Un o nodweddion diddorol cyfrifiad 2011 ydi bod data manwl wedi ei ryddhau ynglyn ag is adrannau o wardiau - a hynny ar ffurf hawdd i gael mynediad iddo. Rwan dwi heb chwilio'n rhy fanwl - does gen i ddim amser, ac mae yna filoedd o unedau cyfri - ond yr ardal mwyaf Cymraeg allaf ddod o hyd iddo ydi rhan o ward Seiont yn nhref Caernarfon - ardal W00000573 gyda mwy na 96% yn siarad y Gymraeg a 2.5% yn unig heb unrhyw sgiliau yn y Gymraeg o gwbl. I'r sawl sydd ag obsesiwn efo dosbarth cymdeithasol mae'r ardal fach yma yn cynnwys tai preifat modern, yn ogystal a thai a blociau fflatiau cymunedol.
Os ydych eisiau chwilio eich hun, edrychwch yma.
2 comments:
staff McDonalds hyd yn oed yn dechrau pob sgwrs yn Gymraeg hefyd..!
Mae McDonalds yn agos iawn at w00000573 - yn sownd ynddi o bosibl.
Post a Comment