Blogiad o Fehefin 2010 ydi'r cyntaf - roedd yn edrych ar ragrith llywodraeth Barak Obama yn eu hagwedd tuag at BP pan roedd gan y rheiny ffynnon olew oedd yn pwmpio olew i Gwlff Mecsico - yn agos at arfordir yr UDA.
Dwi'n meddwl mai'r blogiad yma gafodd y darlleniad uchaf yn hanes y blog.
Efo'r holl genadwri am y drychineb amgylcheddol yng Ngwlff Mecsico, hwyrach ei bod werth atgoffa ein hunain nad dyma'r ddamwain amgylcheddol gyntaf nag yn wir yr un waethaf o gryn bellter. Efallai ei bod hefyd werth holi os oes gan yr holl hw ha sydd wedi codi yn sgil yr esiampl arbennig yma o lygredd diwydiannol rhywbeth ehangach i'w ddweud wrthym am y byd a'i bethau.
Dewch am dro bach yn ol mewn amser efo fi i ddinas Bhopal yng nghanolbarth India. Am 12:30am ar Rhagfyr 3ydd, 1984 dechreuodd pobl sylwi bod mwg gwyn yn treiddio i mewn i'w tai a bod eu plant yn troi'n las, yn pesychu ac yn marw. Rhedodd pobl allan i'r strydoedd mewn panig a chael eu hunain yn dystion i weledigaeth o Uffern oedd y tu hwnt hyd yn oed i ddychymyg Ellis Wynne - roedd yna bobl ar y llawr yn cael ffitiau, yn pesychu, yn chwydu ac yn boddi yn eu hylifau corfforol eu hunain. Roedd y ffaith bod y nwy yn llosgi i mewn i lygaid llawer a'u dallu yn ychwanegu at yr anhrefn a'r panig. Lladdwyd llawer ynghanol yr ymdrechion gwyllt i ddianc o'r dref. Roedd pobl yn colli rheolaeth tros eu cyrff eu hunain wrth redeg gyda budreddi a gwlybaniaeth yn rhedeg i lawr eu coesau a merched beichiog yn waed trostynt oherwydd eu bod yn erthylu yn y fan yr oeddynt yn sefyll ynddo. Lladdwyd llawer o'r sawl na allai sefyll gan bobl eraill yn rhedeg trostynt.
'Does yna ddim cytundeb ynglyn a faint fu farw y diwrnod hwnnw, ond rydym yn gwybod i saith mil amdo gael eu gwerthu yn Bhopal yn ystod y diwrnod neu ddau wedi'r digwyddiad ar gyfer y sawl oedd a theuluoedd i'w claddu neu'i llosgi. Rydym hefyd yn gwybod i'r fyddin ac awdurdodau lleol gladdu miloedd o'r sawl nad oedd a theuluoedd yn fyw. Mae'n bosibl i cymaint ag ugain mil o bobl farw. Mae'n debyg i hanner miliwn o bobl ddod i gysylltiad o rhyw fath efo'r nwy. Mae yna ddegau o filoedd - efallai ganoedd o filoedd wedi dioddef problemau iechyd difrifol ers y diwrnod hwnnw. Caiff canoedd o fabanod yn yr ardal eu geni gyda diffygion pob blwyddyn oherwydd bod y cyflenwad dwr wedi ei lygru.
Er bod ansicrwydd ynglyn a'r union nifer a fu farw ac a ddioddefodd broblemau meddygol, rydym yn hollol siwr am bwy oedd yn y pen draw yn gyfrifol - cwmni cemegau Americanaidd o'r enw Union Carbide, a'r dyn oedd yn gadeirydd iddynt ar y pryd - Warren Anderson. Roedd ganddynt ffatri yn y dref oedd yn cynhyrchu cemegolion gwenwynig ac roedd y safonau rheolaeth tros y ffatri yn rhyfeddol o isel - gyda phob rheoliad diogelwch yn cael ei anwybyddu mewn ymgyrch loerig i arbed pres.
Mae'n sicr mai'r hyn a arweiniodd yn uniongyrchol at y drychineb oedd y penderfyniad i droi'r system cadw cemegolion yn oer i ffwrdd er mwyn arbed gwerth $37 doler y diwrnod ar nwy freon. Arweiniodd hyn at brosesau cemegol a greodd y methyl-isocyanate - un o'r nwyon mwyaf gwenwynig i gael ei gynhyrchu erioed a chwythwyd hwnnw tros y dref. Roedd cyfres hir o benderfyniadau eraill wedi eu cymryd cyn hynny oedd yn tanseilio'r systemau diogelwch. Arbed pres oedd y rheswm tros pob un o'r penderfyniadau hynny.
