Efallai nad ydi pawb sy'n darllen Blogmenai yn gyfarwydd efo papurau tali. Papurau ydyn nhw sy'n cael eu defnyddio i nodi sampl o bleidleiswyr fel mae bocsus pleidleisio yn cael eu gwagio. Mae hyn yn amlwg yn rhoi syniad i bleidiau gwleidyddol o lefel eu cefnogaeth mewn gwahanol wardiau. Mae'r un yn y llun yn un go iawn a gymerwyd wrth i'r bocsus gael eu gwagio fore Gwener.
Felly dyma gysyadleuaeth bach i ddarllenwyr Blogmenai. Sampl o focs ym mha bentref ydi hwn? Dim gwobr mae gen i ofn - oni bai fy mod yn gallu dwyn perswad ar y Cynghorydd Sion Jones, Bethel i fynd a'r enillydd allan am ginio yn Gors Bach.
4 comments:
Trist bod UKIP yn ail Arno
Roeddwn yn samplo yn Aberaeron nos Iau, PC yn bendant ar y blaen, UKIP yn bendant yn ail. Mae sibrydion ar led y gall UKIP ennill dwy sedd yng Nghymru, dyna drychineb - anghytuno gyda'r dyfalu yna ydw i a chredaf mae 1-Llaf, 1-UKIP, 1-PC ac un Dori yn y drefn honno fydd hi.
Rhyfedd clywed Paul Flynn yn awgrymu ar Radio Wales y bydd UKIP ar frig y poll yng Nghymru gan ddod yn ail cryf trwy'r Cymoedd. Lle nesaf i PC os di'r Cymoedd, hyd yn oed wrth droi cefn ar Lafur, yn gweld dim apel yn y Blaid.
Hollol - mae'n amlwg nad yw PC, gyda'i gweledigaeth pro-Ewropeaidd cryf, yn deall natur dosbarth gweithiol Cymru bellach. Wrth ganfasio, fe wnes ddod ar draws llawer o Gymry Cymraeg oedd yn bwriadu pleidleiso i PC, oedd serch hynny yn amheus o bwerau Ewrop, ac yn bryderus am fewnlifiad. Nid yw hynny'n eu gwneud yn adain-dde nac yn 'Anghymreig' . Am unwaith (Prin), fe welodd Dafydd Ellis-Thomas hi'n graff.
Hyd y gwelaf, ers ethol Leanne Wood yn arweinydd, lleihau mae gobeithion PC yn y de.
Post a Comment