Sunday, June 16, 2013

Ymgeisyddiaeth Arfon ar gyfer etholiadu'r Cynulliad 2016

Dwi'n siwr na fydd y Cynghorydd Dyfrig Jones yn anghytuno ei bod yn beth rhyfedd ei fod o a minnau yn perthyn i'r un Blaid ond yn cael ein hunain yn anghytuno mor aml am cymaint o wahanol bethau.

Dwi yn cytuno serch hynny efo'i ddadansoddiad o'r frwydr am ymgeidyddiaeth y Blaid yn Arfon.  Yn Sian Gwenllian a Heledd Fychan mae gennym ddau ymgeisydd cryf.  Mae Sian serch hynny yn well ymgeisydd i Arfon.  Mae yna bedwar rheswm pam 'dwi o'r farn yma:

  • Mae ganddi gysylltiadau personol ar hyd a lled yr etholaeth - yn wir mae ganddi fwy o gysylltiadau lleol nag unrhyw ymgeisydd diweddar i'r Blaid yn yr ardal.  Mae cysylltiadau lleol yn bwysig yn y Gogledd Orllewin.
  • Mae iddi hanes o fod a'i chlust ar y llawr yn wleidyddol a chymryd rhan mewn ymgyrchoedd llawr gwlad yn lleol. Mae ymgyrchoedd felly yn ffordd effeithiol o adeiladu cefnogaeth bersonol.
  • Mae ei chefndir newyddiadurol yn ei rhoi mewn lle cryf i fynd i'r afael a phroblem sydd gan y Blaid yn y Gogledd Orllewin.  Dydi ymdriniaeth y wasg a materion gwleidyddol lleol ddim yn gydymdeimladol a'r Blaid - i'r gwrthwyneb.  Mae'r cefndir newyddiadurol yn ei harfogi i geisio newid y naratif negyddol yma - yn ogystal a hyrwyddo ei hymgeisyddiaeth yn y wasg.
  • Mae unrhyw un sydd wedi bod yn ddeilydd portffolio addysg yng Ngwynedd yn ddiweddar efo o leiaf ddwy nodwedd wleidyddol hynod bwysig - croen mor dew ag un eliffant a pharodrwydd i gymryd penderfyniadau anodd.  
Mi fydda i yn hapus i gefnogi Sian ddydd Gwener a dwi'n hapus hefyd i ddymuno'n dda i Heledd yn y dyfodol.  Mi fydd yn aelod cynulliad effeithiol rhyw ddiwrnod - ond mae yn sefyll yn erbyn ymgeisydd mwy addas ar gyfer Arfon y tro hwn.



2 comments:

Anonymous said...

Tydi croen tew ddim yn beth da i wleidydd. Mae'n amlwg tydi'r blaid heb ddysgu dim.

Os geith Sian ei dewis, mi hoffwn fod y cyntaf i fetio y neith y blaid golli set arfon. Di cau ysgolion ddim yn bolisi i ennill.

Anonymous said...

Faint o fet ti awydd?

p.s. annodd betio efo anon...