Saturday, May 03, 2014

Gair neu ddau am Mr Clarkson

Ag ystyried darllenwyr tybygol Golwg360 mae dipyn yn rhyfedd bod eu rhestr o bechodau Jeremy Clarkson yn cynnwys dweud y dylai pobl sy'n mynd ar streic gael eu saethu, dweud rhywbeth neu'i gilydd sydd i'w wneud efo pobl o Japan a mynegi'r farn bod y sawl sy'n dewis cyflawni hunan laddiad trwy neidio o flaen tren yn hunanol.  Does yna ddim son am fynych sylwadau gwrth Gymraeg Clarkson - megis ei ddamcaniaeth ddiddorol y dylai'r iaith gael ei dileu.  Tystiolaeth bod naratif hyd yn oed y cyfryngau cyfrwng Cymraeg yn cael ei yrru gan naratif ehangach Seisnig o bosibl.

Ta waeth, pwynt arall sydd gen i mewn gwirionedd - neu o bosibl yr un pwynt ar wedd arall. Mae'n ddiddorol bod y Bib yn bygwth sacio Clarkson oherwydd iddo wneud defnydd o'r gair nigger, a bod Clarkson ei hun yn teimlo'r angen i - am unwaith yn ei fywyd - ymddiheuro.  Mae'r ddau beth yn gysylltiedig wrth gwrs.

Mae'r term yn gwbl anerbyniol, ond mae'r stori yn cefnogi dadl sydd wedi ei gwneud ar y blog hwn yn fynych. Mae'r sawl sydd yn gwneud sylwadau gwrth Gymraeg yn gyhoeddus yn aml yn bobl fyddai wrth eu bodd - petaent yn gallu - yn gwneud sylwadau dilornus cyhoeddus am bobl o hilau neu gefndiroedd crefyddol eraill.  Dydyn nhw ddim yn gwneud hynny am nad ydynt yn cael gwneud hynny, felly maent yn mynd ar ol yr unig grwpiau lleiafrifol sydd ar gael o bosibl  - Cymry a Chymry Cymraeg.  Dydi'r Bib ddim yn awyddus i fygwth sacio neb am sylwadau gwrth Gymreig wrth gwrs, felly dydi Clarkson ddim yn  trafferthu ymddiheuro.

Adlewyrchiad ydi hyn  o hierarchiaeth answyddogol sydd ynghlwm a'r diwylliant ehangach Prydeinig.  Mae'r grwpiau na ellir eu pardduo yn rhan o gymdeithas ehangach yn Lloegr.  Mae caniatau ymysodiadau cyhoeddus arnynt yn bygwth cydlynedd cymdeithasol yn Lloegr.  Felly dydi ymysodiadau o'r fath ddim yn cael eu caniatau.  Dydi Cymry - Cymraeg na fel arall - ddim yn rhan o gymdeithas yn Lloegr, felly dydi eu pardduo ddim yn bygwth cydlynedd cymdeithasol yn Lloegr, Felly mae'n lled dderbyniol.  Diwylliant Seisnig ydi diwylliant Prydeinig yn y pen draw, ac ystyriaethau Seisnig sy'n bwysig.


No comments: