Rwan mae'r stori mymryn yn gymhleth - yn arbennig os ydych yn dod o'r tu allan o Wynedd, ond mi geisiwn wneud pethau'n syml.
Mae Gwynedd - fel pob cyngor arall yng Nghymru - yn gorfod gwneud toriadau sylweddol mewn gwariant - a felly gwasanaethau. Mae dau reswm uniongyrchol am hyn.
1). Y toriadau sylweddol i gyllideb y Cynulliad yn sgil y toriadau enfawr a bleidleiswyd arnynt fis Chwefror y llynedd yn San Steffan gan y Blaid Lafur, y Toriaid a'r Dib Lems.
2). Y ffaith i 'r Cynulliad drosglwyddo lwmp o'r toriadau hyn i'r cynghorau. Cafodd Gwynedd setliad salach na'r rhan fwyaf o gynghorau gan lywodraeth Llafur y Cynulliad.
Yn wahanol i'r rhan fwyaf o gynghorau, aeth Gwynedd ati i lunio rhestr o pob toriad posibl ac ymgynghori efo'r cyhoedd ynglyn a pha doriadau oedd fwyaf derbyniol (neu leiaf anerbyniol). Cafodd pawb gyfle i ddweud eu dweud ar lein, a cymrodd rhai miloedd o bobl fantais o'r cyfle i wneud hynny.
Beth bynnag, dau o'r toriadau posibl ar y rhestr oedd cau Pont yr Aber yng Nghaernarfon a Phont Abermaw. Roedd yna ddwsinau o bosibiliadau eraill, gan gynnwys cau canolfannau hamdden, torri grantiau diwylliant a hamdden ac ati, ac ati. Am rhyw reswm gafaelodd Sion yn y posibilrwydd o gau Pont yr Aber yn hytrach na'r un arall, a chynhaliodd brotest ar y bont. Ymddengys bod nifer go dda o bobl yn cytuno efo fo mai dyna 'r mater mawr - a chafwyd gwrthdystiad eithaf sylweddol ar y bont yn ystod yr hydref.
Yn y cyfamser roedd y broses ymgynghori yn mynd rhagddi, gyda phobl Gwynedd yn dweud eu dweud ar lein. Llunwyd rhestr oedd wedi ei seilio bron yn llwyr ar flaenoriaethau 'r cyhoedd ac ar sail hynny y llunwyd y papur oedd yn argymell beth i'w dorri a beth i beidio ei dorri. 'Doedd y cyhoedd ddim yn ystyried y dylai cau Pont yr Aber fod yn agos at frig y rhestr, felly ni chafodd ei chau - yn union fel nifer sylweddol o argymhellion posibl eraill.
Felly y cyhoedd a gymrodd rhan yn yr ymgynghoriad a achubodd y bont, nid protest Sion. Mae'n debygol wrth gwrs i nifer o bobl oedd yn y brotest gymryd rhan yn yr ymgynghoriad a chyfranu at y penderfyniad felly - a chware teg iddynt am wneud hynny.
Ond mae'r awgrym bod y penderfyniad i beidio a chau'r bont yn ganlyniad i'r brotest yn gwbl gamarweiniol. Yn wir mae 'n ymgais drwsgl i hawlio clod ar draul y nifer fawr o bobl a gymrodd rhan yn yr ymgynghoriad yn ddi rodres a di ffwdan ac heb fynd i chwilio am ganmoliaeth. Dinasyddion cyfrifol, di lol Gwynedd mewn geiriau eraill.
9 comments:
Dw i'n genfigennus eithriadol o Sion Jones. Dros y blynyddoedd, dw i wedi gwario llwyth o bres ar gyffuriau er mwyn cael gweld y byd mewn rhyw ffurf ledrithiol lle nad ydi fy realiti i yr un fath ag ydi o i bawb arall, ond ymddengys bod hynny'n digwydd yn naturiol (a di-gost) i gynghorydd Bethel.
Sylwad gwych
24 diwrnod i "fwynhau" hwn.. Mae'r embaras yn cychwyn ar ol 7:00
http://www.bbc.co.uk/iplayer/episode/p03gjjpb/celwydd-noeth-pennod-6
Aeron (llais Gwynedd) a Sion Jones -crash tv yn ol y Daily Post....
Mae Sion Jones yn cwyno ar Facebook bod y Daily Post yn pigo arno ac yn cyhoeddi straeon di-werth amdano (ee ei ymddangosiad chwerthinllyd ar raglen Celwydd Noeth) yn lle pethau pwysig fel y gweinidog yn ymweld ag Ysbyty Gwynedd efo fo rhai wythnosau yn ol. Hyn i gyd ar yr un dudalen Facebook ac ychydig fodfeddi uwchben fo'n yn tynny sylw at y stori DP hon am Bont yr Aber. Mae Anon 10:02pm yn iawn, mae'r hogyn a realiti wedi gwahanu ers tro.
Helo,
Duw a wŷr beth yw'r ffordd gorau o fynd o'i chwmpas rhwng rwan a Mai. I ninnau, mae hi'n gwbl amlwg ei fod ymgeisydd poen-yn-din sy'n pedlo celwyddau/anwireddau a rhyw ddehongliad o'r byd sydd wedi ei liwio a'i siapio nes ei fod yn nonsens llwyr.
Ond, a dyma'r broblem,mae o'n derbyn modfeddi a modfeddi yn y Dail y Post fel llwyfan i'r pethau hyn. Does gennai ddim syniad lleiaf sut i roi taw ar hynny, ond peryg yw jyst ei wfftio ar un blog a meddwl fod Arfon a'r byd wedi gweld drwyddo o'r diwedd.
Meddyliwch am y Cambrian News, pedlo mytholeg Louise Hughes ers 2008, pedlo chwedloniaeth am Gymry Ffasgaidd/Eithafol yng Ngheredigion ers 2005. Tafler digon o gachu i gyfeiriad rhywun, a mae rhywfaint ohono yn siŵr o sdicio.
Fel arall, edrychaf ymlaen at weld Sian yn rhengoedd y Blaid fis Mai.
Allai ond cytuno gyda'r cyhuddiad o gamarwain, ond mae awgrymu bod Cyngor Gwynedd wedi cynnwys pob opsiwn posib o ddarganfod arbedion hefyd yn ymestyn y gwir. Tra bo tori ar wasanaethau cymdeithasol yn opsiwn yn yr ymgynghori e.e. nid oedd opsiwn i dori nifer y gwleidyddion na'i treuliau.
Llywodraeth Cymru (gyda chymorth y Comisiwn Ffiniau) sydd yn gyfrifol am y nifer o wardiau a chynghorwyr sydd gan pob cyngor. Roedd ganddynt gynlluniau yn ddiweddar i leihau'r niferoedd o gynghorwyr mewn nifer o gynghorau - gan gynnwys Gwynedd - ond rhoddwyd y rheini ar y silff. Y prif reswm - mae'n debyg - oedd gwrthwynebiad o gynghorau Llafur.
Allai gymryd y byddai Plaid yn cefnogi ystyried lleihad mewn nifer gwleidyddion fel modd o arbed arian felly? Oedd POB arbedion posib wedi ei gynnwys ar y rhestr? Dwi'n amau'n fawr. Yn sicr byddai lleihau nifer prif swyddogion, "bean counters" ac ati yn well Na lleihad mewn gwasanaeth mor hanfodol nag amddiffyn plant. Cywilydd cynnwys y fath swydd i'w dorri!
Roedd y nifer prif swyddogion eisoes wedi eu torri mewn rownd cynharach o doriadau.
Post a Comment