Tuesday, December 08, 2015

Crebwyll etholiadol gwych Llafur

'Does gen i ddim problem efo ymweliad Lesley Griffiths ddoe a'r asiantaeth cefnogi cyrff gwirfoddol yng Nghaernarfon - Mantell Gwynedd.  Yn wahanol i ymweliadau  diweddar gan weinidogion a sefydliadau cyhoeddus, mae'n weddol amlwg mai ymweliad ymgyrchu ar ran y Blaid Lafur ydi hon - does yna ddim llawer o amwyster ynglyn a hynny.  Mae gan weinidogion hawl i ymgyrchu cyn belled a'u bod yn gwahanu'r ymgyrchu oddi wrth eu rol weinidogol.

Bethan Russell - prif swyddog Mantell Gwynedd, Sion Jones, Lesley Griffiths a'r Cynghorydd Gwen Griffiths sydd yn y llun gyda llaw.


Serch hynny mae yna ambell i gwestiwn yn codi - yn arbennig ag ystyried y trydyriad isod gan Sion Jones.


Ymddengys bod Sion wedi croesawu 6 o weinidogion i Arfon mewn tri mis.  Mae hynny 'n llawer iawn o ymweliadau gweinidogol ag un etholaeth.  Rwan mae'n bosibl bod yna gymaint a hyn o ymweliadau a phob etholaeth yng Nghymru - ond mae yna 40 etholaeth - a byddai hynny 'n golygu 240 ymweliad mewn ychydig fisoedd.  Byddai hynny'n arwain at weinidogion Llafur yn treulio lwmp go sylweddol o'u hamser yn crwydro'r wlad ar ymweliadau sydd yn amlach na pheidio ag ochr etholiadol, wleidyddol iddynt.  Mae gofyn os ydi hynny'n ddefnydd rhesymol o amser gweinidogion yn gwestiwn teg.

Ond mae'n debygol wrth gwrs bod Arfon yn cael sylw arbennig gan Lafur.  Digwyddodd hynny yn y misoedd oedd yn arwain at etholiadau San Steffan eleni.  Yn wir digwyddodd i'r fath raddau nes bod Llafur - yn ol David Taylor - wedi anfon eu trefnydd yn Nyffryn Clwyd yma am gyfnodau sylweddol.  Collodd Llafur Dyffryn Clwyd o drwch adenydd gwybedyn, a chawsant gweir yn Arfon wrth gwrs.  

Mae'r blog yma wedi bod yn euog o chwerthin ar ben diffyg crebwyll etholiadol Llafur ar lefel Arfon ac ar lefel Gymreig ar nifer o achlusuron yn y gorffennol.  Mae'n debygol y bydd rhaid i ni wneud hynny eto tros y misoedd nesaf. Wele ganlyniad Arfon yn 2011:


Mae'n bosibl gweld pam bod Llafur yn ffansio eu gobeithion ar lefel San Steffan - dim ond 7% o wahaniaeth oedd yna yn 2010 rhwng y Blaid a Llafur (mae'n 14% bellach).  Ar lefel Cynulliad mae yna 43.4% o wahaniaeth - sy'n fwlch anferthol.  Mae Arfon ymysg y seddi saffaf yng Nghymru - i unrhyw blaid.  Mi fyddai targedu sedd felly yn beth rhyfedd iawn i Lafur ei wneud  ar y gorau gyda chymaint o'u seddi nhw eu hunain mewn perygl gwirioneddol ym mis Mai.  

Ond dydi'r sefyllfa ddim yn un sydd ar ei gorau i Lafur yn Arfon - maen nhw wedi dewis ymgeisydd sydd yn ddadleuol iawn yn lleol.  

Mae yna filoedd lawer o bobl sy'n gweithio yn y sector gyhoeddus trwy gyfrwng  y Gymraeg yn Arfon - ond mae'r ymgeisydd wedi dweud bod amod gallu i siarad y Gymraeg i swyddi mewn sefydliadau sy'n gweithredu trwy gyfrwng y Gymraeg yn 'ymylu ar fod yn hiliol'.  

Mae mwy na thraean o'r boblogaeth yn gyffredinol wedi defnyddio rhyw gyffur neu'i gilydd yn y gorffennol.  Mae'r ganran yn debygol o fod yn sylweddol uwch yn Arfon oherwydd bod yna lawer o bobl yn perthyn i grwpiau sy'n fwy tebygol na'r boblogaeth yn gyffredinol o ddefnyddio cyffuriau ysgafn yn byw yma - myfyrwyr er enghraifft.  Cred yr ymgeisydd y dylai'r heddlu fuddsoddi mwy o amser ac ynni i erlid ac erlyn defnyddwyr cyffuriau ysgafn.  

Mae'r ardal yn ganolfan cyfiawnder troseddol ar gyfer y Gogledd Orllewin.  Byddai ceisio prosesu miloedd o drigolion y Gogledd Orllewin trwy'r llysoedd yn rhoi straen sylweddol ar y gyfundrefn.  Does yna ddim capasiti i ddelio efo niferoedd sylweddol o erlyniadau ychwanegol - byddai'r holl drefn yn cael ei llusgo i'w gliniau mewn wythnosau.

Mae'r etholaeth yn un ryddfrydig sydd a thraddodiad o heddychiaeth.  Roedd yr ymgeisydd mor frwdfrydig tros fomio Assad pan fethodd Cameron a pherswadio'r Senedd i wneud hynny nes iddo ddatgan ei fod yn ddymuniad ganddo i arwyddo'r bomiau cyn eu gollwng.

Felly mae yna fflyd o weinidogion Llafur yn heidio i etholaeth lle mae ganddynt tua chwarter y bleidlais i gefnogi ymgeisydd sydd yn gwneud pob dim o fewn ei allu i elyniaethu cydrannau sylweddol o etholwyr yr etholaeth.

Dydi Llafur Cymru byth yn dysgu dim - ond dyna fo, fel y dywedais ar y cychwyn 'dwi ddim yn cwyno.





13 comments:

Anonymous said...

Ydi Mantell Gwynedd yn agored i bawb yng Ngwynedd neu wedi'i uniaethu ag un blaid yn benodol?

Cai Larsen said...

Gwna'r ymholiad i brif swyddog yr asiantaeth.

Anonymous said...

Yn ansicr o'r croeso a gawn.…

Anonymous said...

Mae'r boi yn swnio braidd fel Donald Trump Cymru.

Anonymous said...

Hi di Bethan Russell ia? Nes i ddim ei adnabod hi heb ei siwt llwynog 'mlaen.

Anonymous said...

Mi fysa i'n reit ddiddorol gwybod beth yn union ydi'r berthynas rhwng Mantell Gwynedd a Llafur. Oes yna berthynas swyddogol? Er enghraifft ydi Mantell Gwynedd yn adain o'r Blaid Lafur yng Nghymru? Oes ganddyn nhw sedd ar NEC Llafur yng Nghymru?

Anonymous said...

Onid y pwysigrwydd o ymweliadau fel hyn yw bod gweinidogion, boed o unrhyw liw Llywodraethol, yn cymryd sylw at waith sy’n cael ei wneud ben draw arall o ganolbwynt y bydysawd sef Caerdydd? Cefais innau sioc wrth glywed am yr ymweliad brenhinol i Gaernarfon yn ddiweddar ac at un mudiad yn benodol. Er fod y profiad yn fythgofiadwy i’w defnwyr gwasanaeth, nid yw’n gyfrinach mai cendlaetholwyr ac aelodau PC yw’r rheolwyr a mwyafrif o aelodau’r bwrdd rheoli. Eironi enfawr. A fy mhwynt yw? Nid gem wleidyddol neu arall sydd ohoni siwr. A yw ysgolion yn llwyddiannus oherwydd diddordeb wleidyddol athrawon a prhifathrawon ynteu’r arweinyddiaeth, cyflawniadau a chyrhaeddiadau’r disgyblion?

Sali Mali

Cai Larsen said...

Ond nid fel gweinidog aeth hi yno. Petai wedi gwneud hynny byddai wedi torri ei chod ymarfer trwy fynd ag ymgeisydd efo hi.

Cai Larsen said...

Sali - dwi'n meddwl eich bod wedi cam ddeall y blogiad. Nid beirniadaeth o Fantell Gwynedd sydd yma - beirniadaeth o ddealltwriaeth Llafur o sut mae etholiadau yn gweithio.

Anonymous said...

Nid wyf wedi eich cammdeall Mr Larsen- dau safbwynt wahanol sydd gennym yma. I mi, mae’n bwysig bod gweinidogion, a’r teulu brenhinol wrth gwrs, yn cymryd sylw o’r hyn sy’n digwydd ar lawr gwlad. Rwy’n credu’n gryf fod unrhyw Lywodraeth sydd mewn pwer (beth bynnag eu lliw) yn gwneud yr ymdrech i dalu sylw fel hyn. Nhw yw’r bobl sy’n atebol ynte? Yn ol fy nealltwriaeth , Lesley Grifiths yw aelod cabinet Llywodraeth Cymru a gweinidog dros gymunedau a threchu tlodi. Rwyf hefyd wedi chwilio ar y we am Fantell Gwynedd a’u pwrpas er mwyn dod i gasgliad dros fy nadl. Gallaf weld eich safbwynt chi hefyd fod yr ymweliad yma yn eich barn yn riw fath o ymgyrch wleidyddol gan y Blaid Lafur.

Fe drefwnyd cyfarfod gyhoeddus yn ddiweddar gan ein AS ac ymgeisydd PC Arfon yn etholiadau’r Cynulliad yn 2016 dros is-raddio uned mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd. Darllenais hefyd erthygl yn un o’r papurau lleol riw chydig wythnosa’n dol am brofiad un teulu am y gwasanaeth mamolaeth yn Ysbyty Gwynedd. Roedd yr erthygl yn cynnwys yr un ymgeisydd PC Arfon, sydd hefyd yn gynghorwraig lleol i’r teulu yma. Cyd-ddigwyddiad efallai? I mi, buasai safbwynt gan deulu sy'n byw ym mhellach na thafliad carreg o Ysbyty Gwynedd (Pen Llyn hwyrach) wedi dal llawer mwy o ddwr. Gall rywun ddadla felly fod yr enghreifftiau uchod yn riw fath o ymgyrch etholiadol ar ran PC, wedi’r cyfan, mae’r etholiadau o fewn 6 mis bellach tydynt?


Sali M

Cai Larsen said...

Mae hyn yn eithaf syml yn y bon. Os ydi'r ymweliad yn un gan weinidog yn y llywodraeth yna mae'n rhaid cadw at y cod ymarfer gweinidogol.

'doedd hon ddim yn ymweliad gweinidogol - felly roedd yn ymweliad gwleidyddol. Does 'na ddim problem fel y cyfryw efo hynny - ond mae ymweliad gan weinidog naill ai yn weinidogol neu dydi o ddim. Os ydi Lesley Griffiths eisiau ymchwilio i rhywbeth sydd oddi mewn i'w briff gweinidogol dylai wneud hynny oddi mewn i strwythurau'r rol honno. Mae ymweliad answyddogol gan wleidydd yn siwr o fod ag ochr wleidyddol iddi hi.

Yn amlwg dydi aelodau seneddol ddim wedi eu clymu gan god ymarfer gweinidogol - oni bai eu bod hefyd yn weinidogion.

Anonymous said...

Mae fy mhwyntiau i yn eithaf syml hefyd Mr Larsen. Rwy'n poeni amdanoch braidd. Peidiwch â chynhyrfu a phoeni dros fygythiadau wleidyddol yn Arfon at BC. Dewch am banad i'r caffi a chawn rhoi'r byd yn ei le yn hytrach na bod yn hen keyboard warriors fel dywrd y sais.

Sali

Anonymous said...

Hoffi sylwad Sali Mali. Ga I ddod hefyd os ydi Jac y Jwc a Pry Bach Tew yno.