Mi fydd unrhyw un sy'n darllen y papurau yn ymwybodol bod David Cameron ar daith o gwmpas y Dwyrain Canol yn cadw cwmni i fasnachwyr arfau yn ceisio gwerthu eu cynnyrch i lywodraethau'r gwledydd hynny. Wna i ddim trafferthu tynnu gormod o sylw at ragrith parhus llywodraethau Prydeinig o pob lliw o gefnogi heddwch a democratiaeth yn eiriol, tra'n hyrwyddo gwerthu arfau rhyfel i unbenaethiaid rhyfelgar - mae'n un o brif nodweddion gwleidyddiaeth rhyngwladol San Steffan. Os oes rhywun a diddordeb yn y busnes arfau Prydeinig, gellir gweld manylion gwerthiant arfau yn y Dwyrain Canol yma.
Beth bynnag, mae'n rhaid cyfaddef i Cameron a'i griw o fasnachwyr arfau fod yn hynod o ffodus yn amseriad eu hymweliad a'r Dwyrain Canol. Gadewch i mi egluro. Un dull tra effeithiol o werthu cynnyrch ydi dull o farchnata a adwaenir yn y Saesneg fel shock advertising. Cangen o'r dull hysbysebu yma ydi un sy'n ceisio dychryn pobl i brynu cynnyrch trwy eu dychryn - mae'n hawdd perswadio pobl ofnus i roi eu pres i chi.
Mae'r dull yn cael ei ddefnyddio i bwrpas digon clodwiw weithiau - i ddwyn perswad ar i bobl beidio a 'smygu neu yfed a gyrru er enghraifft. Byddant yn cael eu defnyddio i bwrpasau eraill wrth gwrs - yn arbennig i werthu eitemau sy'n ymwneud a hylendid personol - past dannedd, deunydd hylendid merched, deodrant ac ati. Bydd pobl mewn oed yn cael eu dychryn yn rheolaidd ar deledu dydd i brynu yswiriant bywyd gyda'r awgrym na fydd yna bres i'w claddu os na fyddant yn gwrando ar gyngor yr hysbyseb.
Ag ystyried y sawl mae Cameron a'i ffrindiau yn ceisio gwerthu arfau iddynt - unbenaethiaid rhyfelgar sydd wedi ymgyfoethogi eu hunain ar draul dinasyddion eu gwledydd - ni allai datblygiadau diweddar fod wedi eu hamseru yn well. Mae'r holl shock advertising y gallai'r criw bach fod wedi ei ddymuno yn cael ei ddarparu'n rhad ac am ddim, 24 awr y diwrnod gan y cyfryngau torfol. Mi fydd yn hawdd iawn gwerthu arfau i unbenaethiaid cyfoethog, ond ofnus iawn.
Y peth gorau allai ddigwydd i Cameron a'i fintai bach o werthwyr arfau rwan fyddai ymddangosiad delweddau ar Al Jazeera o Gadaffi a'i feibion ar wastad eu cefnau ar rhyw lon yn rhywle wedi eu dad berfeddu.
1 comment:
http://www.youtube.com/watch?v=w4oN0sgDsF0&feature=player_embedded
Post a Comment