Os ydi'r pol yma'n cael ei wireddu heddiw - efo dim ond 45% i'r ddwy brif blaid sefydliadol - FG a FF bydd yn sioc sylweddol i'r system wleidyddol yn yr Iwerddon. Byddai'n rhaid i arweinyddion FG a Llafur fynd - y prif weinidog a'r dirprwy brif weinidog - a Duw a wyr sut y byddai'r llywodraeth nesaf yn edrych. Mae'n ddigon posibl y byddai yna etholiad arall mewn ychydig fisoedd.
Bydd y cyfryngau Gwyddelig mewn cryn alar hefyd wedi eu hymdrechion mwyfwy hysteraidd i amddiffyn y sefydliad gwleidyddol.
No comments:
Post a Comment