Thursday, June 20, 2013

Is etholiad Ynys Mon

Mae'r ffaith y bydd is etholiad Ynys Mon yn digwydd yn fuan - ar Awst 1 o bosibl - yn rhoi mantais tactegol sylweddol i'r Blaid.  

Mae'r etholiad cyngor sir diweddar wedi dangos yn gwbl glir nad oes gan y pleidiau unoliaethol ar yr ynys fawr o drefniadaeth, fawr o glem pwy ydi eu cefnogwyr a'u cefnogwyr potensial, na fawr o glem am dechnegau canfasio diweddar.  Dydi'r amserlen fer ddim yn rhoi cyfle iddynt ddechrau cael trefn ar bethau, heb son am osod peririant etholiadol effeithiol a chyfoes mewn lle.  

Byddai'r Blaid yn disgwyl ennill beth bynnag - mae'n amser maith ers i un o'r pleidiau unoliaethol ei churo ar Ynys Mon mewn unrhyw etholiad ag eithrio etholiad San Steffan - mae hyn yn cynnwys etholiadau cyngor, Cynulliad ac Ewrop.

O dan yr amgylchiadau hyn dylai'r Blaid ddal y sedd yn hawdd - yr unig beth a allai newid hynny fyddai dewis sobor o anoeth o ymgeisydd - a does yna ddim rheswm o gwbl i boeni y gallai hynny ddigwydd.  

2 comments:

HC said...

" ......ag eithrio etholiad San Steffan - mae hyn yn cynnwys etholiadau cyngor, Cynulliad a San Steffan........"

Ti'n siwr mai hyn wyt ti'n trio ei ddweud ?

Cai Larsen said...

Diolch Mr Chambers.