Tuesday, July 26, 2011

Mae hi'n mynd yn unig yma

'Dydi pethau ddim yn arbennig o llewyrchys ar flogio gwleidyddol cyfrwng Cymraeg.

Achlysurol iawn ydi blogio Vaughan bellach, mae Guto wedi ymddangos, darganfod manteision trydar a mynd, mae'r Hen Rech yn dal wrthi a felly Mabon - ond ddim yn aml iawn, mae Hogyn o Rachub yn awgrymu (unwaith eto) ei fod yn rhoi'r allweddell yn y to - bydd colli'r hanesion am ei deulu yn drasedi cenedlaethol, dydi Gwilym Euros na Dogfael ddim wrthi ers tro byd, blog pedwar blogiad oedd Blog y Blogiwr Cymraeg, pump yn llai na'r Ty Mawr o'r Tu Mewn, distaw fu Storiau'r Tir Du ers misoedd hefyd (er mai blog diwylliannol oedd hwnnw yn hytrach nag un gwleidyddol), ditto Y Prysgodyn a Maes Rhos Rhyfel, distaw fu Cynghorwyr (Plaid Cymru) Sir Gar ers talwm hefyd, mae Ia Tros Gymru wedi gwneud y joban, mi fydd Pendroni yn blogio yn y ddwy iaith.  .Mae gennym Blog Golwg wrth gwrs bydd Ifan yn part teimio ar ei flog ei hun weithiau, bu farw Blog Dylan cyn atgyfodi rhywbryd ar ol y Pasg ar ffurf Anffyddiaeth , bydd Blog Answyddogol yn dangos arwyddion o fywyd ambell waith, bydd Rhys yn blogio yn weddol aml ond crefydd ydi ei bethau fo, ac mae PlaidWrecsam yn blogio yn y Gymraeg weithiau, ac mae yna ambell i flogiwr cyfrwng Saesneg (Pleidwyr gan amlaf) arall sy'n blogio yn y Gymraeg o bryd i'w gilydd.  Ar yr ochr gadarnhaol mae Banw wrthi'n eithaf dygn.  Ydw i wedi anghofio rhywun?

Anialdir?  Dim cweit - ond ar y ffordd mi dyddwn yn tybio. 

12 comments:

Anonymous said...

mae un newydd ar y gweill gennyf, a'r oedi cyn cychwyn am fy mod i'n ceisio ffurfio llif erthyglau yn gyntaf. Yn y cyfamser, mae'r goraau o'r blogiau cymraaeg ( hwn) yn dal i fynd!

Cai Larsen said...

Caredig iawn.

Gair o gyngor - fyddwn i ddim yn disgwyl i gael stor o flogiadau - mae blogio'n gweithio'n well pan mae'r blogiwr yn ymateb yn fyrfyfyr i ddigwyddiadau.

Anonymous said...

Duwcs dwi wedi mynd i estyn y valium son am depression ys dywed y sais. Ond mae na bwynt dilys fan hyn, a'i diffyg newyddion neu straeon craidd yw'r broblem? Gyda'r refferendwm wedi mynd a dod a'r etholiadau rydym wedi cael cyfnod tawel iawn o lywodraeth a gwleidyddiaeth yma yng Nghymru.

Y peth pwysig i gofio yw ei fod e ond yn cymryd un digwyddiad sydd yn gallu sbarduno blogiwr/wyr newydd i fynd ati, ac hefyd i ail egino diddordeb pobl sydd eisoes yn blogio.

Mae'n ti di anghofio serch hynny, Y Cneifiwr - http://cneifiwr-emlyn.blogspot.com/ , Wedi dechrau yn Saesneg yn bennaf gydag ond un cofnod Cymraeg bob un a hyn ond bellach mae mwy a mwy o Gymraeg i'w weld yno. A Chymraeg coeth hefyd!.

Plaid Gwersyllt said...

Dydy blogiau gwleidyddol Cymraeg yn Saesneg ddim llawer iachach, dim ond Ramblings, Syniadau, Peter Black a ni.

Anonymous said...

"Dydy blogiau gwleidyddol Cymraeg yn Saesneg ddim llawer iachach, dim ond Ramblings, Syniadau, Peter Black a ni."

Jac o' the North?

Cai Larsen said...

Mi ro i'r Cneifiwr ar y blogroll

Anonymous said...

Mae Jack o the North gyda'r gorau mewn unrhyw iaith.

Dylan said...

