
Mae'n rhyfedd fel mae ymarferiad syml o hel ystadegau yn troi'n fater gwleidyddol cynhenus mor aml. Mae hyn yn arbennig o wir parthed y cyfrifiad. Yng Ngogledd Iwerddon er enghraifft y cwestiwn am gefndir crefyddol pobl fydd yn destun dadl ffyrnig - yn arbennig ag ystyried y gallai'r cyfrifiad yno yn hawdd ddangos bod y mwyafrif o bobl o gefndir Pabyddol am y tro cyntaf. Mae perthynas agos rhwng daliadau cenedlaetholgar a chefndir Pabyddol yn y fan honno wrth gwrs.
Yma yng Nghymru y cwestiwn ynglyn a'r gallu i siarad Cymraeg ydi'r un sydd o fwyaf o ddiddordeb gwleidyddol. Mae yna rhyw eironi mae'n debyg gen i mai'r bobl ar y pegynnau gwleidyddol (parthed yr iaith o leiaf) sy'n tueddu i ddarogan gwae. O safbwynt y gwrth Gymreigwyr, y lleiaf yn y byd sy'n siarad yr iaith, gorau oll. O'u safbwynt nhw mae nifer isel o siaradwyr yn dibrisio'r iaith ac yn cynnig dadl dda mai gwastraff adnoddau llwyr ydi gwario er mwyn hybu'r Gymraeg.
Ar ochr arall y ddadl mae'r cenedlaetholwyr diwylliannol pybyr yn darogan y gwaethaf fel rhan o ddadl ehangach bod angen mesurau cadarnach i amddiffyn yr iaith, a bod yr hyn a wneir ar hyn o bryd yn gwbl anigonnol.
'Dwi'n tueddu i fod ychydig yn fwy optimistaidd na'r naill garfan na'r llall. Mae'n ffaith i'r ganran sy'n siarad Cymraeg ostwng yn gyson trwy'r ganrif ddiwethaf nes cyrraedd isafswm o 18.5% yn 1991. Cafwyd tro ar fyd erbyn 2001 a chynyddodd y ganran i 20.5% erbyn 2001, ac awgrymodd arolwg iaith digon cynhwysfawr yn 2004 bod 21.7% yn siarad yr iaith erbyn hynny. Ni allaf weld y gogwydd yma'n newid cyfeiriad, ac rwy'n eithaf hyderus y bydd canlyniadau eleni yn dod yn weddol agos i 25%.
Mae yna fwy nag ystadegau moel i'r stori wrth gwrs. Mae llawer o'r cynnydd i'w briodoli i'r sector addysg, ac i gynnydd mewn ardaloedd lle mae'r Gymraeg yn gymharol wan. Mewn llefydd fel hyn 'dydi siaradwyr Cymraeg ddim yn cael y cyfle i ddefnyddio'r iaith yn aml iawn, ac mae sylwedd i'r cwestiwn, beth yw pwynt cael siaradwyr Cymraeg os nad ydynt yn siarad Cymraeg?
Yn Golwg yr wythnos diwethaf neu'r un cynt roedd yr Athro Harold Carter yn awgrymu na fyddai yna unrhyw gymunedau gyda mwy na 75% yn siarad Cymraeg ynddynt ar ol erbyn cyfrifiad eleni. Mae'n debyg bod arwyddocad i'r ganran yma o ran trosglwyddiad iaith a'i statws yn y gymuned. Mae gen i barch mawr at yr athro, mae'n arbenigwr ar ddaearyddiaeth iaith sydd wedi arloesi yn y maes - ond 'dwi'n anghytuno efo'i ddarogan.
Ar un olwg mae'n hawdd gweld pam ei fod wedi dod i'r casgliad - er i'r nifer a'r ganran o siaradwyr Cymraeg gynyddu yng Nghymru, bu gostyngiad yn yr ardaloedd traddodiadol Gymraeg - yn arbennig felly yn yr ardaloedd gwledig. Yn wir ugain ward yn unig oedd a mwy nag 80% yn siarad Cymraeg ynddynt yn 2001 - y cwbl yn y Gogledd Orllewin, a'r cwbl ond un yn rhai trefol.
