Dwi ddim adref, a fedra i ddim cynnig linc - ond mae Rhun ap Iorwerth wedi cyhoeddi ei fod yn ceisio am enwebiad y Blaid yn Ynys Mon o fewn yr awr diwethaf. Mae dau yn y ras hyd yn hyn felly - Heledd a Rhun.
Gyda llaw mae'r Llafurwyr ar trydar - David Taylor a Alun Davies wedi ypsetio braidd. Bechod.
Gyda llaw mae'r Llafurwyr ar trydar - David Taylor a Alun Davies wedi ypsetio braidd. Bechod.
11 comments:
Mae Llafur a Daran Hill yn annoyed iawn arlein.
Pa ryfedd?
Mae diwylliant mewnol y Blaid Lafur Gymreig yn cyflyru ei haelodau i gymryd mai dyletswydd y cyfryngau prif lif ydi eu cefnogi nhw.
Ma y Blaid Lafur wirioneddol ofn Rhun .
Fe gawson ni Blair a Brown, ac yna Cameron ac Osborne. Ydan ni rwan ar fin gweld dyfodiad ap Iorwerth a Price?
Mae panic Llafur wedi bod yn un o uchafbwyntiau'r flwyddyn ar twitter. Mae hyd yn oed wedi llwyddo i stopio Hill (am ryw hyd) gwyno ar ran teulu Peter Hain (Von Traps Egni adnewyddol Cymru) am rhyw dramgwydd gan gwmni lobïo arall yn erbyn yr orenddyn. Prhynhawn rhagorol o waith gan ddarpar ymgeisydd
Dwi wrth fy modd yn gweld David Taylor mewn tail spin !
Er gymaint fy hoffter o Adam he's no Rhun .
Does ond gobeithio y cawn ni gystadleuaeth dda am yr enwebiad hwn ac na fydd "enw" Rhun ap Iorwerth yn atal hynny rhag digwydd.
Wedi'r ffars yn Arfon pam na chafwyd cystadleuaeth o gwbl am sedd seneddol Arfon na'r sedd Cynulliad: mae angen dangos bod democratiaeth a pharodrwydd i drafod syniadau yn fyw ym Mhlaid Cymru o hyd.
Gobeithio felly y bydd HF yn dal ati ac y gwelwn ni hefyd un o'r cynghorwyr newydd eraill a etholwyd ym mis Mai yn rhoi cynnig arni er mwyn rhoi dewis go iawn i'r aelodau y tro hwn.
Difyr fyddai gwybod os yw Owen "BBC Dragon's Eye" Smith a Chris "BBC Head of Euroean Affairs" Bryant yn cytuno efo barn David Taylor ac Alun Davies?
http://www.itv.com/news/wales/2012-05-15/owen-smith/
http://whistle.co.uk/politician/chris-bryant
Mae son ar Twitter hefyd fod gohebydd blaenllaw arall o'r BBC wedi rhoi ei enw/henw ymlaen i sefyll i Lafur yn etholaeth Gwyr.
Wedi chwilio a chwilio ar Twitter a methu gweld y cyfeiriadau yna, Anon 10:58. Elli di ddweud mwy?
@ianapharri: Swansea politics is a funny old thing. However hard parties try to keep a secret, things leak out - including Swansea West CLP shortlists.
@ianapharri: @ianapharri I remember 2 names specifically from the shortlist, which the current MP for Swansea West was chosen from.
@ianapharri: @ianapharri Considering who that person was, I am a little surprised by certain tweets aimed at the BBC, relating to Ynys Mon. Just sayin'
@ianapharri: @chwads @ashokahir @RhunapIorwerth @Newyddion9 @AssemblyWales The 2 I know of still work for the BBC; both v good professional journos.
Post a Comment