Felly mae Glyn Davies yn bygwth ffeit ddyrnau oni bai bod y berthynas draddodiadol rhwng ei etholwyr a'r broses gynhyrchu trydan yn cael ei chynnal - hynny yw bod y gyfrifoldeb a'r anghyfleustra o gynhyrchu a throsglwyddo trydan yn dod i ran eraill, tra bod trigolion Maldwyn yn defnyddio'r dywydedig drydan. Mi geith Baglan Bay, Dinorwig, Penfro, Glannau Dyfrdwy, Shotton, Port Talbot a Ffestiniog gynhyrchu'r trydan ac mi gaiff Maldwyn ei ddefnyddio. Trefniant neis iawn - i Glyn a'i gymdogion.
Mae'n ddiddorol bod y genadwri yma'n codi ar yr un diwrnod a thoriadau yn y gyflenwad trydan yn India a effeithiodd ar 600 miliwn o bobl.. Mae'r rheswm tros y toriadau yn sylfaenol weddol syml - bwlch rhwng faint o alw sydd yna am drydan a'r cyflenwad y gellir ei ddarparu. Mae'r un peth wedi digwydd ym Mhrydain yn y gorffennol - yn ystod yr Ail Ryfel Byd a streiciau'r glowyr yn y 70au er enghraifft. Yn wir mae toriadau mewn cyflenwadau trydan yn hynod gyffredin ar hyd a lled y Byd - fel y gellir gweld yma.
Rwan mae'r newidiadau mae Glyn eisiau ffeit ynglyn a nhw yn digwydd mewn cyd destun ehangach - llawer ehangach. Gyrrir yr angen i ddod o hyd i ffyrdd amgen o gynhyrchu trydan gan ddau beth - a bwlch rhwng cyflenwad a galw sy'n datblygu oherwydd bod nifer o orsafoedd pwer glo a Magnox yn tynnu tua diwedd eu hoes, a chytundebau mae'r DU wedi eu harwyddo sy'n ei chlymu i gynyddu'r ynni adnewyddadwy mae'n ei gynhyrchu. Mae'r ffaith na fydd cyflenwadau olew Mor y Gogledd ar gael am hir - naill ai oherwydd annibyniaeth i'r Alban, neu'r cwymp naturiol mewn lefel cynhyrchiad yn ychwanegu at y pwysau.
Efallai ei bod werth aros yma i edrych ar ambell i ffaith. Mae'r DU yn gwneud defnydd cymharol drwm o ynni - er mai tua 1% o boblogaeth y Byd sy'n byw yma, gwneir defnydd o tua 2% o'r ynni sy'n cael ei ddefnyddio tros y Byd. Daw tua tri chwarter y trydan a gynhyrchir yn y DU o bwerdai nwy a glo, gyda niwclear ar tua 15% a dulliau adnewyddadwy yn llai na hanner hynny.
Mae'r DU wedi ymrwymo i gwrdd a tharged o gynhyrchu 15% o'i thrydan o ffynonellau adnewyddadwy erbyn 2015. Tua 6.7% ydi'r ffigwr ar hyn o bryd. 'Dydi hyn ddim yn darged arbennig o uchelgeisiol - mae targed yr Undeb Ewropeaidd yn ei gyfanrwydd yn 20%, ac mae'r Alban yn bwriadu cyflenwi 100% o'i hanghenion trwy ddulliau adnewyddadwy erbyn 2020. Does yna ddim digon o bwer wedi ei ddatganoli i'r Cynulliad i ddylanwadu ar bethau llawer y naill ffordd na'r llall, a 'dydi llywodraeth Carwyn Jones ddim eisiau'r pwer chwaith. Esiampl arall o ddiffyg uchelgais llwyr y Blaid Lafur Gymreig.
O edrych yn benodol ar ynni gwynt, ar ddiwedd 2009 roedd y DU yn cynhyrchu 3.2% o'i hynni trwy'r dull hwnnw. Y ffigyrau ar gyfer Denmarc oedd 24%, Sbaen 14.4%, Portiwgal 14%, iwerddon 10.1%, Yr Almaen 9.3%. Mae Prydain ymysg prif fewnforwyr trydan y Byd - oherwydd nad ydi'r capasiti presenol yn ddigonol i gwrdd a'n anghenion. Yn wir mae'r Grid Cenedlaethol wedi ei gysylltu a grid yr Iseldiroedd i bwrpas mewnforio trydan.
A daw hyn a ni yn ol at Glyn Davies a rhai o'i etholwyr tymhestlog. Eu hateb nhw i'r bwlch rhwng y cyflenwad a'r galw am drydan sy'n siwr o ddatblygu tros y blynyddoedd sydd i ddod ydi mai mater i bobl eraill ydi mynd i'r afael a'r broblem honno. Problem i eraill hefyd ydi sicrhau bod y DU yn cwrdd a'i haddewidion ynglyn a chynhyrchu trydan o ffynonellau adnewyddadwy. Dim oll i wneud a Maldwyn - dim.
Pan roedd ein holl anghenion trydan yn cael eu cwrdd gan y diwydiant glo, roedd yn dilyn mai'r cymunedau glofaol fyddai'n cynhyrchu'r glo, ac roedd yn synhwyrol i gymunedau cyfagos ei losgi er mwyn creu trydan. Ac rwan mae amgylchiadau wedi newid, ac mae Maldwyn yn fwy addas na'r Rhondda a'r Barri, mae Glyn a'i gyfeillion yn dal o'r farn mai mater i rannau eraill o Gymru a'r DU ydi cynhyrchu trydan o hyd.
17 comments:
Cyd-destun a ffeithiau 'Prydeinig' od iawn yn y blogiad yma, yn enwedig o ystyried mae blog 'Plaid Cymru' yw hwn. Methu pasio ar gyfle i ladd ar Geidwadwr am wn i?!
Yn bersonol, ac mewn cyd-destun Cymreig, y pwynt pwysig yw ein bod yn cynhyrchu mwy o ynni na 'rydym yn ddefnyddio (cynhyrchu tua 9% o ynni y DU, defnyddio tua 6.7%), felly byddwn i'n disgwyl i flogiwr Plaid ddadlau na ddylai tirlun Cymru gael ei chwalu ar gyfer rhywbeth na fydd pobl Cymru yn ei ddefnyddio nac yn elwa ohonno.
Ro'n i meddwl ein bod wedi dysgu gwersi o Dryweryn a.y.y.b, ond ella fod ceisio sgorio ryw bwynt gwleidyddol neu ddau yn bwysicach....
O.N - mae angen dadl ehangach am ynni yng Nghymru, ac mae angen canolbwyntio ar ynni adnewyddol, yn ogystal a creu ynni cymunedol, ble byddai cymunedau'n dod yn llwyr hunan-gynhaliol. Bydd angen i'r Cynulliad gael grym llwyr dros ynni yng Nghymru er mwyn cyflawni hyn, yn ogystal a chymryd y grym dros isadeiledd ynni ag ati oddi wrth y cwmniau cyflenwi mawr.
Anamal dwi'n anhgytuno'n llwyr a Blog Menai, ond ddim yni ar gyfer Maldwyn ydi'r yni yma - dyna'r holl bwynt. Cryfhau grafangau Lloegr ar yni Cymru, heb son am y ffaith na fysa'r holl ffatrioedd gwynt yn lleihau'r angen am unrhyw bwerdy Nwy/Glo/Niwclear.
A pwy sy'n talu am y ffolineb yma? Pro rata y tlota mewn cymbeithas fydd yn cael y glec fwya pan fydd y bil yn dod drwyr post mewn blwyddyn.
Iwan - 'dydi'r blog ddim yn un Plaid Cymru, ond mae'r awdur yn aelod o'r Blaid, ac mae'r blog yn gyffredinol gefnogol i'r Blaid.
Mae cynhyrchu ynni yng Nghymru yn fater nad yw wedi ei ddatganoli i pob pwrpas, felly mae'n anodd trafod y mater mewn cyd destun Cymreig - yn wahanol i'r Alban.
Dyna'r sefyllfa yr ydym ynddi - ' dydi dadlau na ddylai Cymru gynhyrchu ddim mwy o ynni na mae ei hangen ddim yn gwneud synnwyr i mi a dweud y gwir.
