Mae sylwadau Ifan Morgan Jones ynglyn ag ymateb hysteraidd rhai aelodau o'r Blaid Lafur i ymgeisyddiaeth Rhun ap Iorwerth yn gwbl gywir. Mae'n gywir hefyd i dynnu sylw at ymateb ymddangosiadol boncyrs gan Alun Davies (Blaenau Gwent) i drydar gen i ynglyn a'r mater.
Because he's been interviewing me recently &; this blows away his personal & the BBC's credibility.
Fel sy'n digwydd mor aml, mae rhywbeth sy'n cael ei ddweud neu'i 'sgwennu yng ngwres y funud yn llawer mwy dadlennol na rhywbeth a ddywedir neu a ysgrifennir wedi pwyllo. Yr hyn sy'n dod i'r amlwg yma ydi'r diffyg goddefgarwch a thueddiadau unbeniaethol rhai yn y Blaid Lafur Gymreig.
Fel rhywun sydd a greddf mwy democrataidd na'r un sydd gan Alun hwyrach y bydd yn maddau i mi am gynnig gwers fach syml ynglyn a democratiaeth sylfaenol iddo.
Dydi bod a barn wleidyddol wahanol i un Alun Davies ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi bod ag uchelgais wleidyddol ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi holi Alun Davies tra'n dal barn wleidyddol wahanol iddo ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi cyflogi pobl sydd a barn wleidyddol wahanol i farn Alun Davies ddim yn dryllio hygrededd y BBC.
Mae'r hen gyfaill David Taylor wedi mynd ymhellach hyd yn oed - mae'n gweld cynllwyn cenedlaetholgar yn erbyn y Blaid Lafur gan y Bib - The unjustified persistent and personal criticisms of@AlunDaviesAM over farming and weather in North Wales makes a bit more sense now
Oes rhywun yn gwybod beth ydi'r gair Cymraeg am delusional?
Because he's been interviewing me recently &; this blows away his personal & the BBC's credibility.
Fel sy'n digwydd mor aml, mae rhywbeth sy'n cael ei ddweud neu'i 'sgwennu yng ngwres y funud yn llawer mwy dadlennol na rhywbeth a ddywedir neu a ysgrifennir wedi pwyllo. Yr hyn sy'n dod i'r amlwg yma ydi'r diffyg goddefgarwch a thueddiadau unbeniaethol rhai yn y Blaid Lafur Gymreig.
Fel rhywun sydd a greddf mwy democrataidd na'r un sydd gan Alun hwyrach y bydd yn maddau i mi am gynnig gwers fach syml ynglyn a democratiaeth sylfaenol iddo.
Dydi bod a barn wleidyddol wahanol i un Alun Davies ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi bod ag uchelgais wleidyddol ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi holi Alun Davies tra'n dal barn wleidyddol wahanol iddo ddim yn dryllio hygrededd neb.
Dydi cyflogi pobl sydd a barn wleidyddol wahanol i farn Alun Davies ddim yn dryllio hygrededd y BBC.
Mae'r hen gyfaill David Taylor wedi mynd ymhellach hyd yn oed - mae'n gweld cynllwyn cenedlaetholgar yn erbyn y Blaid Lafur gan y Bib - The unjustified persistent and personal criticisms of
Oes rhywun yn gwybod beth ydi'r gair Cymraeg am delusional?
3 comments:
Yn ogystal, dyw tueddiadau Rhun ddim yn ddirgelwch, yn arbennig i rhai mewn gwleidydiaeth, ac yn fwy arbennig i unrhyw un ym Mhlaid Cymru fel y bu Alun Davies.
Dyw ffug-sioc gan Alun Davies a'i gyd-gont David Taylor yn ddim ond malu awyr.
Mae sylw David Taylor uchod hefyd yn enllibus o bosib.
Un diffiniad o enllib yw 'Words capable of disparaging someone in trade, office or profession'.
Mae'r sylw gan DT yn awgrymu bod nad yw'r BBC wedi adrodd ar achs Alun Davies yn deg oherwydd bod Rhun wedi dangos gogwydd yn erbyn y Blaid Lafur.
Rwy'n siwr a fydd Rhun eisiau gwneud ffws o'r peth, obd mae angen bod yn ofalus beth mae rhywun yn ei ddweud ar Twitter!
Ma gennyf lun o Alun Davies mewn gwisg para filwrol
Post a Comment