Monday, May 05, 2014

Y PSNI a Gerry Adams

Waeth i mi ddweud pwt am stori fawr yr ychydig ddyddiau diwethaf - arestio a rhyddhau arweinydd Sinn Fein, Gerry Adams.  Mae'n weddol amlwg bellach bod y penderfyniad yn gamgymeriad sylweddol o ran y PSNI - camgymeriad a allai'n hawdd fod a goblygiadau pell gyrhaeddol.

I ddechrau gair neu ddau am yr amseriad.  Cafodd Adams ei arestio  dair wythnos cyn etholiadau lleol ac Ewropiaidd ar draws yr ynys, a thri diwrnod wedi i bol piniwn awgrymu symudiad sylweddol i gyfeiriad SF yn y Weriniaeth.  Mae yna hen hanes - yn y De a'r Gogledd fel ei gilydd o ymgeisiadau gan yr heddlu i ymyryd mewn etholiadau trwy arestio pobl yn ystod yr wythnosau cyn etholiadau.  Hyd yn oed os nad oedd ymgais yn cael ei gwneud i effeithio ar yr etholiadau does yna neb yn credu nad oedd cysylltiad, ac o ganlyniad bydd y canfyddiad o blismona gwleidyddol - sy'n bodoli eisoes - yn cael ei atgyfnerthu.  Anaml iawn y bydd ymyraethau o'r fath yn llwyddo, ac mae'n rhyfeddol nad ydi'r wers byth yn cael ei dysgu.

Pen draw hyn oll oedd Adams yn eistedd wrth fwrdd - yn gwneud y busnes urddas, grafitas a rhesymoldeb mae mor dda am ei wneud - gydag ymgeiswyr am etholiadau sydd ar fin digwydd yn eistedd y naill ochr a'r llall iddo yn derbyn cyhoeddusrwydd Byd eang - cyhoeddusrwydd fyddai wedi costio cannoedd o filoedd i'w brynu - petai modd prynu cyhoeddusrwydd o'r fath. Ond mae'r holl stori yn codi cwestiynau ehangach na thyptra'r PSNI - rhai sy'n mynd i graidd yr holl wrthdaro yn y Gogledd.

Dwi'n meddwl bod Peter Hain (cyfweliad BBC dydd Sul) yn anghywir i awgrymu y gallai'r penderfyniad i arestio Adams gael goblygiadau i'r sawl oedd yn gyfrifol am lofruddiaethau Bloody Sunday.  Er bod enwau'r sawl oedd yn gyfrifol am y llofruddiaethau hynny yn hysbys i'r awdurdodau, mae'r ffaith iddynt roi tystiolaeth i ymchwiliad Saville am y digwyddiad yn ei gwneud yn anodd i ddod ac achos yn eu herbyn - roedd yn un o amodau tystio yn yr ymchwiliad hwnnw na allai'r dystiolaeth gael ei ddefnyddio mewn llys barn.  Byddai'n anodd gwahanu'r hyn a gododd yn ymchwilad Saville oddi wrth dystiolaeth sy'n annibynnol o'r ymchwiliad hwnnw.  Dyna, gyda llaw pam nad yw'n debygol y bydd Martin McGuiness yn ymddangos o flaen ei well ar gyhuddiad o aelodaeth o'r IRA - mae eisoes wedi cyfaddef i hynny yn ymchwiliad Saville.

Serch hynny mae yna ddigon o achosion eraill lle y gellid dod a chyhuddiadau yn erbyn milwyr Prydeinig.  Mae enw Jean McConville yn adnabyddus oherwydd ei fod yn cael ei godi yn yr wythnosau sy'n arwain at pob etholiad yn yr Iwerddon - traddodiad gwleidyddol o chwifio amdo bellach.  Ond lladdwyd 400 o bobl eraill yn 1972 - ac mae bron i pob un o'r marwolaethau hynny wedi mynd yn angof i bawb ond teuluoedd yr ymadawedig.  Y flwyddyn flaenorol lladdwyd mam arall.  Joan Conolly - nid bod prin i neb yn gwybod ei henw.  Saethwyd wyneb Mrs Connolly i ffwrdd gan aelod o 2Paras oedd y tu mewn i orsaf Henry Taggart yn Ballymurphy, wedi iddi fynd allan i chwilio am ei phlant yn ystod cyfnod o saethu rhwng gwahanol garfannau yn yr ardal.  Lladdwyd pump o sifiliaid eraill ar yr un noson gan filwyr oedd yn saethu o'r tu mewn i Henry Taggart neu o adeiladau cyfagos - un ohonynt yn dad i ddeg o blant, ac un arall yn offeiriad.  Gadawodd Mrs Connolly wr ac wyth o blant.  Ei gwallt coch oedd yr unig ffordd oedd gan ei theulu o'i hadnabod.  Daeth rhai o'r plant i wybod am farwolaeth eu mam tra'n gwylio'r newyddion.  Mae'r PSNI yn gwybod enw'r sawl a'i saethodd - a'r sawl a saethodd y pump arall - ond dydyn nhw ddim wedi dangos unrhyw ddiddordeb mewn dod a chyhuddiadau.

