Saturday, May 24, 2014

Tic, tic

Reit - gair neu ddau am etholiadau Ewrop.  Dydi'r canlyniad yr etholiad ddim yn glir eto.  Mae'r etholiadau lleol yn Lloegr yn rhoi syniad go glir i ni o'r hyn sydd.yn debygol o ddigwydd - ond mae yna ddau beth i'w ddweud am hynny.  

Mae yna rhai - John Stevenson ar Pravda Cymru y bore 'ma er enghraifft yn ein sicrhau ni'n llawen bod canlyniadau Llafur yn 'barchus iawn' yn etholiadau lleol Lloegr.  Os ydi'r Blaid Lafur eisiau meddwl hynny, rhyngddyn nhw a'u pethau, ond y gwir ydi bod y canlyniad yn un sal iddyn nhw.  Mae gan y Blaid Lafur hen hanes o ganmol tywydd braf yn y bore - a gwneud hynny cyn crenshan y data.  31% fyddan nhw wedi ei gael mewn etholiad cyffredinol.   Roedd y Toriaid ar 29%.  Dydi buddugoliaethau ar lefel San Steffan ddim yn cael eu hadeiladu gan wrthbleidiau ar berfformiad fel hyn flwyddyn cyn etholiad.

O son ar ddata mi awn ati i edrych ar Gymru.  Does yna ddim data.  Does yna ddim un pleidlais wedi ei chyfri  - ond mae yna ddarlun tameidiog yn dechrau ymddangos.  Cafodd y pleidleisiau eu dilysu fore ddoe - a phan fydd hynny yn digwydd mae cynrychiolwyr y pleidiau yn mynd i sbecian, a gellir dod i gasgliadau o hynny.  Peidiwch a fy ngham ddeall i rwan - dydi'r ymarferiad ddim mor gywir a thalio arferol yn ysdod y cyfri - mae'r dilyswyr i fod i guddio'r pleidleisiau.  Mae rhai yn fwy llwyddiannus na'i gilydd am wneud hynny.  

Yn ol Jonathan Edwards ar trydar mae'n ymddangos i'r Blaid ennill ym mhob ward yn Nwyrain Caerfyrddin.  Mae'r patrwm yn debyg yng Ngwynedd efo'r Blaid ar y blaen yn gyfforddus ar y blaen yn y rhan fwyaf o wardiau Gwynedd ac nid y Blaid Lafur oedd yn ail mewn llawer iawn ohonynt - er gwaethaf eu 'llwyddiant' honedig yn Lloegr.  Mae'r Blaid Lafur yng Ngwynedd yn cydnabod yn breifat iddyn nhw wneud yn wael.  Gwynedd ydi Gwynedd wrth gwrs a Dwyrain Caerfyrddin ydi Dwyrain Caerfyrddin, ond mae'r ddau awgrym - a dyna ydyn nhw ar hyn o bryd - yn awgrymu bod y Blaid wedi bod yn well o lawer am gael ei phleidlais allan na Llafur.  Mae'n ddigon posibl felly y bydd perfformiad y Blaid yn well na'r hyn a awgrymwyd gan y rhan fwyaf o bolau YouGov. Mae'n bosibl hefyd mai Vaughan Roderick oedd yn darogan yn gywir trwy'r amser. Ac mai 1/1/1/1 fydd y canlyniad unwaith eto.  Yr unig beth sydd yn gwneud i mi ddal fy nhafod braidd ydi'r ffaith mai ychydig iawn o bleidleisiau Toriaidd oedd i'w gweld yng Ngwynedd yn ol y son.

No comments: