tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post5066086196537932783..comments2024-02-26T21:33:06.777+00:00Comments on BlogMenai.com: Streic anfoesol?Cai Larsenhttp://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comBlogger6125tag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-9578567437127213322011-07-03T20:33:05.301+01:002011-07-03T20:33:05.301+01:00Tybed ydi Guto yn credu fod cyflogau mawr y ddinas...Tybed ydi Guto yn credu fod cyflogau mawr y ddinas a'r taliadau bonws yn anfoesol heb son am y rhyddhad treth mae rhai o'r bobl yma yn ei dderbyn sy'n eu galluogi i ymddeol yn ei 40au.

Dwi yn meddwl fod rhywun wedi nodi wythnos diwethaf fod athro yn debygol o gael pensiwn o £10,000 y flwyddyn ar ol gweithio 25 mlynedd tra bod aelod seneddol yn debygol o gael £23,000 ar ol gweithio 13 mlynedd. Gobeithio y bydd Guto yr un mor frwdfrydig dros ddiwygio ei gyfraniadau pensiwn ei hunan dyna fyddai'r peth moesol i'w wneudAnonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-76911752575006990202011-07-03T13:43:38.277+01:002011-07-03T13:43:38.277+01:00Trwy dy ymateb sarhaus at berson di-enw Guto, mae ...Trwy dy ymateb sarhaus at berson di-enw Guto, mae dy gymeriad yn dod drwodd yn glir iawn. Mae rhai rhesymau pendant iawn dros fod yn ddi-enw, ond nid yw hynny yn dweud nad oes gennym farn.

Ti'n gofyn o lle mae'r arian i fod i ddod? Os buasai Llywodraeth yn codi digon o dreth incwm buasai digon o arian ar gael. Ar ben hynny efallai y buasai'r wlad yn arbed llawer iawn o arian os buasai dy Brydain Fawr gogoneddus di yn sylweddoli nad ei lle hi yw ymyrryd ymhobman. Faint o arian sydd wedi ei wario ar fomio Libya hyd yn hyn?

Paid a trio rhoi gwers i neb ar foesoldeb Guto. 'Rwyt yn fethiant llwyr ar y pwncUn o Eryrihttps://www.blogger.com/profile/07827919211065568962noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-89316405611373699172011-07-03T11:19:22.335+01:002011-07-03T11:19:22.335+01:00Twt, twt Guto - mynd yn bersonol fel arfer. Fel ma...Twt, twt Guto - mynd yn bersonol fel arfer. Fel mae'n digwydd bydd effaith cynlluniau dy fets ar rhywun fy oed i yn llawer, llawer llai na'r effaith ar bobl ychydig flynyddoedd yn ieuengach - nid bod hynny fawr ddim i'w wneud efo pwynt blogiad sy'n dadlau bod unigolion a grwpiau yn y farchnad lafur yn tueddu i weithredu er mwyn eu buddiannau eu hunain.

'Dwi'n sylwi dy fod eto yn cymysgu rhwng dy farn dy hun, dy foesoldeb personol a ffaith. 'Dwyt ti fawr gwell yn hynny o beth na'r bobl hynny sy'n meddwl bod cyflogau pawb ond amdanyn nhw eu hunain yn anfoesol o uchel - pobl sy'n defnyddio'r term anfoesol mewn gwirionedd oherwydd nad ydynt yn deall sut mae'r farchnad lafur yn gweithio.Cai Larsenhttps://www.blogger.com/profile/15349645242691098245noreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-6894761589165863402011-07-03T00:08:09.756+01:002011-07-03T00:08:09.756+01:00Yr hyn sy'n anfoesol yw spin arferol Cai. Mae...Yr hyn sy'n anfoesol yw spin arferol Cai. Mae streic dros hawl i ddisgwyl bod trethdalwr sy'n debygol o ymddeol yn 68 i fod i dalu er mwyn i weithwyr sector gyhoeddus ymddeol yn 60 yn weithred anfoesol. Ffaith.

O ran y ddau gyfranwr dewr ond di-enw - lol. LLe mae'r arian Mr Un o Eryri? O ran Mr di-enw, ffeithiol anghywir (typical). does dim newid i'r hyn y mae dy gytundeb hyd yma wedi ei hawlio ond fe fydd newid i'r dyfodol. Wrth gwrs, fe fydd y trefniadau'n parhau yn well na dim oll sydd ar gael i staff nad ydynt o fewn y sector gyhoeddus.

Mae datblygiad yr undebau llafur i fod yn fudiad dros hawliau y dosbarth canol yn fater rhyfeddol a gwirion di gwadu anfoesoldeb dy safbwynt Cai. ond wrth gwrs, fel prifathro ti'n elwa'n go dda o'r drefn fel y mae'n bodoli yn dwyt?Guto Bebbnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-64460674168437310862011-07-01T20:54:02.045+01:002011-07-01T20:54:02.045+01:00Fel gweithiwr cyhoeddus gallaf (just abowt) weld p...Fel gweithiwr cyhoeddus gallaf (just abowt) weld pam bod yn rhaid derbyn rhewi cyflogau am 'chydig. Gellir dadlau hefyd bod amodau byw wedi gwella bywyd pensiynwyr ac y bod felly angen, pro rata, i bawb weithio 'chydig hwy cyn ymddeol.

Be sy'n anfoesol ydi bod cynllun pensiwn y mae rhywun wedi ei dalu iddo dros flynyddoedd, oedd yn addo rhywbeth ar y diwedd, bellach ddim am wneud hynny. Symud y postiau gol dri chwarter ffordd drwy'r gem sy'n anfoesol.Anonymousnoreply@blogger.comtag:blogger.com,1999:blog-8485235.post-26215210512895552992011-07-01T20:24:28.749+01:002011-07-01T20:24:28.749+01:00Yr hyn sydd yn anfoesol yw polisiau Guto Bebb a...Yr hyn sydd yn anfoesol yw polisiau Guto Bebb a'r Blaid Geidwadol. Faint o fobl sydd wedi gweithio yn galed ar yd eu bywydau, ac sydd sydd nawr yn gweld eu bywydau yn cael ei ddinistro gan y poisiau yma. Sawl teulu fydd yn cael ei chwalu o ganlyniad i'r polisiau Ceidwadol o doriadau sydd yn arwain i ddiffyg gwasanaethau a diffyg swyddi. Ni ddylsai Guto edrych ddim pellach na'r drych yn ei ystafell folchi i weld diffiniad clir iawn o anfoesoldebUn o Eryrihttps://www.blogger.com/profile/07827919211065568962noreply@blogger.com