Mi ddreifiais o Gaernarfon i Wrecsam ac yna i Gaerdydd ddoe gyda Radio Cymru ymlaen ar hyd y ffordd - a gwrandewais ar Post Prynhawn drwyddo. Doedd yna ddim gair am yr homar o ffrae sydd yn ysgwyd y Blaid Lafur yn Ynys Mon - dim un gair. Deallaf nad oedd gair ar Newyddion Naw chwaith. Rwan dydi is etholiadau Cynulliad ddim yn gyffredin, ac mae stitch up mor hollol amrwd a di gywilydd a hon hyd yn oed yn llai cyffredin. Mae'r ddwy stori wedi dod efo'u gilydd ac wedi cyfuno'n un. A dydi'r Bib ddim yn gweld stori yno?
Wrth gwrs eu bod nhw yn gweld stori, ond mae'n un nad ydyn nhw am ei hadrodd ar hyn o bryd. Pam tybed? Yn wahanol i Gwilym Owen sydd byth a hefyd yn gofyn cwestiwn nad yw yn ei ateb mi gynigiaf un. Roedd y Blaid Lafur Gymreig yn flin fel tinceriaid oherwydd i Rhun ap Iorwerth roi ei enw ymlaen i sefyll tros y Blaid ym Mon. Roeddynt yn fwy blin fyth na chafodd y creadur ei daflu allan o'i gyflogaeth mewn cywilydd a gwarth y tro cyntaf i'r syniad o sefyll dros y Blaid yn rhywle neu'i gilydd groesi ei wefysau.. Maent wedi bod yn hefru am y peth ar y We, ac maent wedi rhyddhau y stori i'r blog adain Dde eithafol, Guido Fawkes. Gallwn fentro nad oedd y tantro yna'n ddim wrth ymyl y tantro mwy swyddogol i lawr y lein ffon o Cathedral Road i Landaf tros y dyddiau diwethaf.
Mi fedrwn fentro hefyd nad oedd yr hogiau yn rhy hapus i wasanaeth newyddion maent yn disgwyl teyrngarwch ganddi redeg y strori am ymddygiad bisar Leighton Andrews yn y Rhondda yn protestio yn erbyn canlyniadau'r polisiau y mae o ei hun wedi eu llunio. Ac mi fedrwn fentro
bod y myllio a'r hefru i lawr y llinellau ffon hyd yn oed yn fwy ffyrnig a hysteraidd yn sgil hynny.
A dyna'r eglurhad yn ol pob tebyg, mae gan haenen reolaethol y Bib yng Nghymru ofn y Blaid Lafur Gymreig ac mae'r newyddiadurwyr wedi cael gorchymyn i fynd yn ol i'w bocsus a chadw allan o drwbwl am y tro. Mae'n debyg nad oedd dewis ond adrodd ar ddewis trychinebus a chwbl naif Llafur o ran ymgeisydd ym Mon. Tybed os byddant yn trafferthu adrodd ar y canlyniad? Mae hwnnw bellach yn sicr o fod yn drychinebus i Lafur - mae hynny'n amlwg - cyn i'r ymgyrch gychwyn hyd yn oed.

No comments:
Post a Comment