Bydd llawer ohonoch hefyd yn ymwybodol o sterics hysteraidd gwrth annibyniaeth y papur yn y misoedd cyn refferendwm yr Alban y llynedd. Mae'r sterics hwnnw wedi mynd rhagddo fwy neu lai yn ddi dor ers hynny - er i'r refferendwm gael ei hennill gan ochr y Mail.
Ond efallai na fyddwch mor gyfarwydd a'r fersiwn Wyddelig. Mae'n ddigon tebyg i'r lleill.
Yr hyn a geir yma ydi ymdrech i ddifa ymgyrch etholiadol un o aelodau hynnaf y Dail, Joe Costello yn Dublin Central. Mae plaid Costello - Llafur - wedi bod mewn clymblaid efo hoff blaid y Mail (Fine Gael) am bum mlynedd, ond mae yna ogwydd yn erbyn y pleidiau llywodraethol yn y brif ddinas, ac mae'r gogwydd hwnnw wedi gadael y ddwy blaid lywodraethol yn ymladd yn erbyn ei gilydd am sedd olaf Dublin Central.
Felly mae'r Mail wedi dod o hyd i lun o Costello, ei wraig Emer, ac un o arweinwyr gangiau drwgweithredwyr Dulyn a dynwyd yn ystod ymgyrch afleyddianus Emer i amddiffyn ei sedd Ewropiaidd ddwy flynedd yn ol. Mae yna hysteria am gangiau yn Nulyn ar hyn o bryd am resymau amlwg. Tynnir miloedd o luniau o bobl efo ymgeiswyr yn ystod ymgyrchoedd etholiadol, a dydi'r ymgeiswyr ddim yn gwybod pwy ydi 95% o'r bobl maent yn cael eu lluniau wedi eu tynnu efo nhw. Dylai hynny fod yn amlwg i bawb - hyd yn oed darllenwyr y Mail.
Ond dyna fo, y Mail ydi'r Mail - ble bynnag mae'n cael ei gyhoeddi.
1 comment:
Diddorol. Yw'r papurau yn perthyn i'w gilydd?
Post a Comment