Showing posts with label Robin Millar. Show all posts
Showing posts with label Robin Millar. Show all posts

Friday, April 23, 2010

Pam nad ydi Robin eisiau dweud yn lle mae'n byw?


Fel y gwelwch, er bod Robin 'I live in Gerlan' Millar yn disgrifio ei hun fel 'hogyn lleol' 'dydi o ddim eisiau dweud ymhle mae'n byw ar y papur pleidleisio. Yn wahanol i bobl sydd eisiau mynd ar gyngor er enghraifft, mae ganddo pob hawl i wrthod datgelu ei gyfeiriad.

Mewn blogiad diweddar holais os oes gan Robin dy yn Arfon o gwbl. 'Dwi ddim yn gwybod yr ateb i hynny, ond 'dwi'n gwybod bod yna Mr a Mrs R Millar yn berchen ty sydd a chyfeiriad Gerlan (ond mae wedi ei leoli mewn gwirionedd yn nes o lawer at Dal y Bont) wedi gwneud cais yn 2003 i droi adeilad cyfagos (hen feudy) yn dy. Cafwyd caniatad. Gellir gweld y cofnodion perthnasol yma. Cais rhif 14 ydi'r un 'dwi'n cyfeirio ato.

A derbyn bod mae gan Robin dy (neu yn hytrach efallai dai) yn Arfon, yn ogystal a chartref yn Newmarket (lle mae'n gweithio a lle mae'n gynghorydd) mae'n ddiddorol holi pam nad yw'n rhoi cyfeiriad un o'r tai lleol ar y papur pleidleisio er mwyn 'profi' ei fod yn 'hogyn lleol' chwedl yntau?

Tybed os mai'r ateb ydi bod mai dau dy haf sydd ganddo, ac nad ydi Robin wedi treulio llawer o amser o gwbl ynddynt hyd eleni, a bod y naill dy wedi bod yn dy haf ers iddo gael ei brynu yn 2001 a bod y llall hefyd wedi ei droi yn dy haf rhywbryd wedi iddo ddechrau cael ei adnewyddu yn 2003?

Wedi'r cwbl 'dydi bod yn berchenog tai haf yn Arfon ddim yn union yr un peth a bod yn hogyn lleol.

Os mai perchnogaeth tai haf ydi'r peth pwysig mi fyddai gan Arglwydd Penrhyn well lle i ddisgrifio ei hun fel 'hogyn lleol' na Robin.

Sunday, April 18, 2010

Byw mewn dau le ar yr un pryd


Mae'n rhaid cyfaddef bod Robin 'I live in Gerlan' Millar (ymgeisydd y Toriaid yn Arfon) yn ddyn clyfar iawn. Mae'n llwyddo i gyflawni'r dasg anodd o fyw mewn dau le ar yr un pryd.

Yn ol gwefan Forest Heath District Council mae'n gynghorydd tros ward All Saints yn y fan honno ac yn byw yn 42 Barry Lynham Drive, Newmarket, CB8 8YT. Mae ganddo rif ffon landline yno yn ogystal a chyfeiriad e bost llywodraeth leol - robin.millar@forest-heath.gov.uk

Yn y cyfamser mae ei wefan etholiadol
yn honni ei fod yn hogyn lleol, wedi ei eni ym Mangor ac yn byw yn Arfon (ond ddim yn manylu ynglyn a lle yn yr etholaeth mae'n byw). Mae ganddo gyfeiriad e bost gwahanol - robin@adeiladuarfon.com yn ogystal a rhif ffon symudol.

Gan bod Robin yn fodlon gwneud cymaint o wybodaeth amdano ei hun, a sut i gysylltu efo fo, yn gyhoeddus, mae'n rhyfedd braidd nad yw'n ein darparu efo ei gyfeiriad honedig yn Arfon.

Tybed os oes ganddo gyfeiriad yn Arfon o gwbl?