Monday, February 28, 2011

"Amaturiaid" yw Aelodau'r Cynulliad

Dyna'r rheswm mae cynghorwyr ac actifyddion Toriaidd Prestatyn yn ei roi i unrhyw un sy'n dod ar eu traws wrth iddynt rannu taflenni gwrth ddatganoli, tros bleidleisio Na ddydd Iau.

Mi fydd hyd yn oed y gwirionaf wedi rhyw sylwi mai San Steffan ac nid y Cynulliad oedd ddigon amaturaidd i'n cael ni mewn rhyfel anghyfreithlon a arweiniodd at 100,000+ o farwolaethau oherwydd WMDs dychmygol, mai San Steffan luchiodd £800bn o gyllid y wladwriaeth tuag at fanciau yr oeddynt hwy eu hunain wedi methu eu rheoleiddio yn briodol, ac mai aelodau seneddol y sefydliad hwnnw a dreuliodd y rhan fwyaf o 2009 mewn cywilydd a gwarth oherwydd eu bod yn cymryd mantais o system dreuliau chwedlonol o aneffeithiol oedd wedi ei greu ganddyn nhw eu hunain.

Ond a gadael hynny o'r neilltu am eiliad neu ddwy, onid ydi'n ddifyr deall beth ydi gwir farn Toriaid llawr gwlad am Nick Bourne, David Melding ac ati?

4 comments:

Anonymous said...

Fel un o Fôn, mae'n rhaid i mi fynegi syndod fod ymgeisydd Torïaidd ni, sef Mr Paul "The Anglesey Druid" Williams, yn cefnogi y gwersyll "Ia ar Mawrth y 3ydd" (the "Yes on the 3rd of March" Camp)

A ydy'r Torïaid yn anghtuno a'i gilydd?

Anonymous said...

Newydd grafu un neu ddau o ystadegau o Gyfrifiad 2001. Oes syndod?

Mae'r Cymry mewn lleiafrif ym Mhrestatyn a dwi'n siwr iawn bod nhw'n leiafrif ar y cyngor!

O holl wardiau Prestatyn, mae pob un efo llai na 50% o bobl wedi eu geni yng Nghymru. Mwyafrif poblogaeth Prestatyn yw pobl wedi eu geni yn Lloegr. Maen nhw'n gweld Cymru fel estyniad o Loegr - rhywle neis i ymddeol wrth y traeth. Mae ofn arnynt rhag ofn i Gymru mynnu ffordd Cymreig ei hun.

Poblogaeth Canran Cymry Canran Saeson
Prestatyn South West 3279 42.17749314 57.82250686
Prestatyn Central 3572 55.73908175 44.26091825
Prestatyn East 4319 49.71058115 50.28941885
Prestatyn Meliden 2178 53.90266299 46.09733701
Prestatyn North 5128 37.75351014 62.24648986

Cyfanswm 18476 46.71465685 53.28534315

Cai Larsen said...

Hmm, diolch. Mi fydd rhaid i mi gofio mynd am dro i Brestatyn rhyw dro.

Anonymous said...

Prestatyn....mmmmm....swinio'n le hyfryd.