Ond mae lle i gredu nad ydi pethau cyn waethed a hynny yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith - yn wir mae data caled sy'n awgrymu hynny. Pan fydd ysgolion yn cael eu harolygu gan ESTYN mae gofyn i'r pennaeth roi adroddiad ar y sefyllfa ieithyddol yn ei ysgol. Bydd yn rhoi adroddiad ar faint o'r plant sy'n defnyddio'r Gymraeg adref, ac ar faint o blant sy'n gallu ei siarad i safon iaith gyntaf. Mae'r tablau isod yn dangos y sefyllfa diweddaraf yn ysgolion uwchradd Gwynedd. Lle ceir lle gwag mae oherwydd nad yw'r ffigwr ar gael (yn hawdd o leiaf) yn yr adroddiad.
| Ysgol | Disgyblion | Cymraeg adref
| Safon iaith gyntaf |
| Ardudwy | 380 | 30% | 70% |
| Botwnnog | 517 | 75% | 98% |
| Brynrefail | 724 | 65% | 98% |
| Dyff Nantlle | 507 | 87% | 97% |
| Dyff Ogwen | 437 | 78% | 99% |
| Eifionydd | 537 | 50% |
|
| Friars | 1312 | 8% |
|
| Glan y Mor | 518 | 75% |
|
| Syr Hugh Owen | 890 | 87% | 98.00% |
| Tryfan | 370 | 46% | 96% |
| Y Berwyn | 428 | 60% | 90% |
| Y Gader | 309 | 33% | 69% |
| Y Moelwyn | 416 | 77% | 98% |
| Tywyn | 487 | 21.50% | 63% |
Rwan 'dwi'n prysuro i gydnabod bod Gwynedd yn Gymreiciach o lawer na'r un sir arall, a 'dwi'n gwybod nad ydi ysgol yn adlewyrchu dalgylch lleol yn y ffordd yr oedd ers talwm - ceir cryn dipyn o groesi ffiniau gan blant, ac mae rheswm ieithyddol am y croesi ffiniau hwnnw yn aml. 'Dwi'n cydnabod hefyd bod y ffigyrau yn gymysg, gyda'r canrannau sy'n siarad Cymraeg adref yn isel yn ardal ddinesig Bangor ac yn ne gwledig y sir.
Ond ag ystyried bod plant a'u rhieni yn cynrychioli canran uchel o'r boblogaeth ehangach, bod 6 o'r ysgolion uwchradd gyda 75% neu fwy o'u plant o gefndiroedd Cymraeg, a bod pob ysgol yn gwasanaethu pump neu chwech o wardiau, mae'n anodd iawn gweld sut y gellid peidio a chael wardiau efo mwy na 75% o'u trigolion yn siarad Cymraeg.
'Rwan nid dadlau o blaid gor optimistiaeth parthed rhagolygon y Gymraeg ydw i. Mae optimistiaeth di sail yn arwain at ymdeimlad o ddiogelwch di sail. Ond mae pesimistiaeth gormodol hefyd yn niweidiol - mae'n tanseilio statws y Gymraeg, mae'n creu ymdeimlad o anobaith ac mae'n gwneud i siaradwyr Cymraeg deimlo eu bod yn ran o leiafrif gwanach nag ydynt mewn gwirionedd. Mae hyn yn wir am sefyllfa'r Gymraeg tros y wlad i gyd, ac am ei sefyllfa yn yr ardaloedd Cymraeg eu hiaith.
Felly - ar drothwy cyfrifiad 2011 (y cyfrifiad olaf mae'n debyg) - un apel fach i garedigion yr iaith. Defnyddiwch y data ieithyddol a gynhyrchir yn wrthrychol i adnabod cryfderau a gwendidau'r iaith tros Gymru. Gall defnyddio ffigyrau i greu darlun rhy ddu wneud mwy o ddrwg nag o les i achos y Gymraeg.
Data ysgolion oll o wefan arolygiadau ESTYN.