Mae Vaughan yn awgrymu bod pob dim drosodd, ag eithrio'r cyfri a'r myllio, tra bod y wefan politicalbetting.com yn meddwl y bydd pethau'n nes o lawer na mae pobl yn meddwl - gyda phleidlais o 55% Ia, 45% Na. Mae gan y cyfeillion yn politicalbetting.com hanes o gael llawer mwy o bethau'n gywir nag ydynt yn ei gael yn anghywir. 'Does yna ddim son am bol piniwn ar y mater - hyd yn oed pol misol ITV / You Gov.
Y rhesymeg mae politicalbetting.com yn ei ddefnyddio tros honni y bydd pethau'n nes na mae llawer yn ei ddisgwyl ydi bod pobl - pan mae'n dod iddi - yn tueddu i fynd am y status quo mewn refferendwm. Mae yna wirionedd yn hyn, ac mae yna le i gredu bod elfennau mwy deallus yr ymgyrch Na (Rachel Banner a bod yn fanwl gywir) wedi deall hynny yn gynnar ac wedi ceisio sicrhau bod ffocws eu hymgyrch wedi ei gyfeirio yn erbyn y diffyg craffu o San Steffan yn hytrach nag yn erbyn y cysyniad o ddatganoli ei hun.
Serch hynny, mae'n ymddangos bod Rachel yn torri cwys digon unig bellach. Ymysodiad ar ddatganoli ei hun oedd perfformiad Bill Hughes ac Eric Howells ar Pawb a'i Farn y noson o'r blaen, ymysodiad felly ydi cenhadaeth gwefan Len Gibbs, ac er i Nigel Bull ar Dragon's Eye neithiwr lwyddo - jyst - i beidio a galw am ddiddymu'r Cynulliad, dyna beth oedd unig neges y cyfranwr arall o'r ochr Na, Anthony Tanner.
Mae'n hanfodol mewn unrhyw ymgyrch i lefarwyr ar ran yr ymgyrch honno gyflwyno neges gyson. Mae hynny hyd yn oed yn fwy gwir mewn ymgyrch sydd i bob pwrpas ond yn cael ei chynnal trwy'r cyfryngau torfol - ychydig iawn mae'r ochr Na yn ei wneud ar lawr gwlad.
'Does yna ddim neges gyson gann yr ymgyrch Na - mae negeseuon croes i'w gilydd yn cael eu cyflwyno yn aml ar union yr un pryd. Ceir apeli i boblbleidleisio tros gadw'r status quo tra ar yr un gwynt ag ymosodiad ar y status quo. Yn yr ystyr yna mae'r ymgyrch Na yn gyfangwbl dysfunctional, chwedl y Sais.
Dyna pam 'dwi'n tueddu i ogwyddo tuag at awgrym Vaughan y bydd buddugoliaeth yr ochr Ia yn un swmpus ddydd Iau nesaf. Mae'r ymgyrch Na ar chwal.
10 comments:
Dwi'n meddwl dy fod yn iawn ond paid diystyru cymaint yn haws yw hi mewn ffordd i'r ochr na.
Dydy'r diffyg cysondeb dadl ddim yn broblem yn eu hachos hwy achos mae 'mond angen gwneud dadl dros wneud dim byd sydd raid iddyn nhw. Rachel Banner yw'r mwyaf deallus o bell ffordd ond mae'r gwahanol negeseuon negatif yn gallu bod yr un mor cryf gan fod pleidlais yr ochr na i raddau helaeth yn bleidlais 'anti-politics'. Apel a chryfder y bleidlais anti-politics yw ei fod mor wrthgyferbyniol ac wrth-ddeallus ... mae bod yn 'ddeallus' yn golygu bod yn wleidyddol.
Pol ITV/yougov allan yn fuan iawn... ;-)
Faint o'r gloch, a lle??
Eironi'r refferendwm hwn ydi bod yr ochr IE wedi ennill y dadleuon deallusol o gryn bellter, ond does dim sicrwydd o gwbl y bydd y bleidlais yr wythnos nesaf yn adlewyrchu hynny yn anffodus.Dwi dal yn ofni y bydd yna bleidlais NA sylweddol ddydd Iau a hynny am ddau brif reswm. Yn y lle cyntaf, dyma gyfle cyntaf pleidleiswyr i fynegi barn am y llanast economaidd presennol ers yr etholiad cyffredinol, ac mae'r teimladau gwrth-wleidyddol cyffredinol yn gryfach rwan nag yr oeddan nhw bryd hynny hyd yn oed. Mae'r teimlad negydddol hwn yn ei dro yn porthi teimlad negyddol pellach, h.y y syniad lled-gyffredin bod y refferendwm hwn yn gyfle i bobl fynegi barn am berfformiad y Cynulliad ers 1999. Mae hwn yn ganfyddiad peryglus iawn i'r ochr IA yn fy marn i. Er gwaetha'r mesurau cadarnhaol a basiwyd, yn yr hinsawdd sydd ohoni, yr hyn y mae pobl yn dueddol o hoelio'u sylw arno yn anffodus ydi'r sylw cyson am fethiannau economaidd ac addysgol. O ystyried yr uchod, mae mhres i ar ganlyniad llawer agosach nag y mae sawl un yn tybio.
Dim syniad pa bryd caiff y canlyniadau eu cyhoeddi, ond mi lenwais holiadur YouGov ar y pwnc dydd Mawrth
lenwis i holiadur neithiwr - felly beryg na fydd dim byd am ddiwrnod neu ddau...
lenwis i holiadur neithiwr - felly beryg na fydd dim byd am ddiwrnod neu ddau...
ITV yn recordio dros y penwythnos ac yn darlledu nos lun. Siawns na fydd y data yn dechrau dod i'r fei erbyn nos Sul...
YPDET... Wel, wel. Aled GJ mi gei di stopio poeni rwan....
Pol ITV/YouGov allan yn fuan (erbyn dydd Llun fyswn i'n meddwl) - rwy'n gwybod am mod i wedi cymryd rhan ynddo fo ddoe!
Post a Comment