Mae’n ddiddorol nodi o flog Jonathan Edwards bod y Blaid yn San Steffan eisiau diwigio’r gyfundrefn ethol aelodau Cynulliad. Byddwch yn ymwybodol mai’r drefn ar hyn o bryd ydi bod 40 o aelodau yn cael eu hethol yn uniongyrchol o’r etholaethau, tra bod ugain arall (pedwar i pob rhanbarth) yn cael eu hethol trwy system rhestr. Ymddengys bod y Blaid yn pwyso ar Cheryll Gillan ddefnyddio ffiniau etholaethol newydd San Steffan ar gyfer y Cynulliad (hy 30 ac nid 40 o seddi) ac ethol 30 aelod trwy ddull rhestr (6 i pob rhanbarth). Y ddadl ydi y byddai’r dull fel hyn yn fwy cyfrannol, ac yn rhannol ddileu’r tuedd yn y drefn bresenol i ffafrio’r Blaid Lafur. ‘Dwi’n anghytuno mae gen i ofn – a dyma pam:
(1) Gall y drefn rhestr fod yn hynod anemocrataidd ac anatebol oherwydd bod y sawl sydd ar frig y rhestrau yn aml yn cael eu dychwelyd heb i’r etholwyr feddwl rhyw lawer am yr hyn maent yn ei wneud efo’u hail bleidlais. Er enghraifft lle ceir pleidiau efo diwylliant mewnol anemocrataidd – fel y Blaid Doriaidd – gallant fynd ati i gamddefnyddio’r drefn. Nid oedd y rhan fwyaf o ymgeiswyr oedd ar ddwy safle uchaf rhestrau’r Toriaid eleni wedi eu hethol gan neb ond rhyw bwyllgor bach canolig o Doriaid pwysig, pwysig. Penderfynodd y rheini y dylai pawb oedd yn y Cynulliad eisoes fynd i frig y rhestrau yn ddi etholiad – sut bynnag yr oeddynt wedi perfformio – a dyna ni, roeddynt i bob pwrpas wedi eu hethol gan lond dwrn o bobl o’r un plaid a nhw eu hunain. Hyd yn oed lle mae’r drefn fewnol yn iachach, nifer fechan o aelodau yn aml sy’n pleidleisio ynglyn a phwy ydi’r ymgeisydd.
(2) ‘Dydi newid y drefn yn y ffordd mae Jonathan eisiau ddim yn sicrhau y canlyniad mae ei eisiau. Er enghraifft, yn yr Alban ceir 73 aelod yn cael eu hethol yn uniongyrchol a 56 (7 i bob rhanbarth trwy’r rhestrau). Wnaeth y trefniant yma ddim atal yr SNP rhag cael mwyafrif llwyr er mai 45.4% o’r bleidlais a gafwyd yn yr etholaethau a 44% ar y rhestrau. Yn wir mi lwyddodd yr SNP i ennill sedd ranbarthol yn eu perferdd dir yng Ngogledd Ddwyrain yr Alban er iddi ennill yr with sedd uniongyrchol yn y rhanbarth.
(3) Yn bwysicach ‘dydi’r newidiadau mae Jonathan yn eu hawgrymu ddim yn cyd fynd ag amcanion hir dymor y Blaid. Ar hyn o bryd mae pobl yn tueddu i uniaethu mwy efo San Steffan nag y gwnant efo’r Cynulliad. Mae’r newidiadau mae’r Toriaid yn bwriadu eu gweithredu i ffiniau etholaethau San Steffan yn gyfle i newid y patrwm hwn. Mi fydd y newidiadau yn creu unedau etholiadol anaturiol – rhai na fydd pobl yn gallu uniaethu efo nhw. Bydd cymoedd sy’n edrych yn agos at ei gilydd ar fap, ond sydd mewn gwirionedd yn bell oddi wrth ei gilydd o safbwynt teithio, yn cael eu rhoi mewn un etholaeth. Bydd Ynys Mon yn cael ei gosod gyda rhan o Wynedd a bydd rhannau o Geredigion yn cael eu rhoi yn yr un etholaethau a rhannau o Bowys yn ol pob tebyg. Mae’n well o lawer bod yr etholaethau Cynulliad yn aros fel ag y maent (yn ddigon tebyg i’r hyn a ddigwyddodd pan newidwyd ffiniau San Steffan yn yr Alban) – mae’r etholaethau presenol (gydag ambell i eithriad) yn rhai eithaf naturiol. Os ydi pobl yn uniaethu efo un set o etholaethau mwy nag efo’r llall, byddant yn uniaethu’n well efo cynrychiolwyr etholedig, yr etholaethau hynny ac efo’r sefydliad maent yn eistedd ynddynt.
Gyda llaw, mae’r blog yma wedi dadlau sawl gwaith mai’r drefn etholiadol orau ar gyfer y Cynulliad ydi dull STV aml aelod gyda thiriogaeth y cynghorau sir presenol yn unedau etholiadol. O gynyddu’r nifer aelodau i 80, gellid mynd ati i ethol un aelod am pob 50,000 o boblogaeth +1. Byddai hyn yn golygu y byddai Caerdydd yn cael 7 aelod, Ynys Mon a Cheredigion 2 yr un a Gwynedd 3 er enghraifft. Mae pobl yn gallu uniaethu hawdd efo eu ffiniau sirol oherwydd mai’r cynghorau sy’n eu darparu efo llawer o’u gwasanaethau.
2 comments:
Beth am ddau aelod i bob etholaeth Westminster, a ddefnoddio STV?
Mi fyddai hynny'n gweithio - er nad yw'r ffordd gorau o ddefnyddio STV.
Post a Comment