Digwydd dod ar draws yr adroddiad yma - wel mae'n rhaid i fi wneud rhywbeth efo'r holl amser sbar mae rhywun yn fy swydd i yn ei gael. Adroddiad i Gyngor Sir Galway ydyw ar dlodi yn y sir. Mae'r darn dwi wedi ei ddewis fodd bynnag yn canolbwyntio ar y defnydd o'r iaith Wyddeleg.
Mae'r fethedoleg yn ddiddorol i'r graddau mai'r hyn a edrychir arno ydi niferoedd o bobl sy'n defnyddio'r iaith yn ddyddiol yn hytrach na'r niferoedd sy'n gallu ei siarad. Ymhellach mae'r adroddiad yn cymryd bod iaith yn un gymunedol os ydi hanner trigolion y gymuned honno yn siarad Gwyddeleg pob dydd. Yr egwyddor sydd y tu cefn i hyn ydi bod amlder defnydd o iaith yn bwysicach na gallu goddefol i'w siarad.
Mae hyn yn fy nharo yn ffordd synhwyrol o edrych ar bethau. Os oes arolygon iaith cenedlaethol neu leol yn cael eu cynnal yng Nghymru tros y blynyddoedd nesaf, byddwn yn awgrymu y byddai mynd ati yn y ffordd yma yn llawer mwy dadlennol na holi unwaith eto pwy sy'n gallu siarad y Gymraeg ac yn lle - mae'r wybodaeth yna eisoes gennym.

5 comments:
Mi fyddai'n ddiddorol gweld canlyniadau hyn ar lefel awdurod lleol / cymunedol. Mae gen i ryw amheuaeth y byddai'r canrannau fymryn yn uwch na'r ystadegau "gallu siarad Cymraeg" (mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn gymharol gryf) - rhywle rhwng "gallu siarad Cymraeg" a "sgiliau yn y Gymraeg".
I'r gwrthwyneb, mewn ardaloedd lle mae llai o siaradwyr Cymraeg gellid disgwyl i'r ganran fod yn is na'r nifer sy'n "gallu siarad Cymraeg" oherwydd sawl ffactor.
Dw i'n eithaf siŵr bod ystadegau o fath i'w cael ar hyn fodd bynnag - e.e. o dop fy mhen dw i'n siŵr bod ByIG wedi cynnal arolwg yn nodi bod 88% o siaradwyr Cymraeg "rhugl" (sef darllen, ysgrifennu, siarad) yn siarad Cymraeg bob dydd.
Dwi'n rhyw gytuno bod yna ardaloedd yng Nghymru ple byddet yn cael mwy o bobl yn siarad y Gymraeg yn ddyddiol na sy'n cydnabod eu bod yn gallu siarad Cymraeg. Dwi'n meddwl hynny oherwydd fy mod yn siarad a phobl sydd ddim yn cydnabod eu bod yn gallu siarad y Gymraeg yn aml. Hefyd mae gen ti'r ffenomenen o bobl sydd yn siarad Cymraeg efo neb ond eu plant - ac maen nhw wrth gwrs yn gwneud hynny'n ddyddiol. Byddai map ieithyddol Cymru yn dangos mwy o eithafion nag a geir ar hyn o bryd petaet yn ei seilio ar atebion y cwestiwn hwn.
Dwi ddim yn amau dy fod yn gywir i'r cwestiwn gael ei ofyn yn y gorffennol, ond yr hyn sy'n ddiddorol am ymarferiad Cyngor Sir Galway ydi ei fod yn rhoi'r canfyddiadau cymuned wrth gymuned.
Mae sefyllfa'r Wyddeleg yn waeth o beth coblyn na mae'r ystadegau hyn yn ei awgrymu. Mae yna linyn mesur arall sef canran y rhai sy'n siarad Gwyddeleg bob dydd TU ALLAN I'r system addysg. Dyro speak irish daily outside the education system yn Google a chei di weld gwefan y cyfrifiad. Buasai pob plentyn yng Ngwynedd yn siarad Cymraeg yn yr ysgol bob dydd tydiwn i ond beth sy'n cyfri ydi defnydd yr iaith tu allan i'r dosbarth
Dyma'r adroddiad mewn pdf
http://www.cso.ie/en/media/csoie/census/documents/census2011pdr/Pdf,8,Tables.pdf
Yn fras fel y gwelir yng ngwaelod y dabl 35, 66,000 o siaradwyr Gwyddeleg yn y Gaeltacht ond dim ond 17,000 sy'n siarad yr iaith tu allan i'r system addysg. Rhyw chwarter
Post a Comment