Sunday, July 08, 2012

Y Toriaid yng Nghymru a'u harweinydd

Mae'n gas gen i dramgwyddo ar alar preifat, ond gyda chwestiynau amlwg ynglyn ag effeithiolwyr y Toriaid yn y Cynulliad a'u harweinydd yn benodol, aelodaeth y blaid Brydeinig yn syrthio fel carreg a'r polau piniwn yn awgrymu y byddai etholiad Cynulliad heddiw yn rhoi 5 sedd iddynt - yr un faint ag UKIP - dwi'n ei chael yn anodd i beidio a gwneud sylw neu ddau.

I ddechrau byddai cwymp yn aelodaeth y Toriaid i'r un lefel ag UKIP yn y Cynulliad yn arwain at newid sylfaenol yn natur y sefydliad. Ar hyn o bryd mae yna gonsensws digon cyfforddus yn y Cynulliad sy'n bleidiol iddo. 'Dydi hyn ddim yn cynrychioli'r farn gyhoeddus yng Nghymru - mae yna leiafrif sydd o bosibl cymaint a 20% o'r boblogaeth sy'n wrthwynebus i ddatganoli o unrhyw fath. Gallai hynny (yn eironig ddigon) fod yn llesol i ddatganoli - byddai agweddau gwrth ddatganoli yn cael eu cysylltu efo pobl sy'n gwisgo welingtons a blesyrs.

Yn ail mae'r ffigyrau am aelodaeth y Toriaid ym Mhrydain yn codi cwestiynau am aelodaeth y Toriaid yng Nghymru. Ymddengys bod yna tua 177,000 aelod tros y DU - sydd yn ganrannol yn weddol debyg i aelodaeth y Blaid yng Nghymru. Ond mae'r Toriaid yn wanach o lawer yng Nghymru na'r DU yn ei chyfanrwydd. Ni ddatgelwyd faint o aelodau sydd gan y Toriaid yng Nghymru yn yr etholiad arweinyddol - yr unig wybodaeth a gafwyd oedd mai 49% a bleidleisiodd a bod Andrew RT wedi cael 52% o'r rheiny. Felly faint o aelodau sydd gan y Toriaid yng Nghymru - ydi o'n hanner yr 8,000 sy'n perthyn i'r Blaid?

Nid mater academaidd ydi hyn. Rydym yn gwybod i ymgyrch Boris Johnson yn Llundain orfod talu i gwmniau preifat ddosbarthu eu taflenni mewn ardaloedd sydd ag AS Toriaidd oherwydd nad oedd yna aelodau i wneud hynny. Mae'r rhan fwyaf o seddi'r Toriaid yng Nghymru yn ymylol - a byddant yn gorfod eu hamddiffyn yn 2015 a 2016. Mae'r cyfryngau torfol am fod o gryn gymorth iddynt yn etholiadau San Steffan wrth gwrs - ond mi fyddan nhw ar eu pennau eu hunain yn 2016.

A daw hyn a ni at fater arall - etholiadau Ewrop yn 2014. Un peth sy'n sicr os ydi ffigyrau polio diweddar yn agos at fod yn gywir ydi y bydd Llafur yn cymryd dwy o'r bedair sedd sydd ar gael yng Nghymru. Golyga hyn y bydd naill ai'r Toriaid, neu'r Blaid neu UKIPyn colli sedd. Rydym (i'r graddau ein bod wedi meddwl am y peth o gwbl) wedi tueddu i gymryd mai'r sedd UKIP fydd yn mynd - nhw oedd y gwanaf o ddigon y tro o'r blaen. Mae ffigyrau YouGov yn agor y posibilrwydd gwirioneddol mai'r sedd Doriaidd fydd yn mynd.

Polau piniwn ydi polau piniwn wrth gwrs - a gall pethau newid. Ond does yna ddim rheidrwydd y bydd pethau'n newid er gwell i'r Toriaid - mae yna lawer o broblemau ar lefel Prydeinig sy'n dechrau hel ar y gorwel - Ewrop (eto fyth), diwygio Ty'r Arglwyddi a dydi effeithiadau'r toriadau diweddar heb eu hamlygu'n llawn eto. Mae yna gysylltiad hynod o agos - nes nag un unrhyw blaid arall ond UKIP - rhwng perfformiad y Toriaid yng Ngymru a Lloegr.

Y peth diwethaf mae'r Toriaid Cymreig ei angen yn yr amgylchiadau sydd ohonynt ydi arweinydd gwan sy'n araf ar ei draed, a sy'n methu ymateb i sefyllfaoedd fel maent yn codi. Dyna sydd ganddynt.

4 comments:

Anonymous said...

Dwi'n cytuno fysa cael un neu ddau aelod UKIP yn y Cynulliad yn peth da. Mae'r consensws sydd yn y Cynulliad yn gallu bod yn ddigon diflas a fyswn i yn croesawu rhywun i graffu waith y Llywodraeth yn fwy. Er wrth ddweud hynny, tydy UKIP ddim neud swydd da iawn o hyn yn Senedd Ewrop (dim ond ryw un neu ddau o headlines speeches da nin gael ganddyn).

O be dwi'n weld beth sydd yn bwysig yn etholiad Ewrop yw "Y Blaid". Ac y mesur gorau da ni hefo i hyn yw polau opiniwn y rhanbarthau.

Y gwir amdani mae YouGov yn gorddweud mymyryn ar cefnogaeth Llafur. Yn ol un 2011 nhw yn Ebrill dylsa Llafur wedi cael 33/32 or seddi = 30 gafodd nhw.

Felly yn lle cymharu YouGov 2012 gyda canlyniadau go iawn y Cynulliad dwi yn cymharu YouGov 2012 hefo un 2011. Oherwydd hwn yw'r un gorau i gymharu (mae nhwn defnyddio'r UNION ryn mesurau).

Os danin cymharu rhain mae cefnogaeth i Llafur wedi disgyn o 51% yn Ebrill 2011 i 43%.

Mae hyn yn fy nychryn i yn enwedig os danin cymharu yr rhai etholaeth (sydd wedi mynd fyny 1%).

Oherwydd hyn, efallai na fydd Llafur yn gallu cael yr ail sedd yn Ewrop?.

_________

Gyda'r Toris, chwarae teg dwi dal yn meddwl bod canlyniadau 2011 nhw yn hollol fantastic. Sgin y nhw bron neb ar llawr gwlad. Roedd DC yn hynod o anpoblogaidd ond er hynny fe nath nhw ddod yn 2ail plaid yng Nghymru!.

Ydy hyn yn dangos pa mor effeithiol yw'r Toris yng Nghymru yntau dangos mai methiant Plaid Cymru oedd stori yr ethloliad dwytha?.

Os danin colli y sedd yn Ewrop fydd na gwestiynau mawr os mai LW yw'r arweinydd cywir i ni.

Ond ie, swnin feddwl fydd y seddi yr un peth 1-Llaf, 1- Plaid, 1- UKIP ag 1- Ceid. Yr unig newid fydd bod UKIP yn mynd yn drydydd plaid poblogaidd yng Nghymru os nad 2ail.

Cai Larsen said...

Yr hyn sydd rhaid i Lafur ei wneud i gael dwy ydi cael mwy na dwbl pleidlais y pedwerydd plaid. Mae hynny yn hynod debygol.

Alwyn ap Huw said...

O gael ymgyrch dda a sicrhau bod ei phleidlais craidd yn troi allan, mae'r pôl yn awgrymu posibilrwydd tenau iawn o gael dau ASE Llafur a dau o Blaid Cymru.

Amser i'r Blaid dechrau gweithio’n galed ar ei hymgyrch Etholiad Ewrop RWAN? Tybiwn i!

BoiCymraeg said...

Roedd manylion y pôl piniwn yna'n amwys dros ben. Llafur i gynyddu eu pleidleisiau uniongyrchol ond colli ar y rhestr, Plaid Cymru i wneud y gwrthwyneb, Toriaid i ddiflannu a UKIP i ennill 5 sedd - oll yn anhebyg iawn.

Mae'n debyg taw sampl fach iawn oedd yn y pol ac felly dyw hi'n gwneud llawer o synnwyr ei gymryd yn ddifrifol iawn o gwbwl. Mae'n amlwg bod cefnogaeth i'r toriaid yn diflannu a bod UKIP yn gwneud yn dda, ond os chawn nhw'r un nifer o seddi a'u gilydd yn yr etholiad nesa fe wna i fwyta'n het.