Monday, May 19, 2014

Pol Cymreig arall - y gwersi i'w cymryd

  • Dwi ddim yn meddwl bod manylion pol diweddaraf YouGov ar gael eto  (mewn cyd weithrediad ag ITV a Chanolfan Llywodraethiant Cymru y tro hwn), ond wele'r canfyddiadau isod.
Petai pawb yn pleidleisio byddai'r canlyniadau fel a ganlyn.   

  • Llafur 33% (-6)
  • UKIP 23% (+5)
  • Toriaid 16% (-1)
  • Plaid Cymru 15% (+3)
  • Lib Dems 7% (dim newid)
  • Eraill 8% (+1)
Mae margin for error+\- 3% ar y ffigyrau hyn - felly maent yn awgrymu tri chanlyniad posibl - 2 Llaf, 1 UKIP ac 1 Tori neu 2 Llafur, 1 UKIP ac 1 Plaid Cymru, neu un sedd yr un i Lafur, Toriaid, UKIP a Phlaid Cymru.

Ag ystyried y bobl sy'n dweud eu bod yn sicr o bleidleisio, mae sefyllfa Plaid Cymru yn cryfhau, ond mae'r stori sylfaenol (ar margin for error o +\- 4% y tro hwn) yn aros yr un peth - yr un cyfuniad o ganlyniadau sy'n bosibl. 

  • Llafur 32%
  • UKIP 22%
  • Toriaid16%
  • Plaid Cymru 17%
  • Lib Dems 7%
  • Eraill 5%
Felly mae negeseuon sylfaenol yr ymarferiad yn gwbl glir - mae Llafur ac UKIP yn siwr o gael un sedd,  mae'r frwydr am y sedd olaf rhwng Plaid Cymru, Llafur a'r Toriaid.  Dydi hi ddim yn bosibl i'r Lib Dems gael sedd a dydi hi ddim yn bosibl i'r Blaid Werdd gael sedd. Mae pethau yn dyn iawn, iawn am y sedd olaf.

Un fforwm rhyngwladol sydd gan Gymru mewn gwirionedd - Ewrop.  Byddai'n drychineb i Gymru petai'r wlad yn cael ei chynrychioli ar y llwyfan rhyngwladol hwnnw gan genhadon y rwdlan senoffobaidd, cyntefig rydym wedi ei glywed o gyfeiriad UKIP ar pob lefel - o'r arweinydd i aelodau cyffredin - tros yr wythnosau diwethaf - tra bod llais cenedlaetholdeb goddefgar, eangfrydig a blaengar y Blaid wedi ei ddiffodd.  Byddai'r wlad yn edrych yn wirion ar lwyfan rhyngwladol.  

Gan bod pethau mor dyn mae yna gryn dipyn y gellir ei wneud i atal hynny rhag digwydd.  Gan mai oddeutu 30% yn unig fydd yn pleidleisio mae eich pleidlais werth ddwywaith cymaint mewn etholiad Ewrop na mewn etholiad San Steffan.  Pleidleisiwch, i'r Blaid ac anogwch bobl eraill sy'n casau senoffobiaeth cul UKIP i wneud hynny hefyd.

Un gair bach gobeithiol cyn gorffen - yn ystod dyddiau olaf ymgyrch etholiadol mae cyfeiriad newidiadau polio yn aml yr un mor bwysig na'r ffigyrau eu hunain.  Mae cyfeiriad y newidiadau mae'r pol yma yn ei ddangos yn gadarnhaol iawn o safbwynt y Blaid ac yn negyddol iawn o safbwynt Llafur. 


3 comments:

Anonymous said...

Mi fydda i'n pleidleisio i Blaid Cymru fel mewn pob etholiad arall. Ond mae rhywbeth yn bod os yw'r unig blaid genedlaethol Gymreig yn ymladd am ei bywyd Ewropeaidd ac yn dibynnu ar ganran isel o bleidleisio a theyrngarwch pobl fel finne.

Os bydd Jill Evans yn cae ei hethol, ai jysd gosod papur dros y craciau by byddwn?

Anonymous said...

Dwi methu deall pam fod y Blaid wedi gwrthod gwneud a rhoi dadl genedlaetholgar yn yr etholiad hon.

Dadl o blaid cenedligrwydd Gymreig Ewropeaidd.

Does dim 'pleidleisiwch i'r Blaid achos fod Cymru'n genedl Ewropeaidd'. Hynny yw, apelio at Gymreictod syml gêm rygbi Cymru.

Na chwaith ymosod ar UK am geisio troi Cymru'n ranbarth o Loegr gyda pobl sydd methu yngannu enwau eu pentref Gymreig yn gywir ond yn son am 'effaith mewnfudo'.

Anonymous said...

Dwedais rhai wythnosau yn ôl mai camgymeriad difrifol oedd canolbwyntio ymgyrch Plaid yng nghyferiad UKIP. Byddai Tories, Llafur a LibDems Lloegr yn gwneud y jobyn 'na. Yn wir, os dych chi'n llwyddo i droi rhywun oddi wrth bleidleisio i UKIP, pleidleisio i'r Tories nac i Lafur y gwnânt.

Troi pleidleiswyr Llafur y cymoedd at y Blaid, troi Liberals a Greens y canolbarth, a throi ffarmwrs y gogledd at genedlaetholdeb a ddylai Plaid Cymru ei wneud yn yr etholiad hwn.

Fel ym mhob etholiad...

Phil Davies