Wednesday, February 23, 2011
Peter Hain yn dychweld at ei wreiddiau?
'Dwi'n gwybod fy mod yn hwyr ar hon, ond mae honiadau Peter Hain tros y penwythnos bod Plaid Cymru yn 'wrth Seisnig' yn ddiddorol. 'Doedd Peter ddim yn darparu unrhyw dystiolaeth i gefnogi ei honiadau ymfflamychol wrth gwrs, a'r rheswm am hynny ydi nad oes yna unrhyw dystiolaeth yn bodoli - ag eithrio ym mhen Peter. Mae naratif gwleidyddol y Blaid (fel un yr SNP) wedi ei nodweddu gan dueddiad i bwysleisio mai mater i ni ein hunain ydi gwella ein sefyllfa economaidd a chyfansoddiadol, ac mai'r ffordd i wneud hynny ydi trwy rymuso ein sefydliadau cenedlaethol, ac yn arbennig felly y Cynulliad Cenedlaethol.
Yn wir o gyfeiriad Llafur Cymru yn gyffredinol a Peter yn benodol y daw'r naratif o feio gwrth Gymreigrwydd o gyfeiriad San Steffan am pob dim. O gyfeiriad Peter fel y gwelir yma yn y jambori tros y penwythnos er enghraifft; ac mae rhai o'i aelodau seneddol wedi dechrau dilyn ei esiampl - Kevin Brennan yma er enghraifft.
Rwan cyn mynd ymlaen 'dwi'n llawn gydnabod bod gan Peter record glodwiw o wrthwynebu cyfundrefn aparteid ei wlad enedigol. Ond wedi dweud hynny, mae tueddiad Peter i ethnigeiddio ymgom wleidyddol yn nodweddiadol o'r diwylliant gwleidyddol y byddai wedi tyfu i fyny ynddo. Ymgais i dynnu'r rhesymeg allan o wleidyddiaeth ac i annog pobl i ymateb i sefyllfa wleidyddol ar lefel reddfol, emosiynol ac efallai hysteraidd, yn hytrach nag ar lefel ddealluso,l ydi'r dechneg yma wrth gwrs.
Dyna pam roedd PW Botha yn defnyddio rhethreg ethnig, dyna pam roedd Enoch Powell yn defnyddio'r rhethreg a ddefnyddiodd yn ei araith Rivers of Blood, dyna pam roedd Ian Paisley yn tueddu i ddefnyddio rhethreg secteraidd ar drothwy etholiadau, dyna pam bod Ramesh Patel yn ethnigeiddio'r ddadl ail strwythuro ysgolion yng Nghaerdydd, ac ennyn ymateb emosiynol i rethreg ethnig a secteraidd ydi craidd gwleidyddiaeth Nick Griffin.
Efallai ei bod yn bryd i Peter adael ei gefndir ar ol unwaith ac am byth, a dechrau gwerthfawrogi bod ymgom gwleidyddol ei wlad fabwysiedig yn fwy ystyrlon a rhesymol a llai ymfflamychol nag oedd yn ei wlad frodorol - ac mai dim ond yr elfennau mwyaf eithafol a hysteraidd sy'n teimlo'r angen i ethnigeiddio gwleidyddiaeth yma.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
1 comment:
Goοd post. I learn something new anԁ
сhallenging οn ѕіtes I
stumbleuрon every dаy. It's always useful to read articles from other authors and practice a little something from other web sites.
Visit my blog :: www.prweb.com/releases/silkn/sensepilreview/prweb10193901.htm
Post a Comment