Sunday, July 03, 2011

Y broblem efo moesoli a gwleidydda ar yr un pryd

Rydwyf wedi cyfeirio at le moesoldeb mewn gwleidyddiaeth eisoes yng nghyd destun beirniadaeth Guto Bebb o streiciau dydd Iau - beirniadaeth oedd yn beirniadu'r gweithredu ar sail moesol.  Mae Guto'n ymddangos ar dudalen sylwadau'r blogiad i wneud mwy o feirniadaethau sydd wedi eu seilio ar ei foesoldeb personol - mae fy 'nhroelli' fi yn anfoesol ac mae'r ffaith y bydd pobl yn ymddeol ar oedrannau gwahanol hefyd yn anfoesol.

Rwan, mae defnyddio moesoldeb personol wrth wleidydda yn weddol gyffredin - yn arbennig felly yng Nghymru.  Dadleuon moesol sy'n cael eu defnyddio yn aml  i wrthwynebu arfau niwclear, ymyraeth milwrol mewn gwledydd eraill, taliadau i fancwyr, treuliau i aelodau seneddol, cwmniau gwerthu tobaco ac alcohol ac ati.

Mae yna ddwy broblem yn codi o ddefnyddio moesoldeb wrth ddadlau'n wleidyddol.  Yn gyntaf 'dydan ni ddim yn byw yn Iran.  Mae'n diwylliant cyfoes ni yn cydnabod hawl pobl i ddiffinio eu moesoldeb eu hunain - hyd at bwynt o leiaf.  Yn ail, hyd yn oed pan mae yna egwyddorion cyffredinol ar foesoldeb y gallwn oll gytuno a nhw mae'r ffaith bod Byd yn gymhleth yn  ei gwneud yn anodd i'w defnyddio i ddibenion gwleidyddol.

Er enghraifft mae'r rhan fwyaf ohonom yn rhyw deimlo bod tegwch yn beth da o safbwynt moesol.  Dyma ydi sail beirniadaeth moesol Guto o'r streicwyr. 

Ar un adeg roedd llawer ar y Chwith gwleidyddol yn beirniadu'r gyfundrefn gyfalafol yn ei chyfanrwydd oherwydd ei bod yn 'anheg' yn yr ystyr ei bod yn creu gwahaniaethau mawr o ran cyfoeth personol pobl. 

Ateb  y Dde oedd bod y system yn creu cyfoeth, ac oni bai amdani byddai pawb yn dlotach - nid tegwch go iawn ydi sefyllfa lle mae pawb yn gyfartal, ond yn dlawd.  Mae'r gwahaniaeth rhwng tegwch a chyfartaledd yn cael ei dderbyn gan y rhan fwyaf  bellach, ac mae gwahaniaethau gwleidyddol ar faterion economaidd yn ymwneud ag i ba raddau y dylid ymyrryd yn y farchnad yn hytrach nag ynglyn a phriodoldeb y cysyniad o economi wedi ei seilio ar farchnadoedd.

Mae'r rhan fwyaf ohonom yn teimlo nad ydi lladd pobl yn foesol dderbyniol - ac mae llawer yn beirniadu cyrchoedd NATO (er enghraifft) ar sail hynny.  Ond mae hyd yn oed rhywun fel fi sy'n drwgdybio ymyrraeth milwrol o unrhyw fath yn derbyn nad ydi pob ymyrraeth fel ei gilydd. 

Oedd cyrchoedd NATO yn 1999 yn Kosovo a Serbia yn anfoesol? - wedi'r cwbl bu farw (yn ol rhai) hyd at 5,000 yn ystod y cyrchoedd hynny llawer ohonynt yn sifiliaid - tair mil llai na laddwyd yn Srebrenica gan filwyr Serbaidd bedair blynedd ynghynt.  Ond daeth y cyrchoedd a'r gwrthdaro yn yr ardal i ben - gwrthdaro oedd wedi arwain at farwolaeth degau o filoedd o bobl.  Mae'r cwestiwn yn un cymleth - a dydi brefu mae lladd pobl yn beth anfoesol ddim yn ymateb deallus.

