Dwi wedi bod yn edrych ar y sioe dan gwyllt bach ym Mae Caerdydd o fwy o bellter nag arfer y tro hwn - dwi ym Madrid fel 'dwi'n sgwennu hyn o eiriau. Beth bynnag os ydych chi'n edrych ar bethau o bell neu agos, mae yna nifer o wersi i'w cymryd o'r holl strancio - dyma nhw - ddim mewn trefn arbennig.
1). Dydi fotio yr un ffordd a'r Toriaid ar rhyw bleidlais neu'i gilydd ddim yn gwneud y Blaid yn gwn bach, ail ffidil nag unrhyw drosiadau eraill tebyg yr ydych eisiau eu cymysgu. Dydi fotio efo Llafur ddim yn ein gwneud yn ddarostyngedig i'r rheiny chwaith. Mae plaid yn dangos ei hannibyniaeth trwy bleidleisio yn unol a'i barn - gyfansawdd - ei hun. Yn wir mae pleidleisio efo'r Blaid Lafur yn rhy gyson yn wrth gynhyrchiol o ran y sawl sydd eisiau mynd i lywodraeth efo Llafur. 'Dydi gallu bod yn sicr o gefnogaeth anffurfiol ond cyson gan Blaid Cymru ddim yn rhoi unrhyw bwysau ar Carwyn Jones i ddod i drefnint mwy ffurfiol. Ar ben hynny mae rhoi ffocws ar beth mae'r naill blaid fawr unoliaethol yn ei wneud yn Prydaineiddio gwleidyddiaeth ym Mae Caerdydd.
2). 'Dydi'r etholwyr ddim yn hoff o bleidiau sy'n rhanedig, ac maent yn amlach na pheidio yn eu cosbi. Yn wahanol i'r 70au hwyr pan roedd hollt yn y Blaid Lafur ynglyn a'i pholisiau economaidd creiddiol, neu'r un yn y Blaid Doriaidd yn y 90au ynglyn ag Ewrop, dydi'r hollt oddi mewn i'r Blaid ddim yn un pwysig - mae'n ymwneud a phersonoliaethau ag ol flas yr etholiad arweinyddol. Serch hynny mae'n edrych fel hollt go iawn - a gall hynny fod yn niweidiol ynddo'i hun.
3). A thra rydan ni'n son am yr etholiad arweinyddol, mae hi drosodd, finito, kaput, finished. Beth bynnag ydi teimlad un o'r ymgeiswyr ynglyn a'r hyn ddigwyddodd mae aelodaeth y Blaid wedi mynegi barn cwbl glir ynglyn a'r angen am broffeil newydd a chyfeiriad i'r Blaid. Mae'r dis arbennig yna wedi ei daflu - beth bynnag arall ddigwyddith, fydd Dafydd Elis-Thomas byth yn arwain Plaid Cymru eto. 'Does yna ddim am newid hynny. Mae'n amser i symud ymlaen.
4). A daw hynny a ni at 'aeddfedrwydd'. Mae yna gryn dipyn o gyfeirio at hynny wedi bod yn ystod yr holl helynt. Un o brif nodweddion aeddfedrwydd mewn unigolyn ydi'r gallu i asesu a derbyn sefyllfa newydd - da neu ddrwg - a symud ymlaen a gwneud y gorau o bethau. 'Dydi gogrdroi o gwmpas sefyllfa nad ydym yn ei chroesawu, ond na fedrwn ni wneud dim oll i'w newid, ddim yn arwydd o aeddfedrwydd emosiynol. Mae angen i bawb symud yn eu blaenau a chymryd y sefyllfa sydd ohoni fel eu man cychwyn - nid y sefyllfa fel yr oedd chwe mis yn ol.
5). Beirniadu'n gall. Fyddai neb am i Blaid Cymru fod fel Plaid Gomiwnyddol Stalin, neu Blaid Lafur Blair lle nad oedd neb yn cael beirniadu polisiau'r arweinyddiaeth. Fyddwn i ddim yn dymuno i fy ngelyn pennaf gael y profiad o ddisgwyl am ymweliad gan Peter Mandelson neu Vyacheslav Molotov liw nos. Mae'n briodol i bobl fod a gwahaniaethau barn, ac mae'n iach pan mae gan blaid wleidyddol y gallu i adael i'r gwahaniaethau barn hynny gael eu gwyntyllu. Yr hyn sy'n broblem efo'r ffordd mae Dafydd Elis-Thomas yn mynegi ei farn, fodd bynnag ydi ei fod yn dod i gasgliadau pellach - a hynod niweidiol i'r Blaid. Mae dweud y dylai'r Blaid gydweithredu mwy efo'r Blaid Lafur yn un peth. Mae priodoli amharodrwydd i wneud hynny i anaeddfedrwydd ar ran yr arweinyddiaeth yn fater arall - mae'n gwneud pethau'n bersonol ac mae'n cynnig naratif i bleidiau eraill. Ni ddylai hynny fod yn dderbyniol i neb.
6). Dydi ymddangosiad ffigyrau patriarchaidd ar y tonfeddi radio yn cynnig cyngor i arweinyddiaeth y Blaid ynglyn a'r 'ffordd ymlaen' ddim yn helpu pethau - ta waeth pa mor nodedig cyfraniad y patriarch yn y gorffennol. Mae'n adgyfnerthu'r canfyddiad o rwyg yn rhengoedd y Blaid, a 'dydi cyngor sydd wedi ei fynegi ar Radio Cymru ddim yn cario mymryn mwy o bwysau na chyngor sydd wedi ei gynnig trwy'r strwythurau priodol.
7). Dylai aelodau etholedig y Blaid wrando ar ei gilydd, a gwneud hynny trwy gyfrwng y strwythurau priodol. 'Dydi cyfathrebu trwy'r cyfryngau torfol ddim yn ffordd dda i aelodau grwp Plaid Cymru yn y Cynulliad siarad efo'i gilydd. Parch sydd wrth wraidd cyfathrebu yn effeithiol- os ydym yn parchu ein gilydd gallwn fynegi a derbyn gwahaniaeth barn yn rhwydd a thrwy ddulliau anffurfiol. Os oes yna sefyllfa lle mae un neu fwy o aelodau grwp yn ei chael yn anodd parchu'r gweddill, neu rai o'r gweddill, yna mae strwythurau ffurfiol o gyfathrebu'n bwysig er mwyn hyrwyddo cyfathrebu effeithiol. Ond 'dydi'r rheiny'n dda i ddim os na wneir defnydd ohonynt.
8). Mae Leanne Wood wedi bod yn gall - feiddia i ddweud aeddfed - i dynnu'r gwenwyn o'r holl sefyllfa. Beth bynnag arall y gallwn ei ddweud am Dafydd Elis-Thomas, mae'n wleidydd talentog, sydd wedi gwasanaethu Cymru a'r Blaid yn effeithiol yn y gorffennol, a gall wneud hynny eto yn y dyfodol. Mae'n adlewyrchu yn dda ar Leanne iddi werthfawrogi hynny er gwaethaf emosiwn y dyddiau diwethaf.
Sylwadau pellach ar y stori hon gan:
Paul Flynn
HoR
Syniadau
Dyfrig
Gareth Hughes
13 comments:
Os nad yw DET am i'r Blaid closio'n ormodol at y Torïaid hwyrach dylai rhoi'r gorau i'w efelychiad o Ted Heath.
Teg yw dweud fy mod yn llwyr angytuno a bron pob rhan o dy ddadansoddiad ac mai'r unig bobl sydd wedi clywed ochr Dafydd o'r ddadl yn llawn yw Pwyllgor Etholaeth Dwyfor-Meirionydd, ac ar ol ei glywed fe rhoddwyd cefnogaeth gref iddo. 'Rwyf wedi anfon fy sylwadau personol i Leanne, nid wyf am eu hail ddatgan yma, ond mae yn deg i ddweud un peth yma, a hynny yw os nad yw'r arweinyddiaeth yn aeddfedu ac yn callio, bydd hi'n Ta Ta ar y Blaid am flynyddoedd lawer. Diolch i drefn bod Dafydd yn gweithio mor galed dros y Blaid, dros ei etholaeth, Y Gogledd ac hefyd Cymru gyfan
Clyw clyw un o Eryri. Beth bynnag mae rhywun yn credu am sgiliau a phrofiad yr arweinyddiaeth yn ddios mae angen i Leanne drafod ac ystyried yn ofalus rhai sydd wedi'r cyfan efo profiad helaeth-oni wneir hynny a dechrau cael strategaeth positif yna yn yr anialwch fydd y Blaid am flynyddoedd. Rhaid sylweddoli efo llywodraeth Toriaidd yn Llundain a'R economi fel mae fe fydd y gefnogaeth i Lafur yng Nghymru yn rhwym o gynyddu a ffantasi llwyr yw meddwl fod y bleidlais yna ar gael i ni; rhaid felly safleoli'r Blaid yn ofalus a charwn awgrymu mae nid trwy lein galed a negyddiaeth fydd gwneud hynny. Teg yw hefyd nodi bod aelodau eraill o'r Cynulliad yn teimlo'n debyg i DET ond heb lleisio hynny mor huawdl-hyd yn hyn!
Mae'n od sut mae pleidiau gwleidyddol yn rhannu gyda dros ffrae bersonol.
Sawl gwaith gwelir plaid yn pwyso'r 'self destruct' button oherwydd bod ambell aelod yn gweld eu hunain yn bwysicach na'r undod.
Wel, pwyllgor etholaeth Meirion Dwyfor ydi'r unig gorff sy'n derbyn naratif cwbl, un ochrog o bethau.
Dwi'm yn siwr faint o gyfraniad wnaeth DET tra'n arweinydd - cyn fy amser i. Ond ers 1992 mae o wedi bod yn semi-detached a deud y lleia - yn Arglwydd cross-bench ac yn gadeirydd Bwrdd yr Iaith. Ers 1999 mae o wedi bod yn andros o semi-detached fel LLywydd (bydde disgwyl hynny) ac roedd ei benderfyniad i sefyll am yr arweinyddiaeth felly'n dipyn o syrpreis. Y syrpreis mwyaf oedd ei fod yn credu ei fod dal ar y chwith.
Fel dywedodd Dafydd Iwan - cameleon gwleidyddol a niweidiol iawn i ddyfodol y Blaid.
"(Yr)unig bobl sydd wedi clywed ochr Dafydd o'r ddadl yn llawn yw Pwyllgor Etholaeth Dwyfor-Meirionydd, ac ar ol ei glywed fe rhoddwyd cefnogaeth gref iddo...os nad yw'r arweinyddiaeth yn aeddfedu ac yn callio, bydd hi'n Ta Ta ar y Blaid am flynyddoedd lawer. Diolch i drefn bod Dafydd yn gweithio mor galed dros y Blaid, dros ei etholaeth, Y Gogledd ac hefyd Cymru gyfan"
Un ochr i'r stori, ac ochr sydd wedi cael ei lywio i gyfeiriad arbennig, gan olygu fod pobl yn dod i gasglaid sy'n siwtio Dafydd Elis Thomas.
Felly yn dy dyb di rhaid i'r arweinyddiaeth wrando ar bob dim y mae dafydd yn ei ddweud. Mae cynllun/strategaeth y Blaid yn anghywior a dafdyd sy'n iawn. Plaid Cymru sydd wedi bod yn ddrwg a dafydd sydd wedi bod yn lanach na glan.
Boed yn ddoeth neu annoeth rhaid i Dafydd dderbyn penderfyiad ei Blaid a bod yn rhan adeiladol or tim hynny.
Yr hyn mae o'n ddweud drosodd a throsodd yw ei fod o wedi gosod gwrth-ddadl i'r Blaid (ar wahanol bethau) a fethodd. Beth mae o'n ei wneud felly? Mynd ymlaen a cheisio bwlio ei gyfeiriad o er gwaethaf ei fod wedi colli'r ddadl. Bwli.
Ella, yr un fath a Dafydd, dy fod ti'n credu fod cynllun y Blaid yn anghywir. Ella yn wir fod cynllun y Blaid yn anghywir, er nad oes posib gwybod hynny am beth amser eto. Ond nid trwy fwlio, a siarad trwy'r wasg y mae newid cyfeiriad, ond trwy'r Gynhadledd, Cyngor Cenedlaethol, a'r Pwyllogr Gwaith. Ac os wyt ti, fel Dafydd, yn credu fod POB UN o'r rhain yn anghywir, yna mae'n amser dechrau gofyn cwestiynau mawr i dy hun ynghylch wyt ti'n aelod o'r blaid iawn i ti.
Gofyn cwestiwn yn unig.
Mae yna un peth chwerthinllyd wedi dod allan o'r datblygiadau diweddar yma, a does neb wedi pigo i fyny arno.
Yn ol datganiad PC Dwyfor Meirionnydd a chyhoeddiad Dafydd Ale ar y radio dywedwyd y dylai fod hawl gan unigolyn o fewn y grwp gael gweithredu'n groes i'r grwp ar fater o gydwybod. Dyma ddywedodd PC Dwyfor Meirionnydd:
"We believe that matters of conscience should always have priority over multi-party matters"
Tydw i erioed, ERIOED wedi clywed dim byd mor affwysol o dwp yn fy myw (yn y cyd-destun yma).
Ydy aelodau pwyllgor PC Dwyfor Meirionnydd wirioneddol mor ddwl a hyn?
Rwan, dwi'n gwybod nad yw Wikipedia yn ffynhonell gwbl ddibenadwy, ond mae'n gwneud y tro i'r diben yma. Dyma ddiffiniad Wiki o faterion cydwybod gwleidyddol:
"Usually, a conscience vote will be about religious, moral or ethical issues"
Ers pryd mae cael yr hawl i fynychu seremoni wobrwyo graddedigion yn fater o gydwybod?
Nid mater o ryfel oedd o; nid mater o 'abortion'; nid mater o 'euthanasia'.
Mae'r peth yn gwbl, hollol, rhyfeddol o hurt!
Diddorol bod yr Awdur ac un person arall wedi cyhuddo Pwyllgor Etholaeth Dwyfor-Meirion o glywed un ochr yn unig. Yr hyn ddywedais oedd bod etholaeth Dwyfor-Meirion yn amlwg wedi clywed yr un ochr a chi i gyd, dyna pam cafwyd cyfarfod i Dafydd gael cyfle i roi ei ochr ef o bethau. Ar ol clywed ei ochr ef hefyd yn wahanol i chi eich dau, penderfynwyd rhoi cefnogaeth lwyr iddo. Mae hyn yn amlwg yn gwrando ar y ddwy ochr a nid yw yn gwneud synnwyr i chi ein cyhuddo o wrando ar un ochr yn unig.
I'r person sydd yn dadlau am gydwybod mae yn amlwg bod gennyt y gallu i ddarllen pethau ac hyd yn oed ei hail dyfynnu, ond y peth mawr i wneud gyda darllen yw deall yr hyn 'rwyt yn ei ddarllen. Wnai geisio mynd trwy rhai o dy ddyfyniadau a gan dy fod ti wedi dyfynnu yn Saesneg fe wnai fynd ar ol dy union eiriau.
"We believe that matters of conscience should always have priority over multi-party matters"
Cymer sylw o'r geiriau multi-party yma os gweli di yn dda.
"Rwan, dwi'n gwybod nad yw Wikipedia yn ffynhonell gwbl ddibenadwy, ond mae'n gwneud y tro i'r diben yma." Hynny yw nid wyt yn credu bod Wikipedia yn ffynhonell gwbl ddibenadwy, heblaw pan mae'n rhoi cyfle i ti i ymosod ar dy wrthwynebwyr
Dyma diffiniad "wikipedia" gennyt.
"Usually, a conscience vote will be about religious, moral or ethical issues"
'Rwyt yn gyfleus iawn yn anghofio darllen y gair usually.
Ond i anghofio Wikipedia buaswn yn argymell yn gryf iawn buasai y diffiniad canlynol yn disgyn i mewn i gategori "cydwybod" Os yw pleidlais yn y Senedd yn mynd i wneud drwg i fy etholwyr.
Mae gan y Blaid broblem - ers ceisio fod yn Blaid i Gymru gyfan, ers cael ei henwi'n 'The Party of Wales'.
Ar yr un llaw mae'n ceisio cadw a bodloni'r dosbarth canol, gwledig, gogwydd de o'r canol ac ar yr un pryd geisio dennu dosbarth gweithiol, drefol sosialaidd - yn fras ardaloedd gwledig y gogledd a'r gorllewin ar yr un llaw, a'r cymoedd trefol ar y llaw arall.
Mae'r ffrae yma yn amlygu'r gwahaniaethau.
Problem fwyaf y Blaid (a Leanne fel arweinydd) bellach yw canfod rôl addas i DET. Ceffyl blaen yw DET. Mae o heb os yn graff, yn alluog ac yn brofiadol, ac y mae o angen rhywbeth i’w wneud. Nid yw cicio’i sodla’ ar y meinciau cefn yn y Bae mynd i’w gadw allan o drwbwl. Mae o angan joban o waith – a mae’n rhaid i honno fod :
a. yn joban go iawn, naill ai oddi mewn i’r Cynulliad neu’r tu allan
b. yn waith sydd yn mynd i’w gadw’n brysur y rhan fwyaf o’r amser
c. yn waith sydd yn mynd i roi llwyfan cyhoeddus iddo, a hynny’n gyson
Hon felly fydd tasg fwyaf Leanne, yr aelodau yn y Cynulliad, ac yn wir y Blaid i gyd dros fisoedd yr haf.
Unrhyw syniad gan rywun?
Diddorol iawn Un o Eryri (9.18pm).
Tin deud ynglyn a DET: "ac ar ol ei glywed fe rhoddwyd cefnogaeth gref iddo".
Wel yn ol ef ar Radio Cymru, roedd y penderfyniad wedi'i wneud cyn iddo hyd yn oed gyrraedd.
Pa un ydio?
Anon 11.14pm:
Be tin anghofio yw erbyn etholiad y Cynulliad 2015 maen debyg ar hyn o bryd mai Llywodraeth Llafur fydd yn San Steffan. A pan mae Llafur mewn pwer, mae pleidleisiau PC yn mynd hefyd. Ti hefyd yn anghofio fe fydd Llafur Cymru wedi israddio nifer fawr o ysbytai erbyn 2015, ac mae bron yn sicr fydd llefydd fel Llanelli yn disgyn ir Blaid.
Blogmenai
Cytuno gyda bob dim ti wedi'i ddeud. Rhaid ffeindio rol i DET o fewn ir Blaid. Ond mae o i fyny i ef os ydio eisiau gweithio i'r tim. Os ddim, fydd rhaid cael gwared ag ef - allwn ni ddim mynd ymlaen fel hyn.
Rhaid deud fy mod i wedi fy siomi yn bersonol yn DET. Petai e wedi gadael y Cynulliad yn 2011 fe fysa hanes wedi bod yn garedig iawn iddo. Ar hyn o bryd mae'r llyfrau hanes yn cael ei ail ysgrifennu.
Ond y gwir amdani maer deis yn dwylo dafydd nawr. Mae o i fyny i fo os ydio am gweithio ir Blaid.
Un pwynt fyswn i yn adio yw bod y proses tu ol ir disgyblu wedi bod yn shambles llwyr. Methiant Ty Gwynfor oedd hwn a rheini da NI fel aelodau yn talu i helpu LW. Rhain nath fethu. Ac i fod yn onesd mae nhw wedi methu dros y 6mlynedd dwytha gyda strategaeth glir a cyllid y Blaid. Blogmenai - fel aelod PC, sut mae rhywun yn mynd o gwmpas i drio newid rhai o staff HQ? Dani angen rhywun or tu allan i ddod fewn i newid pethau o gwmpas!
Ti'n siarad drwy dy het. Dim proses Ty Gwynfor oedd hon - dim byd i'w wneud â Thy Gwynfor - proses aelodau'r Cynulliad oedd hon. Mi fuodd yna newidiadau yno yn HQ llynedd sdi. Dwi'n clywed fod Ty Gwynfor wrthi fel lladd nadredd yn ceisio trefnu is-etholiadau tra bod y ffwlbri yma yn mynd rhagddi - chwedl Sir Fôn yn ddiweddar, De Caerdydd ayb. Chwara' teg nhw fuodd yn gyfrifol am gynyddu aelodaeth. S'dim isho eu beio nhw am fethiant eraill i gymryd cyfrifoldeb.
Post a Comment