Mae'n ddiddorol nodi nad ydi BBC Cymru yn trafferthu dweud wrthym ar eu gwefan nad ydi mwyafrif pobl Cymru yn meddwl y bydd Gemau Llundain o unrhyw fudd o gwbl i Gymru. yn ol ymchwil gan Beaufort Research.
Mae hyn er gwaethaf i Golwg360 a Wales Online redeg y stori. Mae gan y wefan Saesneg fodd bynnag straeon bach diddorol am weilch ar Eryri a wiwerod, ac mae gan yr un Gymraeg rhywbeth am gwmni'n anfon eu gweithwyr ar wyliau.
Rhy boenus ar ol eu hymdrechion fwyfwy gorffwyll i heipio'r nonsens i'r entrychion o bosibl.
5 comments:
I fod yn deg oni ddylet ti ddweud mai Wales Online wnaeth gomisynu'r arolwg gan Beaufort Research a bod Golwg360 yn cyhoeddi unrhywbeth sydd ar gael am ddim?
Fe wnaeth y BBC ofyn cwestiynau digon tebyg gan gwmni amgenach i sampl fwy gan rhoi sylw i'r atebion.
http://www.bbc.co.uk/news/uk-18814354
Mae dy baranoia ynghylch y BBC braidd yn bathetic.
Diolch am dy gydymdeimlad.
Derbyn dy sylw am adroddiad BBC UK, ac am Wales Online.
Fel mater o ddiddordeb wnaeth BBC yng Nghymru gyfeirio ar eu gwefan at yr amheuon yng Nghymru a ddaeth i'r amlwg yn y pol DU?
ON - dwi ddim yn derbyn y sylw am Golwg360 - mae ganddyn nhw gyfeiriad golygyddol gwahanol i'r Bib - dyna'r oll.
Blogmenai - Fel mater o ddiddordeb wnaeth BBC yng Nghymru gyfeirio ar eu gwefan at yr amheuon yng Nghymru a ddaeth i'r amlwg yn y pol DU?
Paid a gofyn cwestiynau mor blydi wirion. Wrth gwrs bod wnaeth BBC Cymru ddim son am y pol ComRes oedd yn dangos bod mwy o amheuon am yr Olympics yng Nghymru nag yn nunlla arall. Byddai hynny yn dangos iddynt fethu yn eu prif ddyletswydd sef sefyll dros y Cwin a'r Nesiyn yma yng Ngwalia. Byddai ganddynt gywilydd o'r holl beth.
Wel, os ydi hynny yn wir - os ydyw'n wir - nad ydi'r Bib yng Nghymru eisiau riportio ar bol Beaufort, na chwaith ar bol sydd wedi ei gymryd ganddyn nhw eu hunain ar lefel Brydeinig ar y cyd efo ComRes, a bod y polau hynny yn awgrymu nad oes llawer o frwdfrydedd tuag at y Gemau yng Nghymru - yna - fel maent yn ei ddweud yn Saesneg - I rest my case.
Post a Comment