Mae yna le i foesoldeb mewn gwleidyddiaeth wrth gwrs - mae barn wleidyddol y rhan fwyaf ohonom wedi ei seilio i ryw raddau ar ein moesoldeb personol - ac i ryw raddau ar ein rhagfarnau personol - a 'dydi'r ffin rhwng ein ymdeimlad o foesoldeb a'n rhagfarnau personol ddim pob amser yn gwbl glir. Yn y pen draw ffordd o gau trafodaeth ydi cyhuddo gwrthwynebwyr o anfoesoldeb - ffordd o osgoi dadl.  

Dyna pam bod ymateb i anghydfod diwydiannol mewn termau moesol yn gamgymeriad.  Mae ymateb i broblemau cymhleth trwy brism syml da / drwg yn gwneud i'r sawl sy'n rhesymu felly ymddangos fel un o'r bobl hynny sy'n 'sgwennu i bapurau newydd o lefydd fel Bognor Regis i wyntyllu eu daliadau moesol a'u rhagfarnau eu hunain. 

Erbyn meddwl ae yna rhyw dinc i Outraged of  St David's Road.

15 comments:

Alwyn ap Huw said...

Rwy'n methu'n lan a deall dy resymeg yn y post yma na'r post blaenorol, Cai. Sut yn union yr wyt am inni rannu ein barn wleidyddol a'n barn foesol?

Moesoldeb, ar ei fwyaf amrwd, yw'r gwahaniaeth rhwng drwg a da; rhwng ymddygiad derbyniol ac ymddygiad annerbyniol. Gwleidyddiaeth, ar ei fwyaf amrwd, yw'r system sy'n ymgorffori moesoldeb i system o reoleiddio cymdeithas trwy greu statudau sy'n pennu cosb am wyro o'r da i'r drwg ac am ymddwyn yn annerbyniol yn hytrach nag yn nerbyniol.

Does dim modd gwahanu moesoldeb a gwleidyddiaeth. Pob tro yr ydym yn ddweud mae'n gywilydd bod y fath beth yn cael ei ganiatáu – dyle bod yn erbyn y gyfraith ar unrhyw bwnc, yr ydym yn gwneud datganiad moesol a gwleidyddol.

Mae gosodiad Guto bod streic Dydd Iau wedi aflonyddu ar bobl sydd â hawliau pensiwn gwaeth na rhai'r streicwyr, a gan hynny yn anfoesol , yn un ddigon teg i'w drafod o fewn dadl foesol a dadl wleidyddol!

Mae dadl yr undebau bod hudo pobl i dalu i mewn i gynllun pensiwn sydd ddim am gadw at yr addewid a roddwyd i'r sawl a ymunodd a hi peth amser yn ôl yn anfoesol, yn safbwynt digon teg i'w drafod o fewn dadl foesol a dadl wleidyddol!

Pe bai dadl wleidyddol yn cael ei dadlau heb apêl at foes, mi fyddai'n ddadl ddiegwyddor, ac o'i hanfod yn anfoesol!. Mae galw ar Guto i beidio a mynegi ei safonau moesol personol yn ei wleidydda megis gofyn iddo fo (a phob gwleidydd o bob plaid arall) i fod yn fastard gwbl ddiegwyddor!

menaiblog said...

Mi wna i ei roid o mewn ffordd arall Alwyn, mae dweud - mae'r streicwyr yn bobl ddrwg - yn ffordd o gau yr ymgom wleidyddol arferol yn hytrach na'i hagor.

Os ydym yn priodoli barn pobl eraill i ddiffygion personol neu foesol ar eu rhan rydym yn dweud nad oes unrhyw werth i'w dadleuon - felly dydan ni ddim yn dadlau efo nhw, dim ond mynnu cael ein ffordd.

Alwyn ap Huw said...

Nac ydi. Trwy wneud y gosodiad bod y streicwyr yn bobl drwg mae Guto yn caniatáu inni drafod ei osodiad, i gytuno a fo neu i egluro paham ein bod yn credu bod y streicwyr yn bobl dda. Yr hyn sy'n cau'r drafodaeth yw dy honiad di bod dim pwrpas i drafod gosodiad Guto parthed y streicwyr gan fod ei osodiad yn un dibwys oherwydd ei selio ar gysyniad o'r hyn sy'n dda neu ddrwg. Mae Guto yn trafod y streic ond yr wyt ti yn troi'r ddadl i un sy'n trafod Guto.

