Thursday, May 08, 2014

Darlledu yn y Wyddeleg a honiad rhyfedd Arwel Ellis Owen

Dydi dod ar draws rhywbeth hollol hurt yn Golwg ddim yn brofiad arbennig o anarferol wrth gwrs - ond mae yna glasur yn y rhifyn cyfredol.  Perchenog y clasur hwnnw ydi Arwel Ellis Owen, cyn bennaeth rhaglenni'r Bib yng Ngogledd Iwerddon.  Mae'n ymddangos bod Arwel yn credu nad oedd unrhyw raglenni yn y Wyddeleg yn unrhyw ran o'r Iwerddon nes iddo fo nes iddo fo lawnsio rhaglen wythnosol ar Radio Ulster.  Mae'n anodd gwybod beth i'w wneud o'r ffasiwn honiad.

Mae Arwel yn gywir i nodi mai yn ei amser o wrth y llyw y sefydlwyd y rhaglen Wyddeleg cyntaf ar Radio Ulster.  Erbyn heddiw ceir rhaglen dduddiol o'r enw Blas ar y sianel.

Ond mae'r gred nad oedd darlledu cyfrwng Gwyddelig yn y Weriniaeth yn gwbl gyfeiliornus.  Roedd yr orsaf radio cyfrwng Gwyddeleg Raidió na Gaeltachta (RnaG) wedi bod yn darlledu ers 1972.  Doedd yr orsaf ddim yn darlledu ar hyd yr ynys bryd hynny, ond roedd yn darlledu yn ddyddiol.  Nid yn unig hynny ond roedd rhai rhaglenni Gwyddeleg ar y brif sianel - y newyddion er enghraifft.  Roedd rhaglenni Gwyddeleg ar y teledu hefyd.  Yn wir byddai methiant gan RTE i sicrhau darpariaeth cyfrwng Gwyddelig yn groes i'r gyfraith - roedd Deddf Darlledu 1960 yn mynegi'n glir bod disgwyl i'r darlledwr cenedlaethol wneud defnydd o'r Wyddeleg.  

Ond roedd darlledu cyfrwng Gwyddeleg yn mynd yn ol i flynyddoedd cynnar sefydlu'r wladwriaeth, i ddechrau ar 2RN wedyn ar Radio Éireann ac yna ar RTÉ.  Yn wir roedd hyd yn oed Hitler yn darlledu trwy gyfrwng y Wyddeleg.  Dechreuwyd ddarlledu rhaglenni yn yr iaith yn 1939, a pharhawyd i wneud hynny hyd  ddiwedd y rhyfel.  Darlledwyd  rhaglen dair gwaith pob nos.  

Dwi ddim yn amau i Arwel wneud gwasanaeth i'r Wyddeleg yn ystod ei gyfnod yn gweithio yn y Gogledd, ond mae'r honiad 'nad oedd RTE yn y Weriniaeth, nag unrhyw ddarlledwr arall ar ynys Iwerddon, yn darlledu dim yn y Wyddeleg ar y pryd' yn esiampl o rhywun yn dyrchafu ei gyfraniad ei hun yn llawer, llawer uwch na mae'n ei deilyngu.  

No comments: