Gan fy mod wedi son am yr etholiad yma yr wythnos diwethaf, efallai y byddai'n well i mi ddweud gair neu ddau rwan mae'r sioe yn tynnu tua'i therfyn.
Bu'r etholiad yn un rhyfeddol ar sawl cyfri, gyda thair o'r pleidiau Sinn Fein, Fine Gael, a Llafur yn cael mwy o bleidleisiau a seddi na maent wedi ei gael erioed, a phrif blaid y Weriniaeth - Fianna Fail yn cael llai na chawsant erioed.
Y sefyllfa ar hyn o bryd ydi FG 59, Llafur 32, FF 14, Annibynnol 11, SF 13, Plaid Sosialaidd 2, PBP 1. 'Dydi'r cyfri heb orffen - gellir gweld manylion llawn ar safle wych RTE. Mae'n debyg mai clymblaid FG / Llafur fydd y llywodraeth nesaf, er nad ydi hynny yn 100% sicr ar hyn o bryd. Gallwch ddilyn pethau ar wefan etholiadol wych RTE.
Mae'r canlyniadau yn rhyfeddol ar sawl cyfri - mae Fine Gael wedi rhoi eu hunain ar y blaen ar hyd a lled y wlad - gan berfformio'n gryf mewn ardaloedd sydd wedi bod yn draddodiadol wan iddynt, megis etholaethau dosbarth gweithiol Dulyn. Tair sedd yn unig oedd iddynt yn Nulyn yn 2002 - maent wedi perfformio'n dda y tro hwn - ac wedi gwneud hynny yn rhai o'r etholaethau tlotaf yn ogystal a'r rhai cyfoethog. Maen nhw wedi cymryd lle FF fel yr unig blaid gwlad eang.
Bu'r etholiad yn drychineb llwyr i FF - un sedd yn unig yn Nulyn, rhannau sylweddol o'r wlad heb gynrychiolaeth o gwbl, cadarnleoedd gwledig traddodiadol wedi eu chwalu. Am y tro cyntaf erioed mae'r gyfundrefn etholiadol STV wedi milwrio yn eu herbyn - yn draddodiadol buont yn hynod effeithiol am wneud y mwyaf o'r drefn - a gallant gael cyn lleied ag 20 sedd erbyn y diwedd.
Bydd Llafur yn hapus iawn o ddyblu eu pleidlais, dod yn ail am y tro cyntaf erioed, gwneud yn arbennig o dda yn Nulyn a chael cynrychiolaeth mewn ardaloedd lle nad ydynt yn gwneud fawr o argraff gan amlaf. Yr unig siom iddyn nhw ydi bod y polau piniwn rai misoedd yn ol yn awgrymu y gallant wneud hyd yn oed yn well.
Bydd Sinn Fein yn hapus iawn hefyd o fwy na threblu eu haelodaeth yn y Dail, ac ennill seddi ymhell o'u hardaloedd cryf traddodiadol o gwmpas y ffin ac mewn ambell i ardal dosbarth gweithiol yn Nulyn.
Y nodwedd arall ydi'r nifer uchel o aelodau annibynnol i gael eu hethol. Mae'r rhain o pob math o gefndiroedd gwahanol, gyda rhai ar y Chwith eithafol, rhai ar y Dde a rhai ddim efo fawr o ddiddordeb mewn dim ag eithrio eu hetholaethau a nhw eu hunain. Fodd bynnag - o'r Chwith y daw'r rhan fwyaf y tro hwn.
Fel y dywedais, Llafur a Fine Gael fydd yn llywodraethu yn ol pob tebyg, ac mi fyddant yn gwneud hynny gyda pholisiau ceidwadol iawn. Er mai plaid geidwadol arall (FF) fydd yr wrthblaid fwyaf, mae'n debyg y bydd mwy o TDs o'r Chwith ar feinciau'r wrthblaid - a bydd ymgom wleidyddol De / Chwith yn y Dail am y tro cyntaf. Gallai hynny newid natur gwleidyddiaeth y wlad unwaith ac am byth.
13 comments:
Tybed oes gen ti esboniad byr am gymeriad/hanes y pleidiau gwleidyddol yn Iwerddon? Mi fasai'n braf gwybod am beth yn union mae nhw'n sefyll. Mae gen i syniad dy fod ti wedi gwneud hyn eisioes on 'mod i methu dod o hyd iddo.
'Dwi'n meddwl fy mod i wedi son am y peth - ond heb egluro'n fanwl. Mae'r stori yn un hir - mi geisiaf baratoi blogiad byr ar y mater pan ga i ddau funud.
FF plaid De Valera a gwrthwynebwyr y cytundeb a aeth ag Iwerddon i ryfel cartref.
FG plaid cefnogwyr y cytundeb ag enillwyr y Rhyfel Cartref, plaid cefnogwyr Michael Collins. Dwy blaid centre right!!
Falch i weld FF yn cael stwffad. Plaid di-egwyddor llawn rhethreg cenedlaetholaidd ond heb edrych ar ol y wlad na nodweddion gorau cenedlaetholdeb.
Nawr fod Sinn Fein wedi rhoi'r gorau i arfau, dwi'n gobeithio y gwnawn nhw'n dda. Nhw sydd edrych gryfaf yn erbyn y banciau a thros yr iaith Wyddeleg.
http://www.youtube.com/watch?v=iLFsH6zfzzo
Boi Bach
Mae na farc cwestiwn mawr os ydy polisi economaidd Sinn Fein yn stacio fyny! On ar wahan i hynny plaid chwith genedlaetholgar ac yn gefnogol dros ben i'r iaith Wyddeleg.
Sinn Fein yn pigo fyny mwy o transfers yn Laois Offaly na FF, edrych yn debyg fel fydd SF yn codi sedd arall yma, pleidlais FF yn dal fyny yn hynod dda (25%)gan fod hon yn etholaeth y Taiosiach Brian Cowen a bod ei frawd o'n sefyll.
22 o seddau i fynd.
People Before Profits wedi cael dwy sedd, curo Mary Hanafin Gweinidog FF o drwch blewyn yn Dun Laoghaire!
Sinn Fein yn ennill seddau yn y llefydd rhyfedda! Tebyg o ennill sedd yn Wicklow o bob man!
Fyddwn i ddim yn betio gormod ar SF yn ennill sedd yn Wicklow - mae'n haws i ymgeiswyr annibynnol ennill trosglwyddiadau, er eu bod yn eithaf sicr o sedd yn Laois Offaly. Son am ail gyfri yn y ddwy serch hynny.
Ti di gweld fod y De Kerry dynasty yn dal i fynd yn ei blaen, Michael Healy Reay wedi cael sedd ei dad Jackie. Dwi ddim yn meddwl geith Michael yr un hwyl o gael consesiynau i Dde Kerry gan FG a gafodd ei dad o gan FF!
Na, fydd yna ddim mwy o bontydd i dde Kerry am dipyn.
Wrth wrando ar rai o'r canlyniadau yn cael eu cyhoeddi neithiwr yr oeddwn yn synnu at y nifer o bleidleisiau cafodd eu gwrthod fel rhai annilys, rhwng 600 a 1500 ym mhob etholaeth; ydy hyn yn arferol yn etholiadau'r wlad neu a oedd yna reswm unigryw y tro hwn (ymgyrch i sgwennu stwffia nhw i gyd ar y papurau er enghraifft)?
Mae gen ti pob amser gyfran go lew o bapurau wedi eu difetha - efallai bod cymhlethdod y system a maint y papur yn cyfrannu at hynny.
Dwi ddim yn amau bod mwy nag arfer y tro hwn - roedd yna ddiflastod tuag at wleidyddiaeth yn gyffredinol yn sgil yr argyfwng ariannol.
Alwyn - gweler http://www.politics.ie/political-humour/154341-best-attempt-spoiling-ballot-papers.html
Post a Comment