fwyaf sy'n cael ffurfio llywodraeth, a bod pob sedd mae'r SNP yn ei hennill yn ei gwneud yn fwy tebygol mai'r Toriaid fydd y blaid fwyaf.  Dydi hyn ddim mymryn mwy gwir na'r celwydd cyntaf wrth gwrs - fel mae'r cyngor cyfansoddiadol a'r dyfyniad o reoliadau'r cabinet isod yn dangos.  

Y sefyllfa mewn gwirionedd ydi mai'r prif weinidog ar y pryd sy'n cael y cynnig cyntaf i ffurfio llywodraeth, ac os nad yw'n llwyddo mae arweinydd yr wrthblaid yn cael cynnig i wneud hynny.  Dyna ddigwyddodd yn 2010.

 Hyd yn oed petai'r celwydd sy'n cael ei wyntyllu gan y Blaid Lafur yn wir, dydi hi ddim yn bosibl i blaid na all sicrhau mwyafrif ar lawr Ty'r Cyffrefin basio deddfau nag unrhyw beth arall.  Byddai'n rhaid wrth etholiad arall mewn ychydig wythnosau.








No comments: