Saturday, July 09, 2011

Ydi Charles mewn gwirionedd angen £2m y flwyddyn gan y trethdalwr?

Fel rydym wedi ei drafod eisoes llwyddodd Tywysog Cymru i gael £1,962,000 gan y trethdalwr y llynedd - cynnydd o 18% ar y flwyddyn flaenorol.  Mae, fodd bynnag, yn talu cryn dipyn mwy mewn trethi - £4,398,000.  Y rheswm am hyn ydi ei fod yn ennill incwm sylweddol o Ddugaeth Cernyw (stad, neu'n hytrach ymerodraeth busnes bach sy'n eiddo i fab hynaf y brenin neu'r frenhines) - cyfanswm o £17,796,000 y llynedd.  Mae asedau'r Ddugaeth werth mwy na £1bn yn ol pob tebyg.

Mae pwy bynnag sydd yn ei gynghori ar faterion treth yn hynod effeithiol, ac yn werth pob ceiniog o faint bynnag mae'n cael ei dalu - mae 22.25% o dreth ar incwm o bron i £20m yn hynod o effeithiol o ran Charles ac yn hynod aneffeithiol o ran y dyn treth.  Mae llawer iawn o bobl ar gyflogau cyffredin yn talu cyfran uwch o'u incwm mewn trethi.


Rwan dwi'n gwybod bod y cyfran o'i incwm mae Charles yn ei gael gan y trethdalwr i fod i dalu am ei ddyletswyddau cyhoeddus - ond mae'n anodd cyfiawnhau rhoi £2m i'r dyn yn yr amodau economaidd presenol.  'Dydi'r incwm mae'n ei dynnu o'i adnoddau personol ond yn 1.7% o'u gwerth ar y mwyaf - sy'n awgrymu y gallai godi mwy na digon i gyflawni ei ddyletswyddau trwy gymryd mymryn mwy o incwm o'i Ddugaeth.  Byddai tynnu 2% yn hytrach na 1,7% yn fwy na digon.  Wedi'r cwbl y prif reswm tros ei berchnogaeth o asedau personol anferthol ydi bod ei deulu wedi gallu eu hadeiladu dros genedlaethau heb orfod talu fawr ddim mewn trethi.

Ffigyrau i gyd o'r rhifyn cyfredol o Money Week.

No comments: