Sunday, July 24, 2011

Llongyfarchiadau i Fwrdd yr Iaith _ _ _

_ _ _ am eu hail ymddangosiad ar y wefan Straight Statistics

Dinoethi gobyldigwc ystadegol ydi cenhadaeth y wefan.  Ymysg y canfyddiadau anisgwyl i'w cyhoeddi gan y Bwrdd yn dilyn holiadur diweddar a gomisiynwyd ganddo, mae yna fwy o lawer o rieni sy'n anfon eu plant i ysgolion Cymraeg yn defnyddio'r iaith  na sy'n gallu ei siarad.


Mae'r Bwrdd wedi gwneud gwaith pwysig tros y blynyddoedd wrth gwrs - ond 'dydi postio nonsens ystadegol ddim yn gwneud llawer i'w hygrededd mae gen i ofn.

5 comments:

Nic said...

Difyr, ond mae problem gyda o leia'r rhan cyntaf o'u dehongliad. Ymddiheuriadau am y Saesneg, ond dyma'r sylw dw i newydd adael ar dudalen Straight Stats:

Question 1 asked if the respondent was a Welsh speaker. To this, 65 per cent said no. The next question asked how often respondents used Welsh in everyday life – and 72 per cent said either every day, often or occasionally. So more people use Welsh than speak it.

No, more people use Welsh than define themselves as Welsh speakers, presuming you're presenting the questions as they appeared on the survey.

I teach Welsh to adults, and have found that adult learners are, on the whole, unwilling to define themselves as "Welsh speakers", even when you ask them the question in Welsh, and they answer in Welsh. When I asked a small group of quite advanced students, none of whom would dream of using English in the classroom, how they were going to respond to the questions about the Welsh language on the census return, only 1 or 2 out of 6 students were intending to tick the box that said they could speak Welsh.

There's obviously all sorts of problems with the way this data was gathered and the "results" presented, but that particular example isn't necessarily as self-contradictory as it appears.

Cai Larsen said...

Mae hynny'n ddigon gwir Nic - mae yna lawer o bobl sydd yn gallu siarad Cymraeg sydd ddim yn diffinio eu hunain fel siaradwyr Cymraeg.

Mae'n debyg y byddai cwestiwn megis 'Do you speak some Welsh?' yn creu atebion gwahanol.

Anonymous said...

Mae hefyd yn wir bod na hen bobl sydd er yn Gymry mamiaith yn ofni ticio eu bod yn Gymry Cymraeg rhag ofan i'r Llywodraeth ayyb anfon ffurflenni Cymraeg iddynt, ffol dwi'n gwybod ond gan nad ydynt wedi arfer maent yn ofni. Cofio'n ddiweddar Dad-cu yn dweud,

'Wi'n tico bo fi llu sharad Cwmrag, ond smoi'n mynd i gico bo fi llu sgrifennu a dyrllen Cwmrag, rhag ofan i nhw ala'r holl fforms na yn Cwmrag y north i fi'

Dyma'r genhedlaeth na manteisiodd ar addysg Cyfrwng Cymraeg ac felly mae gafael nhw ar Gymraeg proffesiynol yn wan iawn ac wedyn mae nhw hefyd yn hindro rhag dweud eu bod yn Gymry Cymraeg. Mae'r cyfrifiad yn fy marn i yn destun sal iawn i fesur siaradwyr iaith, dylem yng Nghymru gael cyfrifiad iaith bob 5 - 10 mlynedd ar wahân a dylent gofyn i ba raddau mae Cymry yn lloegr yn siarad Cymraeg, tybier bod dros 300 000 o siaradwyr Cymraeg yn byw yn Lloegr hefyd.

Anonymous said...

Dwi'n meddwl y dylem gael rhywbeth fel hyn yng Nghymru parthed defnydd o'r Gymraeg gan nifer o gyrff:

http://www.plainenglish.co.uk/

MH said...

Mae'n bodoli eisoes, Di-enw. Yma.