Dylai rhywun sydd am weld Cymru annibynnol groesawu adeiladu is strwythur y gellir ei defnyddio er budd Cymru yn y dyfodol pan mae'r sefyllfa gyfansoddiadol yn wahanol.
Ioan - mae ynni gwynt yn lleihau'r angen am ynni nwy / glo / olew, ond dydi o ddim yn dileu'r angen am orsafoedd felly. 'Dydi'r gwynt ddim yn chwythu trwy'r amser, felly mae angen capaiti wrth gefn.
Mae cynhyrchu ynni yng Nghymru yn fater nad yw wedi ei ddatganoli i pob pwrpas, felly mae'n anodd trafod y mater mewn cyd destun Cymreig - yn wahanol i'r Alban.
Pam ei bod yn anodd? Mae digon o ymchwil/dogfennau ag ati ar gael i gael trafodaeth ar y pwnc - mae'r ystadegyn yn fy sylw cyntaf yn dod o ddogfen gan un o adrannau llywodraeth San Steffan er enghraifft.
dydi dadlau na ddylai Cymru gynhyrchu ddim mwy o ynni na mae ei hangen ddim yn gwneud synnwyr i mi a dweud y gwir.
Nid dyna fy nadl - i;r gwrthwyneb! Mewn cyd-destun Prydeinig, mae Cymru'n gwenud mwy na'i shar yn barod, felly ni ddylai prosectiau gwynt mawr gael eu gorfodi ar unrhyw ran o'r wlad ble mae gwrthwynebiad cryf.
Fodd bynnag, mae gan Cymru botensial enfawr yn y maes ynni adnewyddol, gyda thirlun ac arfordir y wlad yn llawn ynni naturiol a glân yn barod i'w ddefnyddio ac ar gael tra bydd y ddaear mewn bodolaeth. Yn y dyfodol, bydd ynni cynaliadwy, adnewyddol, yn llawer pwysicach na beth yw olew heddiw, a gyda rheolaeth dros ei hadnoddau ei hun, gallai Cymru fod yn wlad gyfoethog iawn yn y cyd-destun yma.
Mae ynni gwynt (fel y mae'n cael ei ddefnyddio ym Mhrydain heddiw) ar y llaw arall yn cynnig gwerth am arian hynod wael, mae rhaid cael back-up pan nad yw hi'n chwythu, ac mae'r agenda yn cael ei harwain gan gwmniau mawr sydd hefo gwleidyddion yn ei pocedi, gwleidyddion sydd ddigon barod i ddefnyddio ynni gwynt i rannu'r lobi gwyrdd.
Dipyn bach fatha deud bod ddylai Cymru ddim cael sweet f all o'r hyn mae'r diwydiant gwsanaethau aroannol yn ei roi i'r trysorlys am nad ydi Cymru yn cyfrannu sweet f all.
Anonymous said...
Dipyn bach fatha deud bod ddylai Cymru ddim cael sweet f all o'r hyn mae'r diwydiant gwsanaethau aroannol yn ei roi i'r trysorlys am nad ydi Cymru yn cyfrannu sweet f all.
Wel ar un olwg, mae yna rhywfaint o wirionedd yn y ddadl bod perygl i wlad sydd ddim yn 'cyfranu' yn llawn yn y rhan fwyaf o feysydd economaidd ddechrau cwyno os ydi hi'n gwneud mwy na'i siar efo rhywbeth. Ond mae'r ddadl yn methu'r cyd destun ehangach mae'n debyg gen i - yr hyn sydd angen ei wthio ydi'r ffaith bod Cymru angen y pwerau i elwa lle mae'n gor 'gyfranu', ac i ddatblygu'r agweddau hynny ar ei heconomi sy'dd heb gael cyfle i ddatblygu o dan y gyfundrefn sydd ohoni.
Iwan - mae cwestiynau am gost effeithlionrwydd pob dull carbon niwtral o gynhyrchu ynni - gan gynnwys niwclear. Ond dydi defnyddio nwy ac ati ddim yn ein symud tuag at y ynni adnewyddadwy.
