Tuesday, July 10, 2012

Chwaraeon ac egwyddorion - rhan 2

Bydd rhai ohonoch yn cofio i mi gyfeirio yn ddiweddar at yr holl chwaraewyr rygbi o Gymru oedd yn fodlon cefnogi'r gyfundrefn aparteid yn Ne Affrica trwy ymweld a'r wlad i chwarae rygbi. Y cyd destun wrth gwrs oedd parodrwydd cymaint o bel droedwyr Cymru i chwarae i Team GB yn y Gemau Olympaidd, er bod Cymdeithas Bel Droed Cymru yn chwyrn yn erbyn hynny.

Efallai mai'r esiampl fwyaf trawiadol o barodrwydd pobl sy'n cymryd rhan mewn chwaraeon i roi pob dim ag eithrio eu gyrfa i un ochr ydi'r digwyddiad isod - tim peldroed Lloegr yn rhoi saliwt Natsiaidd cyn gem beldroed gyfeillgar efo'r Almaen ym 1938 - gwta 16 mis cyn i'r Ail Ryfel Byd gychwyn.

'Dwi'n gwybod mai rwan ydi rwan ac mai pryd hynny oedd pryd hynny - ond _ _ _.

5 comments:

Anonymous said...

Arglwydd mawr - ydi o'n llun go iawn?

HC said...

Credaf i'r tim wneud hyn o dan bwysau sylweddol yr FA. Diolch byth fod y dyddiau yna wedi mynd. Bellach, mae'r syniad fod chwaraewyr peldroed Lloegr gyda gronyn o ffasgaeth a hiliaeth yn perthyn iddynt wedi hen fynd.............(Ahem)

Cai Larsen said...

Wel yn amlwg fyddai yna byth unrhyw syniad hiliol yn croesi meddwl peldroediwr cyfoes sy'n chwarae i Loegr.

Ond y Swyddfa Dramor wnaeth ofyn am y Sieg Heils.

Ioan said...

Ella mai bod yn sarcastic mae nhw...

maen_tramgwydd said...

14 Mai 1938. Y capten oedd Eddie Hapgood, ac roedd Stanley Mattews yn aelod or tim.

Y Swyddfa Dramor roddodd y pwysau arnynt i roi'r saliwt, fel rwyt ti'n dweud uchod.

Nid oes gan Llywodraeth Prydain na'r Swyddfa Dramor unrhyw egwyddorion heddiw chwaith.