Felly mae Ed Milliband yn cadarnhau'r hyn oedd yn amlwg ers i Ed Balls ddweud y bydd Llafur yn cadw at gynlluniau gwariant George Osborne os byddant yn ennill yr etholiad San Steffan nesaf - ni fyddant yn benthyg mwy o arian er mwyn dad wneud toriadau'r llywodraeth sydd ohoni. Maent felly yn derbyn dadansoddiad y Toriaid mai'r hyn sydd angen ei wneud i ddod a'r amgylchiadau economaidd anodd presenol i ben ydi toriant mewn gwariant cyhoeddus.
Rwan ar un olwg mae dadlau mai peidio a benthyg mwy ydi'r ffordd orau i fynd i'r afael ag argyfwng sydd wedi ei sylfaenu i raddau helaeth ar or fenthyg yn gwneud synnwyr. Ond mae dadl arall hefyd - ac mae'r dystiolaeth sydd ar gael yn tueddu i gefnogi honno.
Mae'r ddamcaniaeth Tori / Llafur / Lib Dem bod torri'r sector cyhoeddus am roi hwb i'r economi ehangach wedi ei phrofi am flynyddoedd bellach - ac wedi methu yn llwyr a chreu unrhyw dwf economaidd gwerth son amdano. Mae'r llwybr mae Balls a Milliband mor awyddus i'w gerdded efo'r Toriaid a'r Lib wedi methu ac wedi methu yn llwyr i gael yr economi yn symud.
Y ddadl arall ydi y gallai cynyddu gwariant cyhoeddus yn y byr dymor gael yr economi yn symud a byddai torri ar fenthyg yn y dyfodol - pan mae'r economi yn tyfu - fod yn fwy effeithiol a llai poenus i bobl gyffredin na cheisio gwneud hynny pan mae'r economi yn llonydd neu'n crebachu.
Ag edrych y tu hwnt i'r DU mae pleidiau sydd y tu hwnt i'r consensws mai gwariant cyhoeddus ydi sail y wasgfa economaidd wedi gweld eu cefnogaeth yn cynyddu yn sylweddol tros y blynyddoedd diwethaf. Mae hyn yn wir o Wlad Groeg i'r Iwerddon.
Mae'r sefyllfa yma yn rhoi cyfle i'r Blaid - yn arbennig felly yng nghyd destun etholiad San Steffan 2015. Mae ganddi'r cyfle hynod anarferol feddiannu tir etholiadol poblogaidd, ar ei phen ei hun reit wrth galon yr hyn sy'n penderfynu canlyniadau etholiadau cyffredinol. Mae etholiadau cyffredinol yn cael eu penderfynu gan ystyriaethau tymor byr carfannau o etholwyr ynglyn a sut orau i amddiffyn eu safonau byw eu hunain.
Dydi Plaid Cymru ddim yn gorfod poeni ynglyn a barn llond dwrn o bobl sydd a buddiannau personol wedi eu clymu i'r status quo ym milltir sgwar Dinas Llundain. Dydi Milliband ddim mewn sefyllfa i'w pechu. Mae'n gyfle gwych i lwyddo yn etholiad 2015. Y ffordd o baratoi ar gyfer yr etholiad hwnnw ydi trwy baratoi naratif effeithiol sy'n gwrthwynebu'r consensws toriadau, mynd a'r naratif hwnnw i mewn i'r flwyddyn etholiad a siarad am ddim arall trwy'r ymgyrch.

4 comments:
Ti'n iawn ond y perygl i'r Blaid a'r hyn sydd rhaid i'r Blaid ateb yw:
1. Pwy fyddai'n benthyg i ni ac a fyddai hynny'n gwanhau hygrededd Cymru / Prydain yng nhgolwg y farchnad?
2. Faint o log fydd rhaid talu?
3. Mae Cymru'n rhy dlawd i 'dyfu ei hun' allan o ddirwasgiad.
Mae'n rhaid cael atebion i'r pwyntiau uchod.
Wel son am y DU yn benthyg ydw i wrth gwrs.
Y drefn arferol o godi pres yn y ffordd yma ydi gwerthu bonds trwy'r DMO i'r marchnadoedd arian. Mae cyfraddau yn amrywio rhwng 0.5% am fenthyciadu 2 flynedd i 3.5% am rhai 30 blynedd ar hyn o bryd.
I like @RhunapIorwerth but if he's now in the running to be Plaid Cymru Anglesey by-election candidate his role at BBC is surely untenable
Ma ei fet Y Cyng . Carwyn Jones yn awgrymu bod e am fynd amdani !
Yn ol y gwybodision diffyg cyllideb Cymru yw tua £6bn. Hyn yw'r ddadl fawr, bwerus, sy'n cael ei roi yn erbyn gallu Cymru I fod yn annibynol. Hynny yw pe gesglir yr holl drethi yng Nghyrmu ar gyfer anghenion Cymru, y byddwn yn dal I fod £6bn yn brin.
Mae pob gwlad arall wrth gwrs yn benthyg arian. fel y gwna'r Deyrnas Gyfunol.
Yn 2012-13 fe fenthyciodd y Deyrnas Gyfunol £118.7bn. Felly mae gan y DG ddiffyg cyllideb o £118.7bn ond does neb yn dweud nad yw'n gallu fforddio bod yn annibynol, beth mae'n gwneud yw benthyg.
O rannu'r benthyciad hwn rhwng gwledydd y DG yn ol eu poblogaeth (poblogaeth Cymru yn 5% o'r DG) byddai siar Cymru yn ... £6bn.
Pwy sy'n dweud na allwn ni fforddio bod yn annibynol?!
Post a Comment