Friday, July 30, 2010

Pennaeth newydd i S4C


Arwel Ellis Owen ydi'r dyn i arwain S4C i dir yr addewid yn ol y Golwg 360. Yn ol yr un wefan mae Mr Owen hefyd yn arbenigwr ar Ogledd Iwerddon. Mae'r blog hwn eisoes wedi edrych ar 'arbenigedd' Mr Owen yn y maes hwnnw. Gobeithio bod ei allu i lywio sianel uwchlaw ei arbenigedd mewn materion Gwyddelig, neu fydd yna neb ond Arwel ei hun, rhyw hen ddynes sy'n byw yn Aberdaron a'i chi a'i chath yn gwylio'r peth erbyn y 'Dolig.

3 comments:

Anonymous said...

Cam i'r tywyllwch. Mae angen gwaed newydd, gweledigaeth newydd nid rhyw dinosor corfforaethol fel hwn.

Anonymous said...

Dwi'n adnabod y ddynes Aberdaron, mae hi bellach yn edrych ar Most Haunted ar Living!

Anonymous said...

Sut ddiawl mae John Walter Jones yn cael getawe hefo osgoi'r bai am y gachfa?