A bod yn deg byddai'r achos yma - fel un Jean McConville - yn gymharol gymhleth  gan i gymaint o flynyddoedd fynd rhagddynt ers y digwyddiad, ond mae yna rhai symlach.  Er engraifft aeth nifer o gyn filwyr Prydeinig ati i frolio mewn rhaglen Panorama cymharol ddiweddar iddynt ddienyddio nifer o bobl gan gynnwys sifiliaid.  Byddai dyn yn disgwyl - os ydi Adams yn cael ei holi am lofruddiaeth a ddigwyddodd deugain a dwy o flynyddoedd yn ol y byddai codi pobl i'w holi am gyfaddefiadau cwbl agored a diweddar iawn yn llawer haws.  Bydd y cyhuddiad o blismona
gwleidyddol yn sefyll tan y bydd y PSNI yn mynd i'r afael a'r materion yma hefyd (rhywbeth sy'n anhebygol iawn o ddigwydd)  neu tan y bydd  cytundeb call yn dod i fodolaeth ynglyn a sut i fynd i'r afael a'r gorffennol.

Canfyddiad bod strwythurau'r wladwriaeth yn ffafrio un ochr o'r hollt diwylliannol ac yn erlid y llall oedd un o'r prif achosion tros y rhyfel hir yng Ngogledd Iwerddon.  Mae'r ffordd drwsgl aeth y PSNI ati'r wythnos diwethaf yn dangos i lawer o bobl nad ydi'r sefyllfa wedi newid yn sylfaenol.  Mae hynny yn niweidiol i'r PSNI - ac mae'n debygol o fod yn etholiadol fanteisiol i Sinn Fein.  Os nad ydych yn fy nghredu ynglyn a charedigrwydd y PSNI tuag at SF edrychwch ar y llun isod - rali etholiad Ewrop y blaid heno ym Melfast - roedd yna 800 o bobl yno yn gwrando ar Adams.



6 comments:

Anonymous said...

Dwi wedi darllen trwy'r ddau ddarn a fedra i ddim gweld gair am Adams yn bod yn ddyn da na Clarkson yn ddyn drwg.

Wyt ti'n siwr dy fod yn gallu darllen yn iawn Warren?

Anonymous said...

Mr Whitmore, os oes gennych dystiolaeth o'r hyn rydych yn ei honni mae'n ymddangos bod y PPS yn chwilio am dystiolaeth ychwanegol ar hyn o bryd. Os nad ydych efo tystiolaeth pellach efallai y byddai'n ddoeth i beidio a taflu cyhuddiadau o gwmpas, yn arbennig ag ystyried yr hyn sydd newydd ddigwydd.

Unknown said...

Pryd fydd y milwyr Prydeinig ddaru llofruddio 13 o Babyddion heb arfau na dim yn gweld cyfiawnder. Neu, oherweydd maen nhw'n gwisgo lifrai Prydeinig maen nhw uwchlaw y gyfraith? 'Mond gofyn! Un rheol i un....?

Cai Larsen said...

Warren - dwi wedi chwalu dy sylw oherwydd bod honiad yno a allai achosi problemau cyfreithiol. Os ti eisiau gwneud honiadau felly defnyddia dy wefan dy hun plis.

O ran gweddill y sylw, mae Anhysb 12:18 yn bod rhywfaint yn angharedig, ond mae ei bwynt yn un teg. Blog gwleidyddol ydi hwn, nid un sy'n didoli unigolion yn bobl dda neu bobl ddrwg. Mae yna flogiau eraill sy'n gwneud y math yna o beth - rhai crefyddol er enghraifft.

Cai Larsen said...

Ymysodiadau personol a gosodiadau di sail ydi'r rheswm pam bod dy sylwadau wedi mynd y tro hwn Warren.

Mi geith dy sylwadau eu cyhoeddi os wyt ti'n llwyddo i osgoi gosodiadau celwyddog, ymysodiadau personol a sylwadau allai achosi problemau cyfreithiol i mi. Mewn geiriau eraill cant eu cyhoeddi os wnei di lwyddo i ymarfer mymryn o synnwyr cyffredin.

Dydi o ddim yn anodd. Tria fo.

Alwyn ap Huw said...

Er fy mod yn cytuno a 99.9% o dy sylw mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad a'r PSNI. Os oedd y PSNI wedi bod yn chwilio'r dystiolaeth, ac wedi dod i'r canlyniad bod y llwybr dystiolaeth wedi arwain at achos arestio teg, ond wedi oedi oherwydd yr etholiad, bydda'r heddlu druan mewn cymaint o gac o'r ochr arall.

Mae arestio pobl am "droseddau hanesyddol" o'r trafferthion o'r naill ochr neu'r llall, fel mae peidio arestio pobl o'r naill ochr neu'r llall - yn arwain at gyhuddiadau o blismona gwleidyddol. Mae'r PSNI druan mewn cylch dieflig o beidio ennill trwy fethu colli.

Tristwch y sefyllfa yw bod gwleidyddion o'r ddwy ochr (gan gynnwys Sinn Fein) yn gwrthwynebu creu amnest a Thribiwnlys Cymodi gan fod gymaint o fantais yn y gêm wleidyddol o gwyno "nis arestiwyd naill nad arestiwyd llall" ac "arestiwyd hwn ar gam" I beidio ceisio Cymod go iawn.

Tra bod gwleidyddion yn defnyddio'r PSNI fel darn chware yn eu gêm wleidyddol, bydd dim modd i'r PSNI ymddwyn fel gwasanaeth heddlu sifil niwtral go iawn.