Tuesday, February 22, 2011
Louise i Lais Gwynedd
Felly ymddengys bod y sibrydion a ddaeth i sylw blogmenai yn gywir - mae stori yn y Daily Post mai Louise Hughes ydi ymgeisydd Llais Gwynedd ar gyfer Meirion Dwyfor.
Mae'n ddewis diddorol ar sawl cyfri. Ni chafodd Louise fawr o lwyddiant yn etholiadau San Steffan y llynedd, ac ni chafodd sefyll yn enw Llais Gwynedd, er iddi wneud cais i gael gwneud hynny. 'Dydi hi ddim yn glir pam nad oedd ei hymgeisyddiaeth yn dderbyniol i'w chyd aelodau y llynedd, ond yn dderbyniol eleni.
Mater arall wrth gwrs ydi'r un iaith. Mae Louise ymhell, bell o fod yn rhugl ei Chymraeg, ac mae Meirion Dwyfor yn etholaeth gyda tua dau draean o'i phoblogaeth yn siarad Cymraeg. Yn wir Arfon yn unig sydd a ffigyrau uwch.
'Rwan 'dydi hi ddim yn amhosibl i rhywun nad yw'n gallu siarad Cymraeg gael ei ethol mewn etholaeth lle mae'r rhan fwyaf o'r trigolion yn siarad yr iaith - meddylier am Mark Williams yng Ngheredigion er enghraifft, neu Keith Best yn Ynys Mon (er i hwnnw ddysgu'r iaith yn ystod ei gyfnod fel AS). Serch hynny nid oes gan Meirion na Dwyfor (roeddynt mewn etholaethau gwahanol hyd yn ddiweddar) unrhyw hanes o ddychwelyd Aelodau Seneddol na Chynulliad di Gymraeg ers i drwch y boblogaeth gael yr hawl i fwrw pleidlais yn negawdau cyntaf y ganrif ddiwethaf.
Yr unig eithriad posibl y gallaf feddwl amdano ydi 1945. Roedd Nefyn, Cricieth a Phwllheli yn rhan o etholaeth drefol Bwrdeisdrefi Caernarfon ar y pryd, ac fe etholwyd Tori o'r enw D.A Price-White. Roedd Lloyd George wedi cynrychioli'r etholaeth am ddegawdau cyn hynny wrth gwrs. 'Dwi ddim yn rhy siwr os oedd o'n siarad Cymraeg.
Oes yna rhywun yn gwybod?
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
11 comments:
Petai Seimon Glyn wedi'i ddewis dwi'n amau y gallai Llais Gwynedd fod wedi rhoi cnoc hegar i fwyafrif y Blaid yn y sedd. Yn reddfol, dwi'n teimlo y gallai dewis Louise Hughes fod yn fwy o ergyd i bleidlais y pleidiau eraill na Phlaid Cymru - yn arbennig yn Llyn dwi'n rhyw deimlo y byddai mwyafrif mawr y Cymry a bleidleisiodd i LlG yn 2008 yn tueddu at y Blaid yn 2011.
Wrth gwrs, mae rhywun yn dal i deimlo dros bobl yr etholaeth o wybod mai Dafydd Êl a fydd yn eu cynrychioli unwaith yn rhagor!
Yn is etholiad Seiont, does yna ddim amheuaeth mai 'dwyn' pleidleisiau'r pleidiau Prydeinig wnaeth LlG.
Roedd David Archibald Price White yn Gymro Cymraeg; fel ei rhagflaenydd twrnai cefn gwlad oedd Price-White. Rhodres oedd ei enw dwbl - eto'r un fath a'i rhagflaenydd.
Ers i Feirion cael cynrychiolydd yn Sansteffan ym 1536 y mae wedi ei gynrychioli yn ddi-dor gan Gymro Cymraeg; roedd hyd yn oed y tirfeddianwyr bonheddig a oedd yn cynrychioli'r etholaeth yn siarad yr iaith.
Diolch Alwyn - ti'n goblyn o un da am lenwi'r tyllau (go fawr ar brydiau) yn fy ngwybodaeth.
Fe ddwedodd rhywun (falle Vaughan?) stori am Lloyd George Phrif Weinidog Awstralia ar y pryd - Billy Hughes - yn siarad Cymraeg o amgylch y bwrdd trafod rhyngwladol yn Versailles ym 1919.
Roedd Billy Hughes yn enedigol o Lundain a'i rieni'n Gymry.
Cwynai rhai eu bod nhw'n trafod yn gyfrinachol mewn iaith gudd, ond mae'n debyg mai dim ond troi i'r Gymraeg i regi ar ei gilydd oedden nhw!
Iwan Rhys
Ydi Louise Hughes yn awyddus i gynrychioli pobl Dwyfor Meirionnydd mewn Cynulliad fydd gyda'r hawl i ddeddfu heb orfod gofyn am ganiatad gan San Steffan? I think we shwd be told....
Pwy a wyr?
Mae LlG yn rhyfeddol o ddistaw ar y mater yma.
Mae defnyddio'r talfyriad LlG mewn edefyn sy'n cyfeirio at y cyn Brif Weinidog a chynghorydd Llangelynin yn peri dryswch !
Ydy'r talfyriad LlG yn cyfeirio at Louise Lloyd George neu at Dai Llais Gwynedd?
Byddwn i'n mentro dweud na fydd pob un o gyd-gynghorwyr ei phlaid yn pleidleisio iddi, sy'n dangos yn glir diffyg sail wleidyddol gytun Llais Gwynedd.
Alwyn - beth am alw Lloyd George yn DLlG a Llais Gwynedd yn LlG?
'Dwi ddim yn gwybod a dweud y gwir HOR - nhw sydd wedi ei dewis hi. Efallai bod ymuno a LlG wedi arwain at daith wleidyddol go faith i ambell un.
Onid un o Llandudno oedd Billy Hughes ?.
Am ddewis o ymgeiswyr.
Ffwl gwrth-genedlaetholgar o blaid llugoer am y Gymraeg ar y naill law,
a Louise Hughes ar y llall.
Post a Comment