O'm rhan i, dw i'n amau mai un o'r prif resymau i Flog Dylan farw yn gynnar y llynedd oedd oherwydd nad oedd yna thema greiddiol, felly wrth drio gwneud ychydig o bob dim doedd gan y blog ddim raison d'être mwy pwrpasol.

Mae gen i ddiddordeb anferth mewn sgeptigiaeth, anffydiaeth a hawliau sifil felly bwriad y blog newydd ydi magu mymryn mwy o ffocws ar thema benodol. Mae pobl eraill (fel ti) yn llawer craffach na fedra i fod wrth drafod gwleidyddiaeth, ond does dim lot o sôn am yr uchod yn y Gymraeg felly dyna fwlch dw i'n ceisio'i lenwi, am wn i. Ond wrth gwrs dw i wedi trafod gwleidyddiaeth a ballu hefyd ac mi fydda i'n parhau i wneud hynny os oes rhywbeth yn fy nghorddi ddigon.

Un peth arall am flogio ydi ei fod o'n cymryd dipyn go-lew o amser. Hwyrach mai jyst fi ydi hynny, yn sgwennu fel rhech. Ond dw i am ddal ati y tro yma.

Dw i wedi sylwi bod blogiau Cymraeg ar drai ac mae'n biti. Mae fforymau trafod fel maes-e wedi dioddef oherwydd blogiau, ond hwyrach bellach bod blogiau'n dioddef oherwydd Facebook ac ati. Mae hynny'n sicr yn destun gofid oherwydd mae Facebook yn gyfrwng trwsgl iawn ar gyfer trafod mewn unrhyw fanylder.

Dylan said...

Hefyd ti'n llygad dy le bod seilio cynnwys blog ar erthyglau haniaethol wedi'u paratoi o flaen amser - nad ydynt yn perthyn i unrhyw amser penodol - yn gynllun gwael. Dw i wedi ceisio eistedd lawr a chyfansoddi blogiadau o'r fath ond yn ddi-eithriad bydd fy sylw'n cael ei ddwyn gan rhyw ddigwyddiad yn y newyddion neu erthygl hurt a byddaf yn ymateb i hynny yn lle. Mae hynny'n llawer haws, a dw i'n tybio'n dipyn hwylusach i'w ddarllen hefyd.

dafydd.r said...

Peidiwch ag anghofio Borthlas fel blog Saesneg... Mae John Dixon yn blogio'n fwy rheolaidd nag erioed, fasa i'n dweud.

Nwdls said...

Mae Twitter wedi dwyn sylw nifer fawr o'r dosbarth gwleidyddol. Yn y bôn y clecs, y cecru a barn ar y newyddion diweddaraf oedd yn cadw blogiau i fynd, ac mae Twitter yn gwneud y tri yna'n well o lawer ac mewn ffordd llawer mwy addictice.

Mi faswn i'n dweud bod blogio yn gyffredinol yn Gymraeg mewn sefyllfa gryfach nac y bu ers rhai blynyddoedd gyda nifer eang o flogiau am bob math o bynciau.

Mae blogiau'n le pwysig ar gyfer trafodaeth ffurf-hir(ach) ar faterion y dydd ond eto dydy'r drafodaeth yn aml fyth cystal ag y caed ar faes-e.

Mae'r we (ac felly y we Gymraeg fach iawn) yn torri'n ddarnau manach a manach, felly efallai y dylid ceisio creu ymbarel ar gyfer rhai blogiau Cymraeg er mwyn ceisio uno'r drafodaeth ac efallai dod nol at ddyfnder yn y drafodaeth fel y bu gyda maes-e. Neu efallai taw yr unig beth sydd ei angen yw un gwefan sydd yn cyhoeddi barn, ar ffurf hir (tua 500 gair), yn Gymraeg, yn ddyddiol. Fase hwnna'n rhoi chwistrelliad mawr yn y drafodaeth dwi'n siwr.

Pethau Bychain said...

Wel, mae diwrnod Pethau Bychain 2011 ar y gweill (Hydref 21ain, 2011) ac y gobaith yw i gael bobl i afael mewn gwneud unrhyw beth ar y we, yn y Gymraeg.

Y llynedd roedd y diwrnod yn llwyddiant mawr gyda dros 29,076 o hits ar y wefan ar y diwrnod. Da chi'n meddwl y gallwn ni guro hyna y flwyddyn yma?

http://pethaubychain.com