Thursday, July 26, 2012

'Manteision' economaidd y jiwbili

Yn ol y Telegraph, y jiwbili ydi un o'r rhesymau tros y dirywiad sylweddol yn economi'r DU yn ystod y chwarter diwethaf.

Hwn ydi'r un papur yn union oedd yn darogan yn hyderus y byddai'r digwyddiad yn rhoi chwystrelliad o £10bn i economi Prydain mor ddiweddar a Mis Mai.

Mae hyn yn datblygu i fod yn dipyn o draddodiad gyda digwyddiadau brenhinol - bu rhagweld mawr y byddai'r briodas frenhinol o fudd mawr i'r economi y llynedd, ond wedi rhyddhau'r data fe'i defnyddid fel esgys / eglurhad am y tanberfformiad economaidd tros y cyfnod hwnnw.

Mae'n fuan i farnu faint o niwed mae'r ddau ddiwrnod o ddarlledu delweddau o law yn piso i lawr yn ddi baid tros y DU ym mhedwar ban byd (a Philip Schleswig-Holstein-Sonderburg-Glücksburgn yn gorfod mynd i'r ysbyty ar ol sefyll yn ei ganol) wedi ei wneud i'r diwydiant twristiaeth, ond 'dydi'r rhagolygon ddim yn dda.

1 comment:

Ioan said...

Dwi'n siwr bydd cofnod 2011 ddigon tebyg. Gyda llaw, lle maer pentre lan mor yn ward Llanwnda - o't ti'n meddwl am Dinas Dinlle? Mae o (a LLandwrog) yn ward Groeslon.