Monday, June 24, 2013

Gwleidyddiaeth Cymru yn ymddangos ar Guido Fawkes

Wel, wel - mae gwleidyddiaeth Cymru yn derbyn sylw gan y blogiwr Paul Staines.

Mae'r blog Guido Fawkes ymysg blogiau gwleidyddol mwyaf poblogaidd y DU.  Mae hefyd yn flog gwrth sefydliadol, adain dde sydd a diddordeb anymunol mewn sgandalau tabloid. Mae'r stori yn ymosod ar Rhun ap Iorwerth, y Blaid a'r BBC ar yr un pryd.  Mae'n amlwg nad ydi Staines wedi cael y stori ei hun - heb son am y manylion - felly pwy sydd wedi ei hanfon ato.  Pwy tybed?

Wel, gofynwch i chi'ch hun - pwy sydd yn flin uffernol efo Rhun, Y Blaid a BBC Cymru ar hyn o bryd?  Pwy sydd efo hanes hir o ddefnyddio'r We i bwrpas pardduo gwleidyddol?

Mae cyfleustra yn arwain at gyfeillgarwch go ryfedd weithiau.


1 comment:

Cai Larsen said...

Mae yna un neu ddau wedi dod i gasgliadau hollol boncyrs o ddarllen y blogiad yma.

Byddwn wedi tybio ei bod yn amlwg mai cyfeiriad ydyw at elfennau oddi mewn i'r Blaid Lafur.