Mae'r broses gyfreithiol i ddigolledu'r sawl a fu farw ac a gafodd eu bywydau wedi eu difetha ac i gosbi'r sawl oedd yn gyfrifol wedi bod yn un faith. Fel mae'n digwydd cafwyd dedfryd mewn achos troseddol ddechrau'r mis yma (yng nghanol yr helynt BP) - gyda saith o swyddogion Indiaidd yn cael eu dedfrydu i ddwy flynedd a hanner o garchar yr un ac yn cael eu dirwyo $10,500 - rhyngddyn nhw. 'Doedd Mr Anderson nag Union Carbide ddim yn y llys - er eu bod wedi derbyn gwis i fynd. Dewisodd Mr Anderson aros adref yn Efrog Newydd ac ni ddaeth neb i'r llys ar ran y cwmni. Hyd yn hyn mae gweinyddiaeth Mr Obama wedi gwrthsefyll pwysau o'r tu allan ac oddi mewn i'r UDA i estraddodi Mr Anderson i wynebu llys yn India. Mae Union Carbide wedi talu iawndal bellach i'r rhan fwyaf o'r sawl a effeithwyd arnynt - ond mae hwnnw'n llawer, llawer llai ym mhob achos na mae BP yn gorfod ei dalu mewn dirywon uniongyrchol i lywodraeth yr UDA am pob un o'r miliynau o fareli maent yn eu colli o'u ffynnon olew yng Ngwlff Mecsico.
Rwan cymharwch hyn efo ymateb eithaf hysteraidd ac o bosibl xenoffobaidd gan yr un weinyddiaeth a'r bygythiadau o ddirwyon, erlyniadau troseddol ac ati sy'n cael eu taflu i gyfeiriad BP yn sgil trychineb llawer, llawer llai difrifol (mewn termau dynol) Deepwater Horizon.
Does gen i ddim problem efo'r bygythiadau hynny fel y cyfryw - mae atebolrwydd corfforiaethol yn greiddiol i ymdeimlad o gyfrifoldeb corfforiaethol. Mae gen i, fodd bynnag, broblem efo'r safonau deublyg o mor Americanaidd mae'r cyferbyniad rhwng y ddwy stori yn ei ddangos yn anymunol o glir.
Mae yna ddrwgdeimlad digon cyffredinol tuag at America y tu allan i'r wlad honno ers rhyfel Vietnam. Ceir amryw o resymau am hynny ac maent yn gymhleth. Ond un o'r pwysicaf yn eu plith ydi'r ymdeimlad o safonau deublyg ar ran y wlad a'i phobl - bod buddiannau, ac yn bwysicach bywydau Americanaidd cymaint pwysicach iddynt na buddiannau a bywydau pobl eraill. Mae'r gwerth isel a roir gan yr UDA ar fywydau tramorwyr yn cyferbynnu'n anghyfforddus efo'u arfer o bregethu pwysigrwydd hawliau dynol, gwerthoedd democrataidd ac ati i eraill.
Yn y cyd destun yma mae deall y gwahaniaeth yn ymateb gweinyddiaeth Obama i fethiant Tony Hayward i ddelio efo'r broblem yn y Gwlff yn ddiymdroi a methiant Warren Anderson i gyflwyno ei hun ger bron ei well yn India. Mae'r rhan fwyaf o lefydd a effeithwyd arnynt yn y Gwlff yn Americanaidd, ac mae canfyddiad (ffug fel mae'n digwydd - mae BP mor Americanaidd nag ydyw Brydeinig erbyn hyn) mai cwmni tramor sy'n gyfrifol am y sefyllfa. Mae hyn yn cynhyrchu drwgdeimlad sylweddol tuag at BP ymysg llawer o Americanwyr, ac mae Osama yn gorfod ymateb i hynny trwy gosbi BP, ac yn bwysicach trwy gynhyrchu rhethreg sy'n adlewyrchu diflastod Americanwyr - etholwyr - cyffredin.
Ar y llaw arall cwmni Americanaidd ydi Union Carbide ac Americanwr ydi Warren Anderson. Tramorwyr oedd y sawl a effeithwyd arnynt gan y methyl-isocyanate. Mae'n ddealladwy nad ydi'r digwyddiad yn Bhopal yn cynhyrchu cymaint o ddrwg deimlad heddiw yn yr UDA - wedi'r cwbl mi ddigwyddodd chwarter canrif yn ol. Ond ni wnaeth achosi llawer o ddrwg deimlad tuag at Union Carbide yn y wlad ar y pryd - yn sicr ddim canfed o'r gynddaredd sy'n cael ei gyfeirio at BP pob tro mae 'deryn wedi ei orchuddio mewn olew yn ymddangos ar Fox News. Mae rhywfaint o bwysau wedi dod gan seneddwyr Democrataidd i estraddodi Mr Anderson, ond ddim llawer.
Pan gafodd Obama ei ethol yr angen am newid oedd craidd ei ymgyrch. Ond mae rhai pethau sylfaenol ddigyfnewid am yr wlad ryfeddol o fewnblyg a hunan ymrwymedig yma - ac mae bod efo llinyn mesur cwbl wahanol i fesur gwerth pobl sydd yn Americanwyr, a phobl nad ydynt ymhlith y rheiny.
No comments:
Post a Comment