Mi edrychais ar y ddadl refferendwm gyntaf ar Wales Today neithiwr - Len Gibbs oedd yn cynrychioli'r ochr Na ac Ali Yassine oedd yn siarad dros yr ymgyrch Ia. Roedd yna hefyd ddau driawd o bobl 'gyffredin' - y naill yn y gogledd a'r llall yn y de, gydag un person oedd am bleidleisio Ia, un oedd am ddweud Na ac un arall nad oedd yn rhy siwr ym mhob triawd.
Cawsom yr hyn y byddem wedi ei ddisgwyl o gyfeiriad y bobl Na. Roedd yna ddynas mewn oed o'r de efo'i gwr, oedd yn ol pob tebyg wedi cael stroc, nad oedd yn deall o ble byddai'r pres i'w chadw hi a'i gwr yn dod petai'r Cynulliad yn cael yr hawl i ddeddfu. Roedd wedi argyhoeddi ei hun rhywsut neu'i gilydd bod y Cynulliad wedi cau llawer o ysbytai, ac roedd wedi gwneud ei hun yn flin iawn am hynny. 'Doedd y ddynas Na o'r gogledd ddim eisiau gweld y Cynulliad yn deddfu oherwydd ei bod eisiau level playing field rhwng a de a'r gogledd.
Ac wedyn roedd gan Len pob math o resymau tros wrthwynebu - roedd o'r farn bod y Cynulliad yn fethiant llwyr, roedd yn weddol siwr mai pleidlais am annibyniaeth oedd hi go iawn - beth bynnag sydd ar y papur pleidleisio, ac roedd yna rhyw reswm nad oeddwn yn ei ddeall yn iawn oedd yn ymwneud a Chomiwnyddiaeth a Gogledd Corea.
Yn anffodus mae gennym fis o'r rwdlan, di ddeall, gorffwyll yma i gael ei drosglwyddo i'n hystafelloedd byw fwy neu lai yn ddyddiol.
5 comments:
Sut ddaru Ali wneud yn dy farn di? Tra fod yn deall y dacteg o gael 'gwynebau anwleidyddol' i gymryd rol arweinyddol dwi wedi bod yn dechrau pa mor effeithiol ydi hynny yn wyneb y llifeiriant o gachu sy'n dod o gyfeiriad Rachael, Len & Co. Falle bod angen hen ben gwleiyddol i ddelio hefo hyn?
Wel, 'dwi'n meddwl bod y dacteg o beidio a defnyddio llawer iawn ar wleidyddion yn un digon effeithiol - wedi'r cwbl gwleidyddion ydi prif darged yr ymgyrch Na.
Wedi dweud hynny - er i Ali wneud ei bwyntiau yn ddigon effeithiol - roedd rhai o'r pethau roedd Len yn ei ddweud yn ei wneud yn darged eithaf hawdd i'r daro. Byddai gwleidydd proffesiynol wedi cymryd mantais llawn o hynny.
Felly 'dwi ddim yn gwybod - bydd rhaid i ni weld sut mae pethau'n datblygu.
Ni welai i hyn ond mi welaid i Banner a Lewis yn mynd ben ben. Dwi'n meddwl fod Banner wedi ennill honna o drwch blewyn. Mae angen rhai mwy profiadol i ddadlau gyda nhwn. Mi glywais Gibbs ar Radio Wales hefyd. Roedd Walters dwi'n meddwl.....yn rhy neis. Ac yn ogystal, nid oedd Jason Mohammed yn ei atal rhag dweud pethau hollol anghywir. Mi wnes i gysulltu a'r rhaglen gan fod Gibbs wedi dweud fod pob gwleidydd eisiau mynd o'r bae i Lundain ee Cairns nodwyd ganddo. Ond nid yw hyn yn wir nag yw e! Pam na wnaeth neb ei gywiro?
Ti'n dweud y bydda'n ni'n clywed y rwdlan yma "yn cael ei drosglwyddo i'n hystafelloedd byw fwy neu lai yn ddyddiol" dros y mis nesa.
Wrth gwrs tydi sawl ardal o Gymru ddim hyd yn oed yn cael hynny o safbwynt radio. Dwi wedi bod i fynny ac i lawr yr A470 ac ar draws y Gogledd ar yr A55 yn ddiweddar ac wedi nodi fod signal Radio Cymru a Radio Wales yn diflanu yn llwyr mewn sawl ardal.
Pam fod Radio Cymru a Radio Wales yn diflanu tra bod Radio 1,2,3 a 4 a'r gorsafoedd masnachol yn glir fel cloch o Gaernarfon i Gaer a drwy Powys?
Roedd Radio Stoke hyd yn oed yn glir yn Sir y Fflint ond dim son am Radio Wales!
Problem yn fama ydi fod yr ymgyrch Na yn amlwg mwy effeithiol am gael neges negyddol allan nag ydi'r ymgyrch ia am gael neges bositif.
Does na ddim gwirionedd tu ol i'r hyn y credai yr hen ddynes o'r de, ond mae'r ymgyrch na wedi cael clwydda felna yn ei phen hi....a mi fydd hi rwan yn brysur yn lledeini hyn!
Dwi heb weld dadl eto pam fod angen fotio Ia
Dwi o blaid a mi fyddai yn siwr o fotio. Y sialens ydi cael digon o bobl allan i fotio ia....gyda chdyig yn debygol o fotio ag ymgyrch na negyddol, fydd pethau yn dyn ofnadwy
Post a Comment