Dwi inna'n methu deall rhesymeg y blogiad hwn. Mae yna botensial amlwg i ddatblygu ymwybyddiaeth genedlaethol yn yr ardaloedd dan sylw gyda'r mater hwn- ardaloedd sydd wedi bod yn dir diffrwyth i'r mudiad cenedlaethol yn y gorffennol. Welsoch chi'r slogan neithiwr "They drowned Tryweryn, don't let them electrocute Montgomeryshire"?.Mae'n gyfle gwych i Leanne Wood godi ei phroffil a chyflwyno dadl berthnasol ac amserol am ddatganoli grym dros ynni i Gymru a dangos pa mor wan ydi Llafur ar y mater hwn. Ar yr un gwynt, mae isio annog trafodaeth genedlaethol Gymreig am greu a defnyddio ynni i'r dyfodol, gan wahodd cymunedau i gynnig eu syniadau eu hunain am yr hyn a fyddai'n addas iddynt hwy. Gall ymgyrchwyr Trefaldwyn danio symudiad Cymreig newydd fan hyn. Mae angen eu cefnogi a defnyddio eu cynddaredd er lles y mudiad cenedlaethol.
"Ioan - mae ynni gwynt yn lleihau'r angen am ynni nwy / glo / olew, ond dydi o ddim yn dileu'r angen am orsafoedd felly. 'Dydi'r gwynt ddim yn chwythu trwy'r amser, felly mae angen capaiti wrth gefn."
Ti'n gwneud y pwynt i mi. Mae dal angen pwerdy hefo capasiti wrth gefn, sy'n segur pan mae'r gwynt yn gwthu, ond yn cicio fewn pan does na ddim gwynt. Mae hyn yn ffordd andros o ddrud o gynhyrchu trydan, a tydio ddim yn glir os ydio'n arbed unrhyw CO2 (mae gorsafoedd trydan nwy yn fwy effeithio pan mae nhw mlaen ar hyd yr amser).
O ran diddordeb, by fysa dy farn di am gael fferm wynt ar yn Arenig, peilons ar hyd ochor Llyn tryweryn, sub-station yn Bala, ac wedyn peilons uchel yr holl ffordd lawr afon Dyfrdwy i Lerpwl?
Pwi'm yn deallt y lein yma chwaith (ella 'mod i'n thick bore 'ma)!
"Mae cynhyrchu ynni yng Nghymru yn fater nad yw wedi ei ddatganoli i pob pwrpas, felly mae'n anodd trafod y mater mewn cyd destun Cymreig - yn wahanol i'r Alban."
Dwi ddim yn cofio cael trafferth trafod materion mewn cyd destun Cymreig cyn dataganoli. Dwi'n siwr bod Plaid Cymru wedi bod yn erbyn boddi Tryweryn - a doedd polisi dwr ar y pryd heb ei ddatganoli.
Mae angen trafod y pwnc yma mewn cyd destun Cymreig, dim just mwynhau aniddigrwydd toriaid a Saeson sir Drefaldwyn.
Aled G J, newydd weld dy baragraff - cytuno bob gair, a lot taclusach na'n rwdlan i!
http://thegwpf.org/images/stories/gwpf-reports/hughes-evidence.pdf
Aw, this waѕ an extremely nice ρoѕt. Finding the timе anԁ actuаl effort to cгeate a νery good article… but what can I say… Ι hesitatе a lot and don't seem to get nearly anything done.
Also visit my site http://cityadslive.com
Yes! Finally someone ωritеs abоut tenаilles.
my wеbpage: supplemental resources
Hey there, I thinκ your blog might bе havіng
broωser comρаtibilitу iѕѕues.
When I look аt your blog ѕite in Opeгa, it looks fine but whеn opening in Internet Exρloreг,
it has some oveгlappіng. I just wanted to give you a quick heaԁs up!
other then
that, aweѕome blog!
We're a group of volunteers and starting a new scheme in our community. Your website provided us with valuable info to work on. You'vе done a foгmidable job аnԁ ouг whole communіtу will be grateful to you.
my blοg; v2 cigs reviews
cегtainly like yοur web-site however you havе to test the sрelling οn several
of your pоsts. A number of them are гifе with spellіng issues anԁ Ι іn
finding it veгy tгoublesome to tеll
the reality neveгtheless Ι will definitely cοme again аgain.
Here is my hоmepage ... visit the following website
Post a Comment