Monday, February 28, 2011

Y pleidiau Gwyddelig

Mi gefais gais diweddar i egluro’r gwahaniaeth rhwng y gwahanol bleidiau Gwyddelig. Wna i ddim gwneud hynny yn llawn – gellir darllen hanes Fianna Fail, Fine Gael, Y Blaid Lafur a Sinn Fein ar y We. Mi wna i fodd bynnag dynnu sylw at rai o’r gwahaniaethau rhwng cyfundrefn wleidyddol Iwerddon a’n cyfundrefn ni.

Y peth cyntaf i’w ddeall ydi hyn – mae pob un o’r pleidiau Gwyddelig mawr neu ganolig diweddar (mae mwy o bleidiau yn cael eu geni a marw nag a geir o dan ein cyfundrefn ni) a’u gwreiddiau mewn parafilwriaeth. Mae Sinn Fein, Fine Gael a Fianna Fail yn perthyn i’w gilydd i’r graddau eu bod oll yn deillio o’r Sinn Fein a holltodd gyntaf yn 1923 a sydd wedi hollti sawl gwaith oddi ar hynny. Mae gwreiddiau Llafur ychydig yn wahanol – mae eu gwreiddiau nhw yn Irish Citizens Army, James Connolly – er eu bod wedi uno efo plaid arall – y Democratic Left – yn 1999 oedd wedi hollti oddi wrth Sinn Fein yn 1970. Ia dwi’n gwybod - does yna ddim byd yn syml mewn gwleidyddiaeth Gwyddelig.


Y ddwy brif blaid – hyd etholiad eleni o leiaf – ydi Fine Gael a Fianna Fail. Maen nhw wedi dominyddu gwleidyddiaeth Iwerddon ers blynyddoedd cynnar y wladwriaeth. Fianna Fail a dyfodd allan o’r elfennau nad oedd am arwyddo cytundeb efo Prydain yn 1923 yn dilyn y rhyfel Eingl Wyddelig, Fine Gael a dyfodd o’r elfennau oedd yn fodlon gwneud hynny. Mae gwahaniaeth yn natur cefnogaeth y ddwy blaid – mae cefnogwyr FF yn tueddu i fod yn dlotach a mwy cenedlaetholgar na rhai FG. Mae’r ychydig Brotestaniaid sy’n weddill yn y Weriniaeth yn tueddu i gefnogi FG ynghyd a phobl broffesiynol, ffermwyr cyfoethog a phobl eraill sy’n ystyried eu hunain yn barchus.

Er bod y Blaid Lafur yn ymddangos ar yr olwg gyntaf yn un adain Chwith – plaid y canol fyddai hi mewn termau Prydeinig, cefnogaeth drefol sydd iddi’n bennaf, ond mae lwmp go lew o’r gefnogaeth honno yn un dosbarth canol. Bu llawer, llawer mwy o bobl dosbarth gweithiol yn driw i FF, hyd yr etholiad yma. Mae Llafur yn dennu pobl sydd yn genedlaetholgar yn ogystal a rhai ol genedlaetholgar.

Mae Sinn Fein yn fwy adain Chwith na’r pleidiau eraill, ac mae’n fwy di gyfaddawd o ran ei chenedlaetholdeb. Mae ei chefnogaeth i gyd bron yn un dosbarth gweithiol - yn y Weriniaeth o leiaf, mae pethau’n fwy cymhleth yn y Gogledd.

Mae’r ddwy blaid fwyaf yn gyffredinol adain Dde o ran polisiau economaidd a chymdeithasol – gyda FF yn bellach i’r Dde ar faterion cymdeithasol, a FG yn bellach i’r Dde ar faterion economaidd. Serch hynny mae FF yn fwy hyblyg o ran polisi economaidd – a bydd weithiau’n symud i’r Chwith pan fo rhaid. Bydd FG hithau yn symud i’r Chwith ar faterion cymdeithasol pan maent yn ffurfio clymblaid gyda phlaid sydd i’r Chwith iddynt.

Felly yn gyffredinol dwy blaid adain Dde sydd wedi bod ar ddwy ochr y prif hollt ers blynyddoedd cynnar y wladwriaeth. Mae’r Rhyfel Cartref wedi taflu ei gysgod tros wleidyddiaeth am ddegawdau maith wedi iddo orffen. O ganlyniad i hyn nid ydi newid llywodraeth yn arwain at newid cyfeiriad gwleidyddol yn amlach na pheidio. Mae’r model yma yn edrych yn rhyfedd i ni, ac mae’n un anarferol – ond felly mae pethau – neu felly oeddynt hyd echdoe o leiaf.

Y cwestiwn diddorol ydi os ydi’r model anarferol yma ar fin newid a throi’n fwy nodweddiadol o weddill Ewrop? Mae’r Chwith yn gryfach ar hyn o bryd nag yw wedi bod o’r blaen, gydag efallai 14 neu 15 aelod SF (maen nhw’n dal i gyfri), ac efallai 8 o’r aelodau annibynnol ar y Chwith. Mi edrychwn ar yr ateb posibl i’r cwestiwn hwn mewn blogiad arall.

2 comments:

Plaid Gwersyllt said...

Blydi 'el ti wedi bod yn brysur ond blog hynod ddiddorol ond mae na fwy na 8 i'r chwith. Mae na 4 o'r SP a PBP, heb son am fwyafrif or 13 arall annibynnol. Tyned lle mae Michael Healy Reay yn sefyll ar y spectrwm gwleidyddol?

menaiblog said...

Wel, yn amlwg dydi Healy Ray ddim ar y chwith, na Shane Ross, Noel Grealish, Stephen Donnelly, Michael Lowry, Tom Fleming na Mattie McGrath chwaith. Dwi ddim yn siwr sut i gategoeiddio Luke "Ming Flanagan"

'Dwi'n meddwl bod y gweddill ar y Chwith - er bod cryn wahaniaeth rhwng y Blaid Sosialaidd sy'n wrth genedlaetholgar a Pringle, sy'n fwy 'Gwyrdd' na nifer o'r Shinners.