Friday, July 22, 2011

Is etholiad Glyder

Gan i mi fod allan o gysylltiad efo’r We am ychydig ddyddiau, doeddwn i ddim mewn sefyllfa i bostio ar lwyddiant Elin Walker Jones yn is etholiad Glyder neithiwr. Amddiffyn ward ar gyrion Bangor ar ran Plaid Cymru oedd Elin yn dilyn marwolaeth diweddar y Cynghorydd Dai Rees Jones. Er nad oedd canran Elin o'r bleidlais cyn uched ag un Dai, roedd ei pherfformiad yn un hynod glodwiw - roedd ganddi wrthwynebydd profiadol ac adnabyddus iawn yn lleol yn Doug Madge - dyn sydd wedi sefyll sawl gwaith yn yr ward.

Dyma’r trydydd is etholiad i’r Blaid ei ennill tros y misoedd diwethaf – llwyddwyd i gymryd sedd gan y Lib Dems yn Arllechwedd yn Nyffryn Ogwen fis diwethaf, a llwyddwyd i gymryd un gan Lais Gwynedd ym Mlaenau Ffestiniog ym mis Medi y llynedd..

Perfformiodd y Blaid yn gryf mewn dau is etholiad arall - un yn Ne Caernarfon  ym mis Hydref y llynedd gan gynyddu canran ei phleidlais, er i Endaf Cooke o Lais Gwynedd ennill y dydd ar yr achlysur hwnnw.  Roedd y llall yn Niffwys a Maenofferen pan gadwodd Richard Lloyd Jones sedd i Lais Gwynedd o drwch blewyn  yn dilyn ymddiswyddiad Gwilym Euros.  Mae yntau wedi ymddiswyddo bellach, a bydd is etholiad arall yno maes o law yn ol pob tebyg. 

Dyma’r trydydd is etholiad  yng Ngwynedd o'r bron i Lafur berfformio’n wael iawn ynddo, ac mae’n rhyfeddol cyn lleied o argraff mae ymgeiswyr annibynnol wedi ei wneud – ni lwyddwyd i gael ymgeisydd mewn pedwar is etholiad, ac yn y pumed (Seiont) daethant yn bedwerydd – er mai ymgeiswyr annibynnol sydd wedi dominyddu yn y ward honno yn hanesyddol.  Mae hyd yn oed y Toriaid wedi dod o hyd i dri ymgeisydd. 

Mae’r patrymau hyn, ynghyd a llwyddiant Alun Ffred yn erbyn y llif yn etholiadau’r Cynulliad eleni yn awgrymu bod pob rheswm gan y Blaid  i fod yn obeithiol wrth i etholiadau Cyngor Gwynedd ddynesu – ac yn arbennig felly yn rhannau trefol y sir.

Y canlyniad yn llawn oedd:

Elin Walker Jones (Plaid Cymru) - 207
Doug Madge (Lib Dem.) - 194
Jennie Lewis (Tori) - 65
Martyn Singleton (Llafur) - 60

No comments: