'Does yna fawr neb yn yr oes sydd ohoni yn cymryd diddordeb mewn ystadegau sy'n ymwneud a chrefydd plant ysgol - yng Nghymru o leiaf. Mae pethau'n wahanol yng Ngogledd Iwerddon oherwydd bod cysylltiad clos iawn rhwng cefndir crefyddol pobl a'u gwleidyddiaeth. Mae Pabyddion yn pleidleisio i bleidiau cenedlaetholgar tra bod Protestaniaid yn pleidleisio i rai unoliaethol.
Cafwyd patrwm ers y 70au cynnar o gynnydd graddol yn y bleidlais genedlaetholgar a chwymp cyfatebol yn y bleidlais unoliaethol. Mae yna ddamcaniaeth mai sylweddoliad bod demograffeg o'u plaid a arweiniodd yn y pen draw at gadoediad yr IRA a'r broses heddwch.
Ta waeth, fe dorrwyd ar y patrwm yna yn etholiadau Cynulliad Gogledd Iwerddon yn gynharach eleni pan gafwyd cwymp bychan yng nghanran y bleidlais genedlaetholgar. Mae rhai unoliaethwyr wedi gweld hyn fel arwydd bod y llanw demograffig ar droi. Mae edrych i lawr yr ysgol ddemograffaidd yn awgrymu nad ydynt yn gywir.
Dydi ystadegau'r adran addysg ddim cefnogi'r ddamcaniaeth honno fodd bynnag. Mae'r tabl isod yn dangos yr ystadegau crefyddol yn ysgolion cynradd y rhanbarth, ac mae'r patrwm yn un eithaf clir - cynnydd araf iawn yn y ganran o blant a ddiffinir fel Pabyddion, cynnydd cymharol gyflym yn y ganran na ddiffinir yn ol eu crefydd a chwymp gweddol gyflym yn y ganran Brotestanaidd. Hwyrach bod yna arwyddocad ychwanegol i slogan y chwe degau - make love not war - yng nghyd destun gwleidyddiaeth cenedlaetholgar yng Ngogledd Iwerddon.
Ffigyrau oll o wefan ystadegol Cynulliad Gogledd Iwerddon

Protestaniaid | Pabyddion | Eraill | Bwlch | |
2004 / 2005 | 40.23% | 49.44% | 9.88% | 9.21% |
2005 / 2006 | 40.22% | 49.65% | 9.95% | 9.43% |
2006 / 2007 | 38.90% | 50.17% | 10.89% | 11.27% |
2007 / 2008 | 38.12% | 50.46% | 11.41% | 12.34% |
2008 / 2009 | 37.25% | 50.64% | 12.10% | 13.39% |
2009 / 2010 | 36.92% | 50.46% | 12.61% | 13.54% |
2010 / 2011 | 36.36% | 50.64% | 12.98% | 14.28% |
Ffigyrau oll o wefan ystadegol Cynulliad Gogledd Iwerddon
2 comments:
Beth yw'r plant sydd heb eu diffinio o ran crefydd - o ddefnyddio'r hen jôc, ydyn nhw'n Aethists Protestanaidd neu Aethists Catholig?!
Am wn i fe ddaw rhyw 'tipping point' lle fydd y Protestaniaid yn derbyn meddylfryd 'minoritiesed' (â defnyddio term ar gyfer cymunedau ieithyddol). Hynny yw, nid yn unig eu bod nhw'n lleiafrif, neu ddim, ond eu bod yn ymddwyn fel lleiafrif. Yn hynny o beth bydd y gefnogaeth symbolaidd, diwylliannol a gwleidyddol a ddaw o Brydain a Phrydeindod yn bwysig iawn.
Yr hyn sy'n ddigalon am Ogledd Iwerddon, fel y tystia'r terfysgoedd diweddar, yw fod gan y drafodaeth rhwng Catholig a Phrotestant ddim oll i'w neud â chrefydd neu hyd yn oed wleidyddiaeth. Mae'n hollol ethnig. Digalon iawn.
Ia - marcar ethnig ydi crefydd yng Ngogledd Iwerddon.
Mae'r categori 'Arall' yn cwmpasu Cristnogion eraill, crefyddau eraill a phobl sydd ddim yn grefyddol neu ddim yn fodlon datgelu crefydd eu plant. Y categori hwnnw sydd wedi bod yn tyfu.
Post a Comment