Trwy ymdrin â gosodiad Guto bod y streic yn anfoesol gan ddweud nad oes gan y gwron hawl i foesoli yn ei gylch, yr wyt yn cryfhau ei ddadl. Yr wyt megis yn cytuno nad oes dadl foesol i gyflwyno o blaid y streic. Os nad oes gan Guto'r hawl i ddweud bod y streic yn beth drwg does gan yr Undebau mo'r hawl i ddweud ei fod yn beth da chwaith, ac os nad yw'r undebau yn gallu dweud bod streic yn foesol, cyfiawn a da ni ddylent gynnal streic.

menaiblog said...

Nonsens Alwyn.

'Dydi cwestiynau sy'n ymwneud efo trefniadaeth pensiynau, y berthynas rhwng y sector gyhoeddus a'r un breifat ac ati ddim yn rhai moesol.

Does yna ddim pwrpas trafod os ydi grwpiau oddi fewn i'r gweithlu yn 'ddrwg' neu beidio - byddai'n ymarferiad plentynaidd a gwirion - 'dydi o byth am dy gael di i'r unman.

Does yna neb yn dweud bod streicio yn beth da, na moesol. Rhywbeth mae'r sawl sy'n streicio yn ei ystyried yn anghenrheidiol ydi o.

Pendraw anymunol edrych ar wleidyddiaeth trwy brism da / drwg ydi gwleidyddiaeth simplistaidd a chynhenus fel un Llais Gwynedd.

Alwyn ap Huw said...

'Dydi cwestiynau sy'n ymwneud efo trefniadaeth pensiynau, y berthynas rhwng y sector gyhoeddus a'r un breifat ac ati ddim yn rhai moesol.

I mi mae'r ffordd mae'r wladwriaeth yn ymdrin a'i henoed yn cwestiwn moesol bwysig

Does yna neb yn dweud bod streicio yn beth da, na moesol. Rhywbeth mae'r sawl sy'n streicio yn ei ystyried yn angenrheidiol ydi o.

I mi mae hawl berson i atal ei lafur v hawl cyflogwr i fynnu teyrngarwch y cyflogai yn cwestiwn hynod foesol

Pendraw annymunol edrych ar wleidyddiaeth trwy brism da / drwg ydi gwleidyddiaeth simplistaidd a chynhennus fel un Llais Gwynedd.

Mae'r cyfan o fy nghredoau gwleidyddol i yn rhai egwyddorol, maent wedi eu selio ar yr hyn yr wyf yn credu sy'n deg, yn gyfiawn, yn gywir, yn dderbyniol ,yn dda ac yn amddiffynadwy yn ôl fy safonau moesol.

Pendraw peidio ag edrych ar wleidyddiaeth trwy brism da / drwg yw'r twll mae'r Balid yn cael ei hun ynddo o ddiffyg cysondeb rhwng y cynghorau y mae'n arwain a'r rhai y maen wrthblaid ynddynt.

Ysgol 3-16 yn warthus yn Nhregaron, yn cael ei wrthwynebu (gan gynnwys ar ran foes, gyda llaw) gan y Blaid ond ysgol 3-16 yn cael ei gymeradwyo gan y Blaid yn Nolgellau!

Be di polisi y Blaid parthed addysg?

Polisi egwyddorol moesol, neu un sy'n etholiadol manteisiol sy'n dibynnu ar gryfder y Blaid mewn wahanol parthau sy'n gwbl diegwyddor ac yn hollol anfoesol?

Yr wyt yn cydnabod mae cwrso'r bleidlais sy'n bwysig, twll din rhinwedd, achos, dadl a moes! Sori ond mae angen well Blaid ar Genedlaetholwyr Cymreig!

menaiblog said...

Mae'n debyg gen i bod yr ymarferiad uchod mewn hunan gyfiawnder a hunan bwysigrwydd yn sefydlu fy nadl yn well nag y gallwn ei wneud fy hun.

