Friday, February 18, 2011

Addasu etholaethau San Steffan

Mae cryn dipyn o swnian wedi codi yng Nghymru yn sgil pasio'r mesur i ganiatau refferendwm ar gyfundrefn bleidleisio newydd a lleihau'r nifer o aelodau seneddol Prydeinig o tua 650 i tua 600. Y rheswm bod y mater yn arbennig o gynhenus yng Nghymru ydi y bydd cwymp sylweddol - mwy o gwymp nag yn unman arall - yn y nifer o aelodau seneddol a geir yng Nghymru - o 40 i 30, neu lai hyd yn oed. Y rheswm am hyn yn ei dro ydi bod Cymru wedi ei gor gynrychioli yn San Steffan yn sylweddol o gymharu a gweddill y DU ar hyn o bryd.

Mae'n wir wrth gwrs y bydd yr etholaethau newydd yn rhai hynod o anhylaw a rhyfedd o gymharu a'r rhai presennol. Er enghraifft mae'n debygol y bydd Ynys Mon yn ymuno efo naill ai Bangor a Chaernarfon, neu Bangor, Dyffryn Ogwen a dwyrain Gwyrfai wledig. Gellid yn hawdd gael etholaeth yn ymestyn o Fethesda i Aberdaron i Lanbrynmair, yn ogystal ag etholaeth arall gwirioneddol anferth yn y Canolbarth. Yn y De gallai rhai o gymoedd y De gael eu hollti'n ddau a'u cyfuno efo cymoedd eraill, a gellid cyfuno rhannau o Abertawe a Chasnewydd efo ardaloedd cymharol wledig cyfagos.

Mae'n hawdd deall pam bod y gostyngiad arfaethiedig yn nifer aelodau seneddol yn broblem i Lafur - nhw fydd yn colli'r mwyaf o seddi (er mi fydd y Toriaid yn dioddef hefyd). Ond 'dydi o ddim mor eglur i mi pam bod y Blaid yn poeni am y peth. Cyn belled a bod yr etholaethau Cynulliad yn aros fel ag y maent, bydd y newidiad yn etholaethau San Steffan yn un cadarnhaol o safbwynt amcanion hir dymor y Mudiad Cenedlaethol. Os bydd pobl yn ei chael yn haws i uniaethu efo'u etholaethau Cynulliad nag efo'r rhai San Steffan, yna byddant yn uniaethu'n haws efo'r Cynulliad nag efo San Steffan. Mae newid ffocws gwleidyddiaeth o Lundain i Gaerdydd yn greiddiol i'r broses o adeiladu Cynulliad gwirioneddol bwerus. Bydd y newid hwn yn gam bras i'r cyfeiriad cywir.

1 comment:

A Pearce said...

Cytuno 100%. Gobeithio hefyd fe fydd hyn yn ddadl dros gael mwy o ACau.