Thursday, July 07, 2011

Ydi Aled Roberts yn dweud celwydd?

'Dwi'n eithaf siwr nad ydyw - wedi'r cwbl fel mae Vaughan yn nodi byddai goblygiadau hynny yn ddifrifol iawn, ac mi fyddai Aled, fel cyfreithiwr yn ymwybodol  o hynny.  Mae awgrym Vaughan bod gan y Comisiwn Etholiadol yng Nghymru pob cymhelliad tros gymylu'r dyfroedd ar yr ennyd - ahem - anodd yma yn ei fywyd corfforiaethol hefyd yn taro deuddeg.  Mae hefyd yn ffaith nad yw sustemau tracio defnyddwyr gwefannau yn gwbl ddibynadwy o bell ffordd.


Yn ffodus mater cymharol fach ydi o i Aled roi taw ar yr holl awgrymiadau.  Mae'n eithaf sicr bod ei gyfrifiadur yn tracio pob gwefan mae'n ymweld a hi, ac mae'n debygol iawn bod gan ei ddarparwr gwasanaeth rhyngrwyd gofnod o'r gwefannau hynny hefyd.  Pe byddai'n rhoi ei gyfrifiadur i arbenigwr annibynnol ei archwilio, neu'n rhoi caniatad i'w ddarparwr rhyngrwyd gyhoeddi ei fod wedi ymweld a gwefan y Comisiwn Etholiadol byddai'r stori yn farw gelain mewn awr. 

Mae'n dda o beth bod ambell i beth mewn bywyd yn eithaf syml.

5 comments:

Anonymous said...

Be os neith o ddim dangos beth sydd yn ei gyfrifiadur?

Dewi Harries said...

Hollol wirion yr holl beth. Pam dim cael ymgeiswyr llwyddianus i wneud beth sy angen ar ol ennill yn hytrach na cyn sefyll?

Cai Larsen said...

Be os neith o ddim dangos beth sydd yn ei gyfrifiadur?

Wnes i ddim meddwl am hynny.

BoiCymraeg said...

Cytuno รข Dewi. Os yw Aled *yn dweud celwydd er mwyn cael diwedd ar yr holl beth, yna phob lwc iddo.

Cai Larsen said...

Hmm - ond mi fyddai hynny'n anghyfreithlon yn yr achos yma wrth gwrs.