Yr hyn rwyt yn ei wneud mewn gwirionedd ydi cyfeirio at dy farn ar wahanol bynciau, galw'r farn honno yn foesoldeb, sicrhau pawb dy fod yn berson hynod foesol ac egwyddorol a mynd ati i ddefnyddio rhesymeg ysgol feithrin.

Rhesymeg felly ydi dadlau os ydi plaid yn cefnogi un cynllun ail strwythuro, mae'n rhaid iddi gefnogi pob cynllun, os ydi plaid yn cefnogi cau un ysgol mae'n rhaid iddi gefnogi cau'r cwbl neu fel arall - yn wahanol iawn i'r anhygoel foesol Alwyn ap Huw - mae ei haelodau'n ddiawled di egwyddor ac anfoesol.

Alwyn ap Huw said...

I fod yn fawrfrydig yr wyf yn fodlon dderbyn dy fod di wedi ennill y ddal ac yr wyt wedi profi, yn ddiamheuaeth, bod Plaid Cymru yn blaid heb foesau!

menaiblog said...

Alwyn - mae yna wahaniaeth rhwng moesoldeb a moesoli.

Os na fedri di wahaniaethu rhwng y naill a'r llall 'does yna fawr o bwrpas i'r drafodaeth yma

Alwyn ap Huw said...

Alwyn - mae yna wahaniaeth rhwng moesoldeb a moesoli.

Gwahaniaeth megis yr un rhwng bwyd a bwyta. Gwasarn yw bwyd heb ei fwyta, gwasarn yw rhinweddau moesol heb eu dilyn!

menaiblog said...

Mi fedar unrhyw ffwl fwyta, yn union fel y gall unrhyw ffwl foesoli.

Alwyn ap Huw said...

Ha! Ha! Doniol Iawn!

Fel arfer bydd yr un sy'n ddewis ymprydio yn gwneud hynny am resymau moesol.

Ffŵl yw'r un sy'n gwrthod bwyta heb achos moesol!

menaiblog said...

Neu mae'n meddwl bod ganddo achos moesol.

Yr ymprydiau angheuol diwethaf yn y DU oedd y rhai Gwyddelig ddeg mlynedd ar hugain yn ol bellach.

Er mai streic ynglyn a hawliau carcharorion oedd ar yr wyneb, streic ynglyn a statws ymgyrchoedd milwrol yr IRA a'r INLA oedd hi mewn gwirionedd.

Rwan, fel fi ti'n debygol o gofio goslef y cyfryngau torfol a'r sefydliad gwleidyddol Prydeinig ar y pryd. Roedd y streiciau newyn a'r ymgyrchoedd roeddynt yn eu cefnogi yn bethau hynod o anfoesol.

Ond os oeddyt ar strydoedd Gorllewin Belfast, Derry neu ym mhentrefi De Armagh roedd y streiciau yn faterion oedd a goblygiadau moesol pell gyrhaeddol iddynt. Pob tro roedd ymprydiwr yn marw roedd ton o drais yn sgubo tros y rhannau Pabyddol o Ogledd Iwerddon oherwydd hynny.

Roedd y ddau ymateb wedi eu seilio ar foesoldeb - ond roeddynt yn ymatebion cwbl gyferbyniol - yn cael eu gyrru gan wahaniaethau sylfaenol yn y ffordd roedd y ddwy ochr yn dehongli eu hanes. Felly roedd gen ti ymatebion moesol hollol wahanol i'r un digwyddiadau.

Mi fyddwn i'n cytuno efo dy sylw diweddaraf ar un lefel fodd bynnag. Dydi ymprydio i farwolaeth ddim yn beth hawdd - i ddweud y gwir mae'n beth uffernol o anodd. O ganlyniad ti'n gwneud datganiad moesol pwerus os ti'n gwneud hynny.

Ar y llaw arall mae dweud bod dy safbwynt yn un moesol yn fater hynod o hawdd, mae geiriau'n rhad iawn.

Guto Bebb said...

wel, wel.

dadl ddifyr ond ar sail cyfraniad hurt gan Cai yn y man cyntaf. Yr oll y bu i mi ddweud (ar y radio)oedd fod ymgyrch chwarelwyr y Penrhyn yn un foesol ond nid felly streic hunanol yr athrawon.

Pwynt syml - bwriad y chwarelwyr y Penrhyn oedd cael ctflog teg gan gyflogwr llawer mwy cyfaethog na nhw eu hunain.

Bwriad yr NUT ydi diolgelu telerau pensiwn llawer mwy hael na'r cyffredin trwy drethu unigolion sy'n mynd i dderbyn pensiwn llawer llai hael nag athrawon maes o law.

Os nad yw'r uchod yn fater o foesoldeb creiddiol yna mae'r hen Cai yn fwy cibddall na'r disgwyl.

(O ran diddordeb dwi'n gwneud yr ychydig sylwadau hyn wedi ychydig oriau yng Nghaernarfon yn gweld athrawon yn mwynhau diwedd tymor. Golwg dlawd iawn arnynt oll)

Alwyn ap Huw said...

Mae Guto wedi ail agor y drafodaeth i'w seiliau moesol gwreiddiol, ac wedi cynnig dadl foesol i gnoi cil a hi.

Rwy'n nyrs o ran cymhwyster proffesiynol, mi ddechreuais nyrsio ym 1982, a dechreuais dalu i mewn i bot pensiwn y nyrsiaid ar ddwthwn cyntaf fy nghyflogi, yn gwbl ddiniwed mi dalais fy nghyfran pensiwn (prin fod dewis gennyf i beidio talu) ar addewid o gael ymddeol yn 50 oed ar hanner fy nghyflog ar sail cyflog y flwyddyn cyn fy hanner canfed pen-blwydd!

Yr hyn na ddywedwyd wrthyf ym 1982 oedd mai gambl oedd y pensiwn a bod modd i lywodraeth torri'r addewid a roddwyd i mi ym 1982 deng mlynedd ar hugain yn ddiweddarach!

Os af ar streic y fory i fynnu'r hyn a addawyd imi gan lywodraeth Mrs Thatcher a ydwyf yn gwneud pwynt moesol neu'n ymddwyn yn hunanol?

Cwestiynau moesol pwysig yr wyt yn gwadu'r hawl i Guto a mi eu trafod ar sail "moesoli"!

menaiblog said...

Dydi'r amodu pensiwn ddim yn newid hyd 2015 Alwyn. Me'r newidiadau yn derbyn bod yr hyn sydd eisoes wedi ei dalu yn ddiogel. Mae'r hawl i streicio wedi ei hen sefydlu. Dydi ddl rhyngddot ti a Guto ddim m fod yn un foesol, ond gallwn fod yn siwr y bydd y ddu ohonoch yn honni bod moesoldeb rhywsut neu'i gilydd ar eich hochr.

O ran sylwadau am hen athrawon yn yfed ar ddiwedd blwyddyn gan Guto mae'n drist nodi bod hen arferion Toriaidd lleol yn parhau.

O ddarllen y wasg yn ystod streic y Penrhyn (a dwi wedi) roedd y ffaith bod rhai chwarelwyr yn diota yn 'brawf' eu bod yn cael eu talu gormod.

Yn wir o ddarllen yr un papurau yn ystod cyfnod y colera yng Nghaernarfon roedd yr un ddadl yn cael ei defnyddio - bai'r holl ddiod oedd o wrth gwrs - nid bai'r landlordiaid oedd yn stopio'r dref rhag chwyddo gyda'i phoblogaeth na'r awdurdodau lleol nad oedd am wario ar sustem garffosiaeth yng nghanol y dref.

Mae Guto yn gweld pensiynau hael yn y sector gyhoeddus yn 'ddrwg', mae eraill yn gweld cyflogau bancwyr / aelodau seneddol / peldroedwyr / gweithwyr BBC / y tywysog Charles ac ati ac ati yn 'ddrwg'. Mae rhai yn gweld pobl yn cymryd gormod o fudd daliadau yn beth drwg, mae eraill yn poeni am bobl sy'n twyllo er mwyn osgoi talu trethi. Mae rhai yn meddwl bod gormod o drethi yn ddrwg, mae rhai yn meddwl hynny am rhy 'chydig.

Mewn difri calon - gweiddi 'mae'r peth yn anfoesol' ydi'r ffordd orau i ddelio efo materion fel hyn?