tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post5348457339418209187..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Y PSNI a Gerry AdamsCai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger6125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-28043905463402666972014-05-07T06:01:31.144+01:002014-05-07T06:01:31.144+01:00Er fy mod yn cytuno a 99.9% o dy sylw mae gennyf r...Er fy mod yn cytuno a 99.9% o dy sylw mae gennyf rywfaint o gydymdeimlad a'r PSNI. Os oedd y PSNI wedi bod yn chwilio'r dystiolaeth, ac wedi dod i'r canlyniad bod y llwybr dystiolaeth wedi arwain at achos arestio teg, ond wedi oedi oherwydd yr etholiad, bydda'r heddlu druan mewn cymaint o gac o'r ochr arall.

Mae arestio pobl am "droseddau hanesyddol" o'r trafferthion o'r naill ochr neu'r llall, fel mae peidio arestio pobl o'r naill ochr neu'r llall - yn arwain at gyhuddiadau o blismona gwleidyddol. Mae'r PSNI druan mewn cylch dieflig o beidio ennill trwy fethu colli.

Tristwch y sefyllfa yw bod gwleidyddion o'r ddwy ochr (gan gynnwys Sinn Fein) yn gwrthwynebu creu amnest a Thribiwnlys Cymodi gan fod gymaint o fantais yn y gêm wleidyddol o gwyno "nis arestiwyd naill nad arestiwyd llall" ac "arestiwyd hwn ar gam" I beidio ceisio Cymod go iawn.

Tra bod gwleidyddion yn defnyddio'r PSNI fel darn chware yn eu gêm wleidyddol, bydd dim modd i'r PSNI ymddwyn fel gwasanaeth heddlu sifil niwtral go iawn.
Alwyn ap Huwhttps://www.blogger.com/profile/06194724336424525283noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-13737361036134104202014-05-06T22:20:15.720+01:002014-05-06T22:20:15.720+01:00Ymysodiadau personol a gosodiadau di sail ydi'...Ymysodiadau personol a gosodiadau di sail ydi'r rheswm pam bod dy sylwadau wedi mynd y tro hwn Warren.

Mi geith dy sylwadau eu cyhoeddi os wyt ti'n llwyddo i osgoi gosodiadau celwyddog, ymysodiadau personol a sylwadau allai achosi problemau cyfreithiol i mi. Mewn geiriau eraill cant eu cyhoeddi os wnei di lwyddo i ymarfer mymryn o synnwyr cyffredin.

Dydi o ddim yn anodd. Tria fo.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-52637582301378651192014-05-06T18:21:15.787+01:002014-05-06T18:21:15.787+01:00Warren - dwi wedi chwalu dy sylw oherwydd bod honi...Warren - dwi wedi chwalu dy sylw oherwydd bod honiad yno a allai achosi problemau cyfreithiol. Os ti eisiau gwneud honiadau felly defnyddia dy wefan dy hun plis.

O ran gweddill y sylw, mae Anhysb 12:18 yn bod rhywfaint yn angharedig, ond mae ei bwynt yn un teg. Blog gwleidyddol ydi hwn, nid un sy'n didoli unigolion yn bobl dda neu bobl ddrwg. Mae yna flogiau eraill sy'n gwneud y math yna o beth - rhai crefyddol er enghraifft.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-29115554031389432942014-05-06T15:31:55.943+01:002014-05-06T15:31:55.943+01:00Pryd fydd y milwyr Prydeinig ddaru llofruddio 13 o...Pryd fydd y milwyr Prydeinig ddaru llofruddio 13 o Babyddion heb arfau na dim yn gweld cyfiawnder. Neu, oherweydd maen nhw'n gwisgo lifrai Prydeinig maen nhw uwchlaw y gyfraith? 'Mond gofyn! Un rheol i un....?Anonymoushttps://www.blogger.com/profile/16739984220965271880noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-74838115244897180422014-05-06T14:59:48.197+01:002014-05-06T14:59:48.197+01:00Mr Whitmore, os oes gennych dystiolaeth o'r hy...Mr Whitmore, os oes gennych dystiolaeth o'r hyn rydych yn ei honni mae'n ymddangos bod y PPS yn chwilio am dystiolaeth ychwanegol ar hyn o bryd. Os nad ydych efo tystiolaeth pellach efallai y byddai'n ddoeth i beidio a taflu cyhuddiadau o gwmpas, yn arbennig ag ystyried yr hyn sydd newydd ddigwydd.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-82691882848721317202014-05-06T12:18:08.713+01:002014-05-06T12:18:08.713+01:00Dwi wedi darllen trwy'r ddau ddarn a fedra i d...Dwi wedi darllen trwy'r ddau ddarn a fedra i ddim gweld gair am Adams yn bod yn ddyn da na Clarkson yn ddyn drwg.

Wyt ti'n siwr dy fod yn gallu darllen yn iawn Warren?Anonymousnoreply@blogger.com