Monday, February 01, 2016

Cywiro datganiadau camarweiniol - rhan 5

Cyfres o ddatganiadau ar trydar gan ymgeisydd Llafur yn Arfon, Sion Jones sydd gennym y tro hwn.  Mae 'n cychwyn efo hon:



Son mae Sion am y posibilrwydd a gododd rai blynyddoedd yn ol o godi carchar ar safle hen ffatri Ferodo rhwng Caernarfon a'r Felinheli.  

Mae'n arferol gyda chynllun cymharol fawr fel hwn i farn bolareiddio yn lleol.  Yr arfer ydi bod pobl sy'n byw yn agos iawn at ddatblygiad yn tueddu i'w wrthwynebu am ei fod yn achosi problemau / anhwylusdod iddyn nhw eu hunain, tra bod pobl sy'n byw ychydig ymhellach i ffwrdd yn ei groesawu oherwydd y cyfleoedd economaidd sy'n deillio ohonynt.

Roedd hyn yn wir yn achos carchar Caernarfon - a chefais flas uniongyrchol o wrthwynebiad pobl oedd yn byw ar hyd glannau'r Fenai i'r datblygiad.  Roeddwn yn digwydd bod yn gadeirydd Cangen Caernarfon Plaid Cymru ar y pryd, a chefais fy hun yn cadeirio cyfarfod cyhoeddus i drafod y datblygiad yn Theatr Seilo yng Nghaernarfon.  Roedd Hywel Williams yr Aelod Seneddol, Alun Ffred yr Aelod Cynulliad a Dyfed Edwards, arweinydd y cyngor ar y llwyfan efo fi ar y llwyfan.  Roedd y tri  o blaid y datblygiad.  Fel sy'n arferol mewn cyfarfodydd fel hyn daeth llawer, llawer mwy o wrthwynebwyr y datblygiad nag o gefnogwyr i'r cyfarfod.  'Doedd y cyfarfod ddim yn un cyfforddus i'w gadeirio, a chafodd pawb amser digon caled oherwydd eu cefnogaeth i 'r cynllun.

Petai'r cynllun wedi mynd rhagddo byddai wedi effeithio  ar ddwy ward yn bennaf - ward Menai yng Ngogledd Caernarfon a'r Felinheli - pentref ychydig filltiroedd i'r dwyrain o'r dref.  Mae'r ddwy ward yn gadarnleoedd i Blaid Cymru - ac nid yw'n gyfrinach i bleidleisiau ac aelodau gael eu colli yn yr ardal oherwydd cefnogaeth y Blaid i ddenu 'r datblygiad i Gaernarfon ar lefel San Steffan, Cynulliad a Chyngor Gwynedd.  Roedd y datblygiad yn cael ei gysylltu'n lleol efo Plaid Cymru.

Fel mae'n digwydd ni ddaeth y carchar i Gaernarfon - a hynny oherwydd i weinidog gwladol (Llafur) benderfynu na fyddai hynny'n digwydd.  Wedi i un o gyd gynghorwyr Sion - Dyfrig Jones - ymateb i 'w drydariad trwy ddweud hynny atebodd Sion gyda'r trydariad isod:


Dydi hynny ddim yn wir chwaith.  Roedd y Blaid ar Gyngor Gwynedd o blaid y cynllun - wele ymateb y Cyng Dewi Lewis - y deilydd portffolio datblygu ar y pryd - i'r Daily Post.

“This is one of the most important developments in this area for some time, it’s important that we start preparing for it now so that the people of Gwynedd are top of the list when it comes to opportunities and jobs.

“We will be holding talks with our partners in the Assembly Government and Westminster, as well as in health, education and the local business sector and trade unions while carrying out the groundwork before the jail opens.”

Wedi i Dyfrig nodi nad oedd honiad Sion yn wir a gofyn iddo dderbyn nad oedd ei haeriad yn wir, cafwyd y trydariad yma gan Sion:


Mae'r math yma o ddadl yn gyfarwydd i unrhyw un sy'n dilyn Llafur yng Nghymru.  Byddwch yn cofio i Carwyn Jones geisio rhoi'r bai am i'w lywodraeth fethu ag ariannu cynllun i osgoi llifogydd ar yr A55 ar Blaid Cymru oherwydd i Ieuan Wyn Jones beidio a gweithredu cynllun cyfangwbl wahanol ar yr A55.  Rhywbeth tebyg sy'n digwydd yma - cynllun hollol wahanol oedd yr un i godi carchar anferth Titan yn y Gogledd - un a wrthwynebwyd gan y Blaid - ac un nad oedd erioed am ddod i ardal Caernarfon / Y Felinheli beth bynnag - roedd yn rhy fawr o lawer i hynny.

Wedi i Dyfrig dynnu sylw at hynny, cawn y trydariad yma gan Sion: 


Felly yr honiad erbyn hynny oedd bod ymgeisydd y Blaid yn Arfon - Sian Gwenllian - yn erbyn y datblygiad.  Yn anffodus dydi hynny ddim yn wir - eto fyth.  Roedd yn wleidyddol anodd i Sian beidio a gwrthwynebu 'r cynllun.  Byddai'r rhan fwyaf o 'r carchar wedi ei leoli yn ei ward, ac roedd yna gryn wrthwynebiad yn lleol.  Ond wnaeth hi ddim gwrthwynebu - ac roedd hynny 'n arwydd o ddewrder gwleidyddol ar ei rhan. Mae'n wir iddi godi rhai o'r materion oedd yn poeni ei hetholwyr efo'r gweinidog - ond gwnaeth hynny mewn cyd destun lle'r oedd yn llawn dderbyn yr angen  am y carchar.  

Cafwyd dau drydariad gan gynghorydd arall - Dafydd Meurig - yn tynnu sylw at hynny:



Ni chafwyd ateb hyd yn hyn gan Sion.

Rwan rydym wedi hen arfer efo antics Llafur Arfon parthed camarwain - bydd llawer yn cofio i Alun Pugh flocio nifer fawr o bobl oedd yn tynnu sylw at ddatganiadau amheus ar ei gyfri trydar, a dwi'n cofio bod un o ragflaenwyr Alun yn cadw blog ac yn dileu yn rheolaidd sylwadau oedd yn tynnu sylw at ddatganiadau nad oedd yn ffeithiol gywir ar y blog, tra 'n parhau i ddangos y  ffeithiau hynny.  

Ond dydan ni heb arfer efo'r gwir yn cael ei droi yn gyfangwbl a'i ben i lawr.  Y sefyllfa mewn gwirionedd oedd bod gwleidyddion Plaid Cymru yn cymryd risgiau gwleidyddol sylweddol er mwyn dennu datblygiad a allai fod o les sylweddol i economi 'r ardal - ond i weinidog Llafur atal y cynllun rhag mynd rhagddo yn yr ardal.  Ond mae Llafur Arfon yn ceisio camarwain yr etholwyr trwy honni bod y Blaid yn gwrthwynebu datblygu'r cynllun.

Rydan ni'n torri tir newydd mae gen i ofn - y math o dir nad oes neb eisiau ei